Y sesiwn ar benwedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2021
BBC Cymru Fyw
Mae'r sesiwn arbennig yn y Senedd wedi dod i ben, diolch am ddilyn.
Y Senedd wedi ei adalw ddydd Llun er mwyn rhoi teyrngedau
Bu farw'r Dug yn 99 oed yn Windsor ddydd Gwener
Bydd y Llywydd yn dechrau'r sesiwn rithiol
Bydd arweinwyr y prif bleidiau yna'n rhoi teyrngedau
BBC Cymru Fyw
Mae'r sesiwn arbennig yn y Senedd wedi dod i ben, diolch am ddilyn.
BBC Cymru Fyw
Rhoddodd Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol deyrnged i waith y Dug gyda phobl ifanc.
Dywedodd bod ei ymrwymiad yn fwy na Gwobr Dug Caeredin yn unig, a'i fod wedi cefnogi "datblygiad llyfrgelloedd cyhoeddus a chydnabod pwysigrwydd mynediad at lyfrau wrth rannu gwybodaeth" dros y byd.
Dywedodd Mark Reckless o Blaid Diddymu'r Cynulliad bod gan y Dug y gallu i gael "sgyrsiau go iawn gyda chymaint o bobl", a thrwy hynny, "cyffwrdd ym mywydau gymaint o bobl drwy ddweud rhywbeth arbennig" i bob un.
BBC Cymru Fyw
Dywed Caroline Jones, aelod annibynnol yn etholiad Senedd 2021 ond sydd hefyd yn cynrychioli y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio ei bod, fel brenhinwraig ymroddedig, yn mynd i golli'r Dug yn fawr.
"Rhaid i'r gweriniaethwyr pennaf," meddai, "gydnabod bod ei gyfraniad i wasanaeth cyhoeddus heb ei ail.
"Roedd e'n ddyn o flaen ei amser, yn rhoi sylw i fyd natur a'r amgylchedd cyn bod hynny yn ffasiynol.
"Roedd e'n lysgennad gwych i'r frenhiniaeth a bydd bwlch anferth ar ei ôl wedi iddo fod yn noddwr dros 800 o sefydliadau ac yn gefnogwr pybyr i gymaint o achosion."
BBC Cymru Fyw
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod gwlad ddemocrataidd sydd hefyd â brenhiniaeth "angen pobl ddeallus i fod yn ymgymryd â'r swyddi hynny, ac "o'm mhrofiad i o'r Dug, roedd yn ddeallus, yn frwdfrydig ac yn ddi-ben-draw ei gwestiynau".
Ychwanegodd bod diddordeb "unigryw" y Dug mewn crefydd yn golygu ei fod yn "deall pwysigrwydd ffydd i gymunedau, ac ieithoedd amrywiol".
Diolchodd am ei waith yn ardal Meirionnydd, a diolchodd iddo am fod yn "gynrychiolydd teilwng o amrywiaeth cenedligol a chrefyddol y Deyrnas Unedig".
Plaid Cymru
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Estynnaf ar ran grŵp Plaid Cymru yn Senedd Cymru fy nghydymdeimladau dwysaf i'r Frenhines Elizabeth a'i theulu yn eu profedigaeth."
Dywedodd ei bod yn bwysig cofio mai "son ydym am wraig sydd wedi colli gŵr" a "gwagle diamgyffred sydd wedi agor yn dilyn amser maith ynghyd".
Mae'r tawelwch heddiw yn symbol, meddai, o'r "cyd-alaru" gyda phawb a gollodd anwyliaid "yn y flwyddyn anoddaf hon".
Ychwanegodd bod y sesiwn i ddiolch am ei gyfraniad i fywyd, yn enwedig ym maes addysg awyr agored i bobl ifanc.
Dywedodd bod ei ymrwymiad i'r maes hwnnw a dyfodiad Gwobr Dug Caeredin wedi galluogi i lawer yn fwy o blant "wireddu eu potensial" na fyddai wedi gallu mynychu ysgolion "elitaidd eu natur" oedd yn cynnig addysg yn yr awyr agored ddegawdau yn ôl.
"Yma i wneud cyfraniad yr ydym oll, yn unol â'n gallu a'n gwerthoedd, a'r cyfraniad pennaf yw gwasanaethu eraill, dyma neges graidd a gymerodd y Tywysog Phillip yn gwmpawd i'w fywyd."
Y "cymorth a gynigiodd i eraill" ydy gwaddol pwysicaf y Dug, meddai, gan ddiolch am hynny.
Ceidwadwyr Cymreig
Yn ei deyrnged cyfeiriodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, at y diddordeb a oedd gan y Dug yng ngwaith y Senedd pan wnaeth e'n bersonol ei gyfarfod yn ystod agor tymor newydd y Cynulliad yn 2007, 2011 a 2016.
"Mae ei waith yn sefydlu Gwobr Dug Caeredin yn anhygoel - ac wedi gwella rhagolygon wyth miliwn o bobl ar draws y byd - gan gynnwys 400,000 yng Nghymru.
"Roedd e'n ddyn oedd wedi ymddiddori mewn bywyd gwyllt a'r amgylchedd mor gynnar â'r 1960au," meddai.
Cyfeiriodd at ei gyfraniad hir i fywyd cyhoeddus - cyfnod a welodd 13 prif weinidog yn arwain Llywodraeth y DU.
Rhoddodd ddiolch hefyd am ei rôl yn gwasanaethu Prifysgol Cymru a'r Gynghrair Bêl-droed yng Nghymru.
Llafur Cymru
Soniodd Mark Drakeford am fywyd "eithriadol" Dug Caeredin, oedd yn ogystal yn dal teitl Iarll Meirionnydd.
Dywedodd ei fod yn ymwneud ag "amrywiaeth eang" o gymdeithasau ym Meirionnydd ym meysydd diwylliant, chwaraeon a'r amgylchedd, a'i fod wedi gwasanaethu yma yng Nghymru ar sawl achlysur ar hyd ei oes.
Ond yn ogystal â'i wasanaeth, dywedodd Mr Drakeford y dylid "oedi am eiliad i gofio'r stori bersonol sy'n cyd-fynd gyda'i wasanaeth".
Roedd Mr Drakeford am gofio'r miloedd o deuluoedd sydd hefyd wedi colli anwyliaid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a dywedodd bod y galar a fydd yn cael ei deimlo i bob un yn unigryw.
Ychwanegodd: "Ar ran Llywodraeth Cymru... rwy'n estyn ein cydymdeimlad didwyll ar derfyn bywyd eithriadol a gafodd ei fyw i'r eithaf."
BBC Cymru Fyw
Yn dilyn y munud o dawelwch, y Prif Weinidog Mark Drakeford fydd y cyntaf i annerch aelodau.
BBC Cymru Fyw
Mae teyrngedau wedi eu rhoi o bob rhan o Gymru yn dilyn y newyddion am y farwolaeth ddydd Gwener.
Fe fydd y sesiwn y bore 'ma yn dechrau am 11:00 gyda chyflwyniad gan y Llywydd a munud o dawelwch.
Yna fe fydd arweinwyr y prif bleidiau yn rhoi eu teyrngedau unigol i Ddug Caeredin.
Senedd Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae Senedd Cymru yn cynnal sesiwn arbennig fore Llun i roi teyrnged i Ddug Caeredin, y Tywysog Phillip, a fu farw ddydd Gwener.
Bydd modd gwylio'r sesiwn yn fyw yma.