Crynodeb

  • Gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru i nodi blwyddyn ers i'r DU fynd i'r cyfnod clo cyntaf

  • Bydd yn coffáu'r rheiny sydd wedi colli eu bywydau gyda Covid-19

  • Fe fydd arweinwyr gwleidyddol Cymru yn adlewyrchu ar effaith y pandemig ar y wlad

  • Bydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn darllen cerdd sydd wedi'i hysgrifennu'n arbennig ar gyfer yr achlysur

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Gyda'r anthem genedlaethol wedi'i chanu gan Sophie Evans, dyna'r cyfan o'r gwasanaeth coffa yng Nghaerdydd.

    Diolch am ddilyn ein llif byw, ac arhoswch yn ddiogel, gan obeithio y bydd y 12 mis nesaf yn arwain at ychydig mwy o normalrwydd.

    diolchFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. 'Galaru am anwyliaid ond amseroedd gwell i ddod'wedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Y siaradwyr olaf ydy Llywydd y Senedd, Elin Jones, a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

    Dywedodd Mr Drakeford bod "ein meddyliau gyda'r nifer fawr o deuluedd sy'n galaru colli anwyliaid a phawb sydd wedi'u colli".

    "Mae'r feirws yma wedi tori ein bywydau ben i waered, gan effeithio ar ein cynlluniau, ein gwaith ac achlysuron arbennig.

    "Ond mae hefyd wedi bod yn flwyddyn o gryfder a dewrder gan nifer o bobl ledled Cymru sydd wedi gweithi mor galed i'n cefnogi, gofalu amdanom a'n cadw yn ddiogel.

    "Mae wedi bod yn 12 mis anodd ond gallwn fod yn obeithiol y bydd y flwyddyn sydd o'n blaenau yn arwain at amseroedd gwell a mwy llewyrchus i ni oll."

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Cerdd arbennig gan Fardd Cenedlaethol Cymruwedi ei gyhoeddi 17:53 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Mae Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru wedi darllen cerdd arbennig o'r enw ‘Dod at ein coed’ yn y gwasanaeth.

    Dywedodd ei fod wedi ysgrifennu'r gerdd yn dilyn y cyhoeddiad diweddar y bydd dwy goedwig goffa yn cael eu plannu er cof am y rhai a gollwyd yn y pandemig.

    Ifor ap GlynFfynhonnell y llun, Emyr Llewelyn Jones

    Dod at ein coed

    Beth yw ein dyddiau ond cawod dail?

    A llynedd yn hydref affwysol o hir…

    Heddiw mae heulwen lem

    yr heb-fod-eto gwanwyn

    yn gwynnu sgerbydau’r bedw

    yn erbyn awyr boenus o las.

    A down yma,

    gan sathru clicied y manfrigau…

    ac yna, ymlonyddu,

    gan anadlu hefo'r coed…

    Bydd deilen yn disgyn;

    yn troelli a fflantio;

    a ninnau'n ymuno, gan bwyll, yn ei chylchoedd,

    nes nofio mewn atgofion.

    Gallwn ail-gyfannu yma,

    lle mae'r ffin yn denau

    rhwng gwreiddiau'r pridd, a brigau'r gwynt,

    rhwng corff ac enaid…

    A bydd y derw cyn hir

    yn hwylio'r tymhorau,

    yn taenu’u gogoniant

    drwy'r eglwysi gwyrdd,

    yn gogrwn haul

    i'r cysgodion islaw.

    A'n galar yn gwisgo lliwiau newydd,

    am fod rhaid…

  4. Gweithwyr iechyd a gofal yn rhannu eu profiadau nhwwedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    "Mae cyfraniad y gweithwyr iechyd, y gofalwyr, staff y cartrefi preswyl, wedi bod yn arbennig o bwysig," meddai Huw Edwards.

    Ymysg y rheiny sy'n rhannu eu profiadau yn y fideo nesaf sy'n cael ei ddangos mae staff Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor, yn ogystal â gofalwyr a staff cartrefi gofal.

    MaelorFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  5. Rhannu effaith y pandemig ar ysgolionwedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Mae'r pandemig wedi cael effaith fawr iawn ar blant a phobl ifanc hefyd, meddai Huw Edwards.

