Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:19 Amser Safonol Greenwich+1 6 Gorffennaf 2021
Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn.
Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd yfory. Da boch chi.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Fforddiadwyedd, Ail Gartrefi a'r Gymraeg
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm - Y Camau Nesaf
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Dyfodol y Diwydiant Dur
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth – y camau nesaf
Alun Jones
Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn.
Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd yfory. Da boch chi.
Yn olaf heddiw, Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth – y camau nesaf.
Mae'n amlinellu'r ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - gellir gweld crynodeb yma, dolen allanol.
Mae'r Ceidwadwr Gareth Davies yn ymateb "nad oes unrhyw sylwedd na chyfeiriad" yn y datganiad.
Mae Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru hefyd yn dweud nad yw’r datganiad yn ychwanegu dim at y Papur Gwyn, heb fanylion ar weithredu gan Lywodraeth Cymru.
Nesaf, Datganiad gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Dyfodol y Diwydiant Dur".
Yr wythnos ddiwethaf, gwnaeth llywodraeth y DU y penderfyniad i ddiystyru ei chynghorwyr masnach swyddogol ar ôl Brexit i ymestyn amddiffyniadau ar rai cynhyrchion dur.
Mae'r amddiffyniadau yn ei gwneud hi'n ddrutach i gwmnïau o Brydain brynu dur tramor uwchlaw rhai meintiau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Masnach yn y DU, Liz Truss, y byddai hyn yn amddiffyn swyddi yn sector dur y DU yng nghanol ansicrwydd oherwydd Covid.
Mae Vaughan Gething yn croesawu’r estyniad.
Dywed, "ers dod yn Weinidog Economi Cymru, rwyf wedi ei gwneud yn glir i Lywodraeth y DU fod ymestyn y mesurau diogelwch dur presennol yn gwbl hanfodol er mwyn amddiffyn diwydiant dur y DU. "
Cyflwynodd yr UE y mesurau diogelwch ar gyfanswm o 19 o gynhyrchion yn 2019, tra bod y DU yn dal i fod yn aelod.
Fe wnaeth y bloc eu cyflwyno mewn ymateb