Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn rhybuddio bod Cymru "ar drothwy trydedd ton"

  • Cadarnhad na fydd llacio sylweddol ar reolau coronafeirws am bedair wythnos arall

  • Rhai mân newidiadau yn dod i rym ddydd Llun, gan gynnwys y rheolau ar westeion i briodasau

  • Modd i hyd at 30 o blant ysgol gynradd aros dros nos mewn canolfannau preswyl addysg awyr agored hefyd

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw, wrth i'r Prif Weinidog gadarnhau na fydd unrhyw newidiadau mawr i'r rheolau coronafeirws am bedair wythnos arall.

    Ychwanegodd bod Cymru "ar drothwy trydedd don", ond nad yw'r sefyllfa yn agos at fod angen cyfnod clo arall.

    Bydd rhai mân newidiadau yn dod i rym ddydd Llun, gan gynnwys y bydd nifer y bobl a gaiff fynychu priodas neu de angladd yn cael ei bennu gan faint y lleoliad ac ar sail yr asesiad risg.

    Fe fydd modd hefyd i hyd at 30 o blant ysgol gynradd aros dros nos mewn canolfannau preswyl addysg awyr agored.

    Diolch am ddilyn, a mwynhewch eich penwythnosau!

  2. Galw am 'negeseuon clir' gan y llywodraethwedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Mae Cadan ap Tomos o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi pwysleisio'r angen am negeseuon clir er mwyn perswadio pobl am yr angen i gadw at y rheolau wrth iddyn nhw gael eu hymestyn.

    "Mae rhaid deall wrth feddwl am nifer yr achosion yn newid ac yn cynyddu a'r ffaith bod ni yn becso am yr amrywiolyn newydd yma," meddai.

    "Rwy'n meddwl bod y cyhoeddiad heddiw yn 'neud lot o synnwyr, a chroesawu'n fawr beth sydd yn cael ei ddweud am briodasau a beth sydd yn cael ei ddweud ynglŷn â chanolfannau awyr agored.

    "Mae'r newidiadau yma yn 'neud y rheolau 'ma i 'neud bach mwy o synnwyr falle i bobl, yn mynd i helpu i gadw at y rheolau, gan feddwl ein bod ni yn gofyn mwy ar bobl unwaith eto.

    "Mae'r negeseuon sydd yn dod mas o'r llywodraeth yn glir i sicrhau bod hi yn haws i bobl gadw at y rheolau, achos ni wedi bod mewn cyfyngiadau am eitha' hir nawr ac wrth i ni fynd ymlaen fi'n credu bod angen mwy o berswâd ar bobl i gadw at y rheolau llym yma y'n ni'n dal yn gorfod dioddef."

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. 'Angen sicrhau cefnogaeth i wasanaethau olrhain'wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Plaid Cymru

    Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth eu bod nhw yn cytuno gydag agwedd bwyllog Llywodraeth Cymru, ond bod angen sicrhau bod gan wasanaethau olrhain y gefnogaeth sydd ei angen.

    "'Da ni yn deall rŵan beth ydi bod ar gychwyn ton yndydan, ac mi ydan ni ar gychwyn ton a 'da ni'n gwybod i ba gyfeiriad yr awn ni o ran nifer yr achosion os dydy pethau ddim yn cael eu gwneud yn ofalus.

    "Beth 'da ni ddim yn gwybod ydy pa effaith yn union fydd y cynnydd mawr sydd wedi bod yn niferoedd y brechiadau yn ei gael ar ba mor sâl mae pobl yn mynd i fod a faint o bobl sydd yn mynd i'r ysbyty ac yn y blaen. Dwi'n gobeithio bydd y darlun yna yn gliriach.

    "Mae nifer o gwestiynau yn codi allan o'r cyhoeddiad yma - beth sydd yn mynd i gael ei wneud rŵan i gefnogi llywodraeth leol yn fwy fyth hefo gwasanaethau olrhain, hefo rhagor o adnoddau ac ati, achos mae hynna yn bwysig er mwyn i ni fedru cadw rheolaeth mor dynn â phosib ar y lledaeniad o fewn cymunedau."

    Rhun ap Iorwerth
  4. Galw am fwy o gefnogaeth wrth i'r cyfyngiadau barhauwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywedodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies ei fod yn "falch bod gweinidogion Llafur wedi gwrando ar alwad y Ceidwadwyr Cymreig i roi mwy o eglurder a hyblygrwydd i ddigwyddiadau pwysig fel priodasau".