    Mae'r fideo nesaf sy'n cael ei ddangos yn rhannu profiadau disgyblion, athrawon a rhieni yn Ysgol Gynradd Pontprennau yng Nghaerdydd.

    Ysgol Gynradd PontprennauFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  6. Argraffiadau arweinwyr gwleidyddol o'r pandemigwedi ei gyhoeddi 17:35 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Nesaf yn y gwasanaeth mae arweinwyr y gwrthbleidiau yng Nghymru - Andrew RT Davies o'r Ceidwadwyr ac Adam Price ar ran Plaid Cymru - yn rhannu eu hargraffiadau nhw o'r pandemig.

    Dywedodd Mr Davies fod yr "ysbryd caredigrwydd" a ddangoswyd dros y 12 mis diwethaf yn "ymgorffori ei hun" ar draws cymunedau cyfan yng Nghymru.

    "Yr hyn y mae'n rhaid i ni fyfyrio arno heddiw, ydy'r 7,000 o deuluoedd nad oes ganddyn nhw anwylyd o amgylch y bwrdd cinio, heb ymweliad yn dod trwy'r drws, na'r neges cyfryngau cymdeithasol honno," meddai ar risiau'r Senedd.

    Dywedodd Mr Price fod "bywydau wedi'u difetha gan alar".

    "Heddiw rydyn ni'n mapio graddfa'r absenoldeb, y gadair wag, y llais a arferai roi cysur inni."

    Dywedodd fod y flwyddyn hefyd wedi bod yn un o "weithredoedd gofal rhyfeddol, gan nyrsys, criwiau ambiwlans, gweithwyr gofal, athrawon - mae'r rhestr cyhyd â bod ein dyled iddyn nhw yn ddwfn.

    "Flwyddyn yn ddiweddarach, mae gwyddoniaeth, gwasanaeth, a'r gymuned wedi cyflawni gobaith inni," ychwanegodd.

  7. Ysbryd cymunedol yn codi calonwedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Mae Huw Edwards yn dweud fod cymunedau wedi dod ynghyd, gan godi calonnau nifer trwy gyfnod anodd.

    Mae'r fideo nesaf yn dangos un esiampl o hynny - cymuned Cydweli yn Sir Gaerfyrddin.

    CydweliFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

    Dywed Lynda Finch-Jones, sy'n byw yn y pentref, nad yw'n gwybod sut y byddai hi a'i gŵr Steve wedi ymdopi heb waith gwirfoddol y cynghorydd tref Crisial Davies a'r gweithiwr archfarchnad Anne Gilley.

    Fe wnaeth Ms Finch-Jones ofalu am ei gŵr yn ystod y cyfnod clo cyntaf, a oedd yn cysgodi oherwydd ei fod yn bur wael gyda leukemia.

    "Rydyn ni'n byw mewn lle rhyfeddol... ond mae hefyd wedi bod yn lle unig iawn.

    "Dim cymdogion, nid ydym byth yn gweld unrhyw un."

    Dywedodd Ms Finch-Jones ei bod yn "uchafbwynt" gweld rhywun bob wythnos pan fyddan nhw'n gollwng cyflenwadau siopa iddyn nhw.

    "Mae angylion yn byw o gwmpas yma, mae yna rai angylion go iawn yn byw yma."

    Lynda Finch-JonesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Lynda Finch-Jones

  8. Profiadau staff adran achosion bryswedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Nesaf mae côr o staff yr adran achosion brys Ysbyty Treforys yn rhannu eu profiadau nhw, ac yn canu eu fersiwn nhw o Ar Hyd y Nos.

    Cofiwch ei bod yn bosib gwylio ffrwd byw o'r gwasanaeth ar dop y dudalen.

  9. Rhannu profiadau o golledwedi ei gyhoeddi 17:22 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Y cyntaf i rannu eu profiadau ydy Andrea Williams o Fro Morgannwg, a Natalie Power.

    Fe wnaeth Mrs Williams golli ei gŵr, Mark, i Covid-19 ar ddechrau'r pandemig ag yntau'n 58 oed.

    Mae hi'n un o sefydlwyr Grŵp Teuluoedd Covid-19 Cymru - sy'n cefnogi tua 1,300 o bobl sydd wedi colli anwyliaid.

    Bu farw tad Ms Power, Barry, gyda'r feirws ym mis Hydref, ac mae hi'n un o'r rhai sydd wedi plannu coeden yng nghoedwig goffa Cymru er cof amdano.

