Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:24 Amser Safonol Greenwich+1 23 Mehefin 2021
Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn.
Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ddydd Mawrth. Da boch chi.
Y Senedd yn "condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd".
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dadl Aelodau - Gwasanaethau bws
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd
Alun Jones
Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn.
Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ddydd Mawrth. Da boch chi.
Mae cynnig y Ceidwadwyr ar Brexit yn cael ei ddileu yn ei gyfanrwydd ac yn cael ei ddisodli gan welliant Llywodraeth Lafur Cymru.
Yna mae'n cael ei basio gan ASau, gyda 28 o blaid, neb yn ymatal a 26 yn erbyn.
Felly mae'r Senedd:
1. Yn cydnabod canlyniad refferendwm yr UE.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU.
3. Yn condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
4. Yn condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin.
5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn Deyrnas Unedig sydd wedi’i diwygio’n sylweddol.
Mae gwelliant Llywodraeth Lafur Cymru - a gyflwynir gan Mick Antoniw, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad - yn ceisio dileu popeth yng nghynnig y Ceidwadwyr a rhoi yn ei le gynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod canlyniad refferendwm yr UE.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn modd adeiladol gyda’r UE er mwyn lleihau effaith y cytundeb y cytunwyd arno ar fusnesau a dinasyddion ledled y DU.
3. Yn condemnio methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid na fyddai Cymru ar ei cholled yn ariannol mewn unrhyw ffordd yn sgil ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
4. Yn condemnio ymosodiad parhaus Llywodraeth y DU ar ddatganoli drwy Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, cronfa codi’r gwastad a’r gronfa ffyniant gyffredin.
5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgysylltu â phobl Cymru er mwyn ystyried ein dyfodol cyfansoddiadol o fewn Deyrnas Unedig sydd wedi’i diwygio’n sylweddol.
Mae gwelliant Plaid Cymru, a gyflwynir gan Rhys ab Owen, yn ceisio dileu popeth yng nghynnig y Ceidwadwyr a rhoi yn ei le gynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bygythiadau parhaus Llywodraeth y DU i ddatganoli ar ôl Brexit, yn benodol o ran Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, y gronfa lefelu i fyny a'r gronfa ffyniant gyffredin;
2. Yn credu y dylai pleidleiswyr bob amser gael cynigion clir a manwl ar refferenda cyfansoddiadol;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau i'r Senedd alw refferendwm rhwymol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru a fyddai'n rhoi dyfodol Cymru yn nwylo Cymru.
Y pwnc a ddewiswyd gan y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer eu dadl yw "Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd".
Mae Darren Millar yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 23 Mehefin 2021 yn nodi pum mlwyddiant pobl Cymru yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd.
2. Yn credu y dylid parchu canlyniadau refferenda bob amser.
3. Yn cydnabod bod nifer fawr o gyfrifoldebau newydd wedi'u trosglwyddo i Senedd Cymru o ganlyniad i'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo a manteisio ar y cyfleoedd y mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.
Mae'r cynnig sy'n galw am fwy o fanylion ac amserlen gan Lywodraeth Cymru ar ei haddewid i wella gwasanaethau bysiau yn cael ei basio heb wrthwynebiad.
Mae Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn esbonio bod gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn rhan allweddol o gynllun Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'i nod yw cynhyrchu cynllun i edrych ar bob agwedd ar ddarparu gwasanaethau bysiau erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd y cynllun bysiau yn cael ei ategu gan Bapur Gwyn, yn ymgynghori ar y cynigion i gyflwyno bil bws.
Dywed fod gwella gwasanaethau bws yn “fater cyfiawnder cymdeithasol” oherwydd nad oes gan 80 y cant o ddefnyddwyr bysiau unrhyw gludiant amgen, ond ar yr un pryd “nid yw 50 y cant o bobl byth yn defnyddio bws.”
“Mae yna raniad cymdeithasol go iawn ynghylch delwedd bysiau.
"Ond mae angen i ni wynebu hynny, mae'n rhaid i fysiau fod at ddefnydd pawb."