    "Gan fod y cyfyngiadau'n parhau, bydd angen mwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau Cymru ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn manylu ar ba fuddsoddiad ychwanegol a ddaw gan ei lywodraeth i amddiffyn swyddi," meddai.

    Ond ychwanegodd hefyd ei fod yn siomedig bod cyhoeddiadau am lacio cyfyngiadau yn cael eu gwneud i'r wasg, yn hytrach na'r Senedd, a bod hynny'n atal aelodau rhag craffu ar newidiadau yn amserol.

    Ychwanegodd y Ceidwadwyr bod angen i Mark Drakeford roi mwy o eglurder ynglŷn â pha gyfyngiadau fydd yn cael eu llacio yn y dyfodol, a phryd.

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Brechiadau ddim am fod yn orfodol i staff gofalwedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn teimlo bod "dyletswydd" ar unrhyw un sy'n gweithio yn y sectorau iechyd a gofal i gael eu brechu, ond nad yw wedi ystyried ei wneud yn orfodol.

    Mae Lloegr wedi cyhoeddi y bydd hi'n orfodol i weithwyr mewn cartrefi gofal gael eu brechu.

    "Ein penderfyniad ni ydy - os allwn ni berswadio pobl, gan roi tystiolaeth iddynt er mwyn profi bod y brechiadau yn ddiogel ac yn effeithiol - mae hynny yn ffordd well o wneud pethau," meddai Mark Drakeford wrth y gynhadledd.

    GofalFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. 'Angen gwybod mwy am beth fydd y gofynion ar y GIG'wedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiynau gan newyddiadurwyr dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd Cymru "yn newid pwyslais" yn ystod yr wythnosau nesaf gan "sicrhau fod y boblogaeth yn cael dau ddos".

    Fe fydd y prif bwyslais, medd Mr Drakeford, ar bobl yn eu 50au a 60au.

    Dywedodd hefyd y bydd awdurdodau lleol yn targedu ardaloedd lle mae cyfradd yr achosion yn uwch ac ychwanegodd mai'r "dasg fawr" arall oedd cael mwy o wybodaeth am sut mae brechu yn sicrhau nad oes angen triniaeth ysbyty.

    "Dyw'r manylion am hynny ddim yn ddigon da ar hyn o bryd a 'dan ni ddim yn gallu cynllunio yn ddigon hyderus beth yn union fydd y gofynion ar y gwasanaeth iechyd a faint o gyfyngiadau y byddwn ni'n gallu eu llacio wedi'r pedair wythnos nesaf.

    "Byddwn yn cael data gan Loegr a'r Alban ar hynny gan eu bod nhw eisoes ar y llwybr hwn."

  7. Cymru 'ddim yn agos' at fod angen cyfnod clo arallwedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Dydy Cymru "ddim yn agos" at fod angen cyfnod clo arall, er bod nifer yr achosion o Covid-19 yn cynyddu yma, meddai Mark Drakeford.

    Dywedodd wrth y gynhadledd bod llacio'r cyfyngiadau ar stop am bedair wythnos oherwydd bod y llywodraeth "ddim eisiau cynyddu'r risg" o waethygu'r sefyllfa bresennol.

    "Mae pethau'n wahanol iawn y tro yma na'r oedden nhw ym mis Mawrth y llynedd a dros y Nadolig, yn bennaf oherwydd y rhaglen frechu," meddai.

    "Yr hyn dydyn ni ddim yn sicr amdano ydy pa mor effeithiol fydd y brechiadau yn torri'r cyswllt rhwng cael y feirws a bod angen triniaeth ysbyty.

    "Y mwyaf o bobl allwn ni frechu, y cryfaf fydd ein hamddiffyn ni ac y gorau fydd ein siawns i beidio gorfod mynd am yn ôl o ran y cyfyngiadau."

    CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Anogaeth i gymryd y ddau ddos o'r brechlynwedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Bydd hanner miliwn dos o'r brechlyn yn cael eu dosbarthu yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn atal ton newydd o'r haint - bydd y rhan fwyaf o'r rhain yn ail ddos.

    "Ry'n yn cyflymu'r ail ddos - ond mae'n ofynnol i hanner miliwn o bobl ateb y gwahoddiad a chael yr ail ddos o'r brechlyn.

    "Mae'n anorfod y bydd mwy o achosion o'r haint yng Nghymru ond mae modd osgoi y niwed a ddaw yn sgil hynny.

    "[Mae osgoi unrhyw niwed] yn golygu ateb yn gadarnhaol i'r cynnig o gael dau ddos o'r brechlyn," meddai'r Prif Weinidog.