    Andrea a Mark WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrea a Mark Williams

  10. 'Dyma'n cyfle i gofio'r anwyliaid a gollwyd'wedi ei gyhoeddi 17:18 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Gan agor y gwasanaeth, mae'r darlledwr Huw Edwards yn dweud y bydd y gwasanaeth yn "cofio'r bywydau a gollwyd, diolch am y bywydau sydd wedi'u hachub a rhoi teyrnged i'r rheiny sydd wedi helpu yn y frwydr yn erbyn coronafeirws".

    "Bu'r flwyddyn a aeth heibio yn un hynod anodd," meddai.

    "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi newid ein bywydau. Mae wedi ein hatgoffa o werth ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac wedi gorfodi nifer i ailasesu'r hyn sy'n bwysig mewn bywyd ac ymestyn help llaw i'r unig a'r bregus.

    "Dyma'n cyfle ni felly – i gofio'r anwyliaid a gollwyd – ac i dalu teyrnged i bawb a fu’n brwydro yn erbyn y clefyd creulon yma."

    Bydd sawl ffilm fer yn cael eu chwarae trwy'r gwasanaeth fydd yn rhannu straeon pobl Cymru yn ystod y pandemig, sydd wedi'u cynhyrchu gan Lywodraeth Cymru.

    Huw EdwardsFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Angen ymchwiliad Covid Cymreig i osgoi 'uffern' i eraillwedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Mae angen ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru i effaith y pandemig er mwyn atal eraill rhag mynd drwy'r "uffern" brofodd dyn o Bontypridd.

    Bu farw rhieni James Heaton o fewn wythnosau i'w gilydd y llynedd, ac mae'n galw am ddysgu gwersi o'r sefyllfa.

    Dylai penderfyniadau Llywodraeth Cymru gael eu hystyried fel rhan o ymchwiliad ledled y DU, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford.

    Ond mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru'n dweud y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad Cymreig os ydyn nhw mewn grym ar ôl yr etholiad.

    Byddai ymchwiliad Cymreig yn "ddefnyddiol" yn ogystal ag ymchwiliad ledled y DU, meddai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots.

    Ond roedd "dewisiadau Cymru" yn ddibynnol ar bolisi Prydeinig a dylid "ystyried yn ei gyfanrwydd", meddai cymdeithas feddygol y BMA.

    Mae'r stori lawn ar gael ar ein hafan.

    Rhieni James HeatonFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu farw rhieni James Heaton o fewn wythnosau i'w gilydd y llynedd

  12. 'Y gwasanaeth heddiw yn bwysig,' medd yr Eglwyswedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Cyn y gwasanaeth ddydd Mawrth dywedodd y Parchedig Ainsley Griffiths, Cyfarwyddwr Ffydd, Trefn ac Undod yr Eglwys yng Nghymru bod y gwasanaeth heddiw yn bwysig.

    "Mae profiad pawb yn wahanol a phersonol," meddai.

    "Fe gollais i Mam ym mis Tachwedd – ond mae'n cofio ein bod yn cofio am y pethau da yn ogystal â'r tristwch.

    "Bydd heddiw yn gyfle hefyd i feddwl am eraill sydd wedi gweld y flwyddyn ddiwethaf yn anodd – mae nifer wedi dioddef yn feddyliol a dyma gyfle hefyd i ddiolch i weithwyr y GIG sydd wedi bod ar eu gliniau."

    Parchedig Ainsley GriffithsFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
  13. Tair chwaer yn cofio eu tad a gollwyd i Covidwedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Ychydig cyn y Nadolig llynedd fe gollodd Lydia, Esther a Rachel eu tad, John, i Covid-19.

    Maen nhw ymhlith y miloedd o deuluoedd fydd yn galaru ac yn cofio am eu hanwyliaid pan fydd adeiladau'n cael eu goleuo ar draws Cymru nos Fawrth i gofio'r rheiny sydd wedi marw o'r haint dros y flwyddyn ddiwethaf.

    Daeth marwolaeth John yn ergyd sydyn i'r teulu, gan mai prin wythnos fu ers iddo orfod mynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf.

    Roedd hefyd yn brofiad arbennig o anodd i Esther, sydd yn byw yn yr UDA ac felly heb allu dychwelyd i Gymru ar gyfer yr angladd.