Mae'r cyn-weinidog Llafur, Alun Davies, yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o "fethu â chyflawni'r cysylltedd y mae pobl ei angen ac sydd â'r hawl i'w ddisgwyl" yn achos ysbyty'r Faenor.
"Agorwyd yr ysbyty ac nid oes gennym y gwasanaethau bysiau i gysylltu'r bobl â'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom," meddai.
Agorodd yr ysbyty mawr cyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru mewn mwy na dau ddegawd y llynedd.
Mae'r ysbyty gwerth £350m yn Llanfrechfa, Cwmbran, yn gyfleuster 471 gwely lle mae tua thri chwarter y cleifion yn cael eu trin yn eu hystafelloedd eu hunain.
Mae aelodau o bob plaid yn y Senedd nawr yn pwyso am fwy o fanylion ac amserlen gan Lywodraeth Cymru ar ei haddewid i wella gwasanaethau bws.
Mae Huw Irranca-Davies (Ogwr), dolen allanol yn cyflwyno'r cynnig yn y Ddadl Aelodau, bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cytundeb gwasanaethau bysiau o fis Mawrth 2021 yn ymrwymo £37.2 miliwn o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
2. Yn nodi bod y cytundeb yn ymrwymo i ail-lunio gwasanaethau bysiau lleol yn sylfaenol, gan ddiwallu anghenion teithwyr yn well.
3. Yn nodi bod y cytundeb hefyd yn ceisio ailadeiladu defnydd ar ôl COVID-19, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae amodau'n caniatáu.
4. Yn nodi ymhellach y cyhoeddwyd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, sy'n cynnwys amrywiaeth o ymrwymiadau gan gynnwys:
a) ymestyn cyrhaeddiad gwasanaethau bysiau;
b) datblygu deddfwriaeth bysiau newydd i roi mwy o reolaeth i'r sector cyhoeddus dros wasanaethau bysiau lleol;
c) darparu gwasanaethau bysiau arloesol, mwy hyblyg, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y sector masnachol a'r trydydd sector; a
d) sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau bysiau yn hygyrch, yn ddeniadol ac yn ddiogel i bawb.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi cynlluniau ac amserlenni manwl ar gyfer cyflawni'r ymrwymiadau ar wasanaethau bysiau yn Llwybr Newydd, dolen allanol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a phartneriaid i ymgysylltu'n ystyrlon â chymunedau lleol ledled Cymru ar y strategaeth ac wrth ail-lunio gwasanaethau bysiau i ddiwallu'r anghenion trafnidiaeth a nodwyd gan y cymunedau hynny.
Mae'r Senedd yn penodi Ken Skates (Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig), Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a Joyce Watson (Llafur Cymru), yn aelodau o Gomisiwn y Senedd, sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd.
Mae'r ASau yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:
1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Llafur;
2. Y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig - Ceidwadwyr Cymreig;
3. Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol – Ceidwadwyr Cymreig;
4. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Plaid Cymru;
5. Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Llafur;
6. Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Plaid Cymru;
7. Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Llafur;
8. Y Pwyllgor Cyllid - Plaid Cymru;
9. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Ceidwadwyr Cymreig;
10. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad - Llafur;
11. Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Llafur;
12. Y Pwyllgor Deisebau - Llafur.
Mae Cefin Campbell o Blaid Cymru yn mynegi pryder y bydd Llywodraeth Cymru "yn methu â gwario cyllideb y Cynllun Datblygu Gwledig sy'n dod i ben yn 2023, yn llawn,"
Mae 60% wedi cael ei wario hyd yn hyn, meddai.
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths yn ateb "rydym yn parhau i wneud cynnydd da iawn mewn perthynas â'n rhaglen Cynllun Datblygu Gwledig.
"Mae mwy na £512 miliwn eisoes wedi'i wario. Fel y dywedwch, mae £362 miliwn arall i'w wario dros y tair blynedd nesaf, ac yn sicr rwy'n cwrdd yn rheolaidd â'm swyddogion sy'n monitro'r Cynllun Datblygu Gwledig, ac ar hyn o bryd rydym yn hyderus iawn y bydd yr arian hwnnw'n cael ei wario."