  9. 'Y rhaglen frechu yn llwyddiant ond rhaid derbyn y cynnig'wedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Yn ystod y pedair wythnos nesaf fe fydd ein pwyslais ar frechu cymaint o bobl â phosib," medd y Prif Weinidog.

    Gan fanylu ar y rhaglen frechu mae'n cadarnhau bod gan Gymru y rhaglen frechu orau yn y DU a bod y cyfraddau brechu yng Nghymru ymhlith y gorau yn y byd.

    Ychwanega Mark Drakeford bod Cymru yr wythnos hon wedi cyrraedd y targed o frechu oedolion sy'n gymwys i gael y brechlyn chwe wythnos yn gynnar.

    Ond mae'n pwysleisio ei bod hi'n allweddol fod pawb yn cadw at eu hapwyntiad ac yn derbyn y cynnig o gael eu brechu.

  10. Diweddaru canllawiau i'w gwneud yn 'haws i'w deall'wedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Er yr oedi yn llacio, dywedodd y Prif Weinidog y bydd rhai newidiadau bychan yn cael eu gwneud i'r canllawiau i'w gwneud yn "haws i'w deall a'u gweithredu i fywyd pob dydd".

    Cadarnhaodd y bydd nifer y bobl a gaiff fynychu priodas neu de angladd yn cael ei bennu gan faint y lleoliad ac ar sail yr asesiad risg.

    Dywedodd hefyd y bydd modd i hyd at 30 o blant ysgol gynradd aros dros nos mewn canolfannau preswyl addysg awyr agored, ac y bydd lleoliadau cerddoriaeth a chomedi yn cael gweithredu ar yr un sail â thafarndai a chaffis.

    Ychwanegodd Mark Drakeford y bydd rhai canllawiau yn cael eu diweddaru, fel cyngor i fusnesau ar sut i weithredu ymbellhau cymdeithasol, a'r canllawiau ar ymweld â phobl mewn ysbytai.

    Dywedodd hefyd y bydd y llywodraeth yn gweithio gydag ysgolion i geisio lleihau'r angen i ddisgyblion wisgo mygydau ym mhob dosbarth, trwy gydol y dydd.

  11. 'Rydyn ni ar drothwy trydedd don'wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Mae dwy ran o dair o achosion," medd y Prif Weinidog, "yn achosion sy'n deillio o gysylltiad yn y gymuned.

    "Mae'r haint ar gynnydd ar draws Cymru ac ry'n yn wynebu sefyllfa iechyd cyhoeddus ddifrifol.

    "Mae'n ymgynghorwyr gwyddonol yn credu ein bod bellach ar drothwy trydedd don.

    "Mae Cymru yn debygol o fod bythefnos neu dair y tu ôl i Loegr a'r Alban - lle mae degau o achosion wedi cael eu cadarnhau a mwy yn gorfod cael triniaeth ysbyty.

    "Mae'r cynnydd diweddaraf yn yr achosion yn golygu na fyddwn yn llacio y cyfyngiadau ymhellach yn ystod y pedair wythnos nesaf."

    Mae'n ychwanegu y bydd yr wythnosau nesaf yn gyfle i frechu mwy o bobl er mwyn rheoli effaith y don newydd.

    Mae'n cadarnhau bod ffigyrau o achosion positif ar eu hisaf yng Nghymru a bod mwy wedi cael eu brechu yma.

  12. Amrywiolyn Delta ar gynnyddwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    "Mae'r achosion o amrywiolyn Delta ar gynnydd," medd y Prif Weinidog.

    "Bythefnos yn ôl roedd 97 achos wedi'u cadarnhau - y mwyaf yn gysylltiedig â chlystyrau yng ngogledd a de-ddwyrain Cymru.

    "Ddoe roedd y nifer yn 490 achos ac fe fydd y nifer yn uwch heddiw.

    "Mae'r wybodaeth ddiweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu bod wyth achos ymhob deg yng Nghymru bellach yn amrywiolion Delta."

  13. 'Yn drist - darlun gwahanol heddiw'wedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Wrth agor y gynhadledd dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod yn ddiweddar wedi bod yn cyflwyno darlun postif o sefyllfa Covid ond ei fod heddiw, yn drist iawn, am y tro cyntaf eleni, yn gorfod nodi bod cynnydd yn nifer y rhai sydd â'r haint yng Nghymru.

    Ers diwedd Mai mae nifer yr achosion wedi dechrau codi eto yng Nghymru - gyda chynnydd sylweddol mewn achosion ymhlith pobl dan 25 oed.