    Disgrifiad,

    Tair chwaer yn cofio am eu tad a gollwyd i Covid

  14. Argraffiadau dau fu'n rhoi cymorth yn Ysbyty Treforyswedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Tad Jason Jones

    Dau arall fu'n rhannu eu hargraffiadau o'r pandemig ydy'r Tad Jason Jones, Caplan Ysbyty Treforys, a Tristan Taylor, sef prif nyrs yr ysbyty.

    "Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn anodd i bawb, felly wrth arwain y gwasanaeth yn Ysbyty Treforys mae penderfynu ar eiriau addas yn bwysig iawn i fi," meddai'r Tad Jones.

    "Mae'r gwasanaeth yn cynnig cefnogaeth a chyfle i rannu profiadau a rhoi gobaith i symud ymlaen."

    Ychwanegodd Mr Taylor: "Ar ddechrau'r pandemig o'n i yn dechre gweld cwpl o achosion yn Ewrop mewn gwledydd fel Ffrainc a’r Eidal.

    "Roedd y llunie oedd ar y newyddion o’r Eidal yn gneud i ni fel ysbyty edrych ar y sefyllfa bryd hynny ac roedd cyngor yn dod o’r llywodraeth ar bethe fel PPE.

    "Roedd yn rhaid meddwl sut i baratoi am beth allai fod - a phan oedd llunie yn dod mas o’r Eidal ar yr amser hynny roedd hi yn galed iawn i ni edrych arnyn nhw, achos ro'n i yn meddwl os bydde hynny yn digwydd i ni mae hi'n mynd i fod yn flwyddyn anodd - ac mae hi wedi bod."

    Tristan Taylor
  15. 'Dwi am gofio Mam fel oedd hi a chofio'r dyddiau da'wedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Un a gollodd ei Mam ym mis Tachwedd o ganlyniad i coronafeirws yw Lynne Williams o Aberystwyth.

    "Dwi'n cael diwrnodau mwy tywyll na'i gilydd, pan dwi'n hiraethu mwy na'i gilydd, pan dwi'n fwy crac na'i gilydd oherwydd y sefyllfa, dwi'n siŵr fod hynny yn naturiol hefyd," meddai.

    "Ond yn y pen draw dwi ddim yn gallu newid dim byd, mae gen i ddewis, un ai cofio Mam fel roedd hi a chofio'r bywyd yna neu adael i'r flwyddyn ddiwethaf 'ma suro yr holl flynyddoedd yna.

    "Felly dyna dwi'n trio ei wneud trio cofio'r dyddiau da, gobeithio."

    Bu'n rhannu ei hanes ar raglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru.

    Disgrifiad,

    'Dwi am gofio Mam fel oedd hi a chofio'r dyddiau da'

  16. Munud o dawelwch ar draws Cymruwedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Disgrifiad,

    Pobl ar draws Cymru'n cofio blwyddyn o Covid

    Bu cymunedau ledled Cymru yn cynnal munud o dawelwch am hanner dydd er cof am y bobl sydd wedi colli eu bywydau yn ystod cyfnod pandemig Covid-19.

    Fe wnaeth sefydliadau, busnesau, ysgolion, siopau, ysbytai ac eraill ofyn i bobl lonyddu am funud er mwyn nodi'r achlysur.

    Mae 23 Mawrth yn nodi union flwyddyn ers i bobl gael eu cynghori i aros adref wrth i gyfyngiadau llym gael eu cyflwyno.

  17. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2021

    Prynhawn da a chroeso i'n ffrwd byw o Ddigwyddiad Coffa Cenedlaethol Coronafeirws Llywodraeth Cymru.

    Wedi'i gyflwyno gan y darlledwr Huw Edwards, bydd yn coffáu'r rheiny sydd wedi marw gyda Covid-19 ac yn rhoi teyrnged i'r bobl sydd wedi helpu eraill trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.

    Bydd arweinwyr gwleidyddol hefyd yn adlewyrchu ar effaith y pandemig ar Gymru.

    Fe allwch chi wylio'r cyfan yma ar dop y llif byw rhwng 17:15 a 18:00, a chyn hynny fe fyddwn ni'n rhannu straeon rhai o'r bobl sydd wedi gweld newid byd yn ystod y pandemig.