Dywed y Ceidwadwr Sam Kurtz fod TB buchol (twbercwlosis) yn parhau i achosi "straen a phoen" i ffermwyr. ac yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o "fethiant polisi".
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn ateb bod y tueddiadau ar i lawr, gan gynnwys digwyddiadau newydd o'r clefyd mewn buchesi nad oedden nhw wedi'u heffeithio o'r blaen.
"Rydyn ni wedi cael gostyngiad o 2 y cant mewn achosion newydd yn y 12 mis hyd at Fawrth 2021," meddai.
Yr wythnos diwethaf dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod TB mewn gwartheg yn lledu yng Nghymru oherwydd "mewnforio TB gan ffermwyr yn prynu gwartheg heintiedig." Mewn ymateb mae'r Gymdeithas Cig Eidion Genedlaethol wedi ysgrifennu at Mark Drakeford yn gofyn iddo "ymddiheuro i'r diwydiant am y difrod rydych chi wedi'i achosi."
Mae Sam Kurtz yn gofyn i Lesley Griffiths a fyddai’n “cynnig ymddiheuriad” i ffermwyr Cymru. Dywedodd Mr Kurtz fod y datganiad "wedi achosi dicter ymhlith ffermwyr yng Nghymru a oedd yn gwneud popeth sy'n cael ei ofyn ganddyn nhw gan Lywodraeth Cymru i frwydro yn erbyn TB buchol."
Mae Lesley Griffiths yn ateb bod y llythyr gan y Gymdeithas Cig Eidion Genedlaethol yn "un o'r llythyrau mwyaf anghwrtais i mi erioed gael yr anffawd i'w derbyn."
Mae'r Llywydd Elin Jones yn mynegi anfodlonrwydd ynghylch baneri y tu ôl i Aelodau ar Zoom.
Meddai, "Mae'n edrych fel pe bai'r gyfradd 'R' ar faneri yn fwy nag 1 ar hyn o bryd. Felly, o'r wythnos nesaf ymlaen, dim mwy o faneri.
"Fel arall, byddaf yn cael fy nhemtio i chwifio baner gweriniaeth drofannol annibynnol Ceredigion y tu ôl i mi yma. "
Cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig ymateb: "Mae hwn yn ymyrraeth ryfedd gan y Llywydd.
"Ni ddylai fod unrhyw beth o'i le ar Aelodau o'r Senedd yn arddangos baneri Cymru neu Brydain yn eu swyddfa. Yn wir, mae gan y Senedd faneri o'r fath yn cael eu harddangos."
Dywed Llyr Gruffydd o Blaid Cymru fod "diffyg trefniadau ariannu clir a chyson ar gyfer y byrddau byrddau gwasanaethau cyhoeddus", sy'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae Rebecca Evans yn ateb, "O ran byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r byrddau statudol eraill sydd gennym yng Nghymru, byddwch yn gyfarwydd bod adolygiad wedi'i gynnal gan Lywodraeth Cymru, gan adrodd tua diwedd y llynedd, a'r adolygiad hwnnw yn nodi rhai o'r heriau hynny rydych chi wedi'u disgrifio o ran y trefniadau cyllido a dyblygu canfyddedig rhai o rolau'r byrddau.
"Ond roedd yr adroddiad yn glir iawn, iawn y dylai unrhyw newid ddod o'r bôn i fyny, yn hytrach na chael ei orfodi gan Lywodraeth Cymru."
Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, dolen allanol i fod i "wella’r cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru".
Mae'r Ceidwadwr Peter Fox yn galw am gymorth ariannol ychwanegol y tu hwnt i ddiwedd y mis hwn ar gyfer busnesau y mae'r cyfyngiadau coronafeirws yn parhau i effeithio arnynt.
Mae Rebecca Evans yn ateb, "Mae'r gyllideb atodol yn nodi'r dyraniadau a wnaed hyd yma. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol fy mod wedi clustnodi hyd at £200 miliwn o gymorth ychwanegol i fusnesau yn y gyllideb derfynol. Felly, mae rhywfaint o arian ar ôl i'w ddyrannu."
Prynhawn da, mae'r cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm, gyda Chwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.