    "Pan 'nes i siarad â chi bythefnos yn ôl - roedd yna lai na 10 achos ymhlith 100,000 o bobl Cymru - heddiw mae'r gyfradd yn 23.6 ac mae'r gyfradd mewn dau awdurdod lleol yn 50 achos ymhlith 100,000.

    "Mae'r gyfradd o achosion positif wedi mwy na dyblu i 2.4%," meddai.

  14. Gwyliwch y gynhadledd yn fywwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Covid ymhell o fod yn brif achos marwolaethauwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Mae Covid-19 bellach ymhell o fod yn bennaf gyfrifol am achosion marwolaethau yng Nghymru - mae wedi syrthio i'r 31ain safle.

    Yn ystod chwech o'r 14 mis diwethaf, Covid-19 oedd y prif achos.

    Roedd yna 15 marwolaeth o ganlyniad i Covid ym mis Mai - 0.6% o'r holl farwolaethau - yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Roedd y cyfartaledd marwolaeth o ganlyniad i Covid ym mis Mai - sef 5.2 ymhob 100,000 yr isaf ers dechrau'r pandemig.

    Yn Ebrill roedd Covid yn cael ei gyfrif y 18fed prif achos marwolaethau yng Nghymru.

  16. Fydd 'na fân newidiadau?wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Er nad oes disgwyl unrhyw newid mawr yn y rheolau, bydd rhai mân newidiadau i'r canllawiau yn dod i rym ddydd Llun, gan gynnwys y rheolau ar westeion i briodasau.

    Mae'r newidiadau fydd yn dod i rym ddydd Llun yn cynnwys:

    • Bydd nifer y bobl a gaiff fynd i dderbyniad priodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd, a drefnir gan fusnes mewn eiddo dan do sy'n cael ei reoleiddio, megis gwesty, yn cael ei bennu gan faint y lleoliad ac ar sail yr asesiad risg;
    • Bydd lleoliadau cerddoriaeth a chomedi bach ar lawr gwlad yn cael gweithredu ar yr un sail â lleoliadau lletygarwch, fel tafarnau a chaffis;
    • Bydd modd i hyd at 30 o blant ysgol gynradd sydd yn yr un grŵp cyswllt neu swigen yn yr ysgol aros dros nos mewn canolfan breswyl addysg awyr agored.

    Bydd digwyddiadau peilot ym maes celfyddydau, chwaraeon ac mewn sectorau eraill hefyd yn parhau drwy gydol mis Mehefin a Gorffennaf.

    PriodasFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd nifer y gwesteion sy'n cael mynychu priodasau yn dibynnu ar faint y safle o ddydd Llun ymlaen

  17. Beth ydyn ni'n ei ddisgwyl heddiw?wedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Bydd Mark Drakeford yn cyhoeddi na fydd yna lacio sylweddol ar reolau coronafeirws yng Nghymru am bedair wythnos arall.

    Mae hynny oherwydd pryder am amrywiolyn Delta, gafodd ei ganfod gyntaf yn India.

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y cyfnod yn rhoi cyfle i roi ail ddos brechlyn i fwy o bobl.

    Y bwriad yw rhoi mwy na 500,000 o ddosau "er mwyn helpu i atal ton newydd o salwch difrifol wrth i achosion o'r coronafeirws ddechrau codi".

    Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod bron 490 o achosion o'r amrywiolyn Delta yng Nghymru, gyda dros bedwar o bob pum achos newydd yn ganlyniad i'r amrywiolyn.

    BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Cadarnhau 163 achos newydd o Covid-19wedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae 163 yn rhagor o achosion Covid-19 wedi'u cofnodi ar draws Cymru yn ôl ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Ni chafodd yr un farwolaeth ei chofnodi yn y 24 awr hyd at 09:00 fore Iau.

    Mae nifer y marwolaethau yn parhau i fod yn 5,572, gyda chyfanswm o 214,545 o achosion yng Nghymru erbyn hyn.

    Y nifer y bobl sydd wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn yw 2,228,532.

    Mae 1,473,927 bellach wedi derbyn dau ddos.

  19. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 18 Mehefin 2021

    Helo a chroeso i'n llif byw o gynhadledd Llywodraeth Cymru ar ddydd Gwener, 18 Mehefin.

    Y Prif Weinidog, Mark Drakeford fydd yn cynnal y gynhadledd am 12:15, ble fydd yn cadarnhau na fydd unrhyw lacio sylweddol ar y canllawiau coronafeirws yng Nghymru am bedair wythnos arall.

    Ond nid yr adolygiad o'r rheolau sy'n digwydd pob tair wythnos ydy hwn - yr wythnos nesaf fydd hwnnw.

    Arhoswch gyda ni am y diweddaraf.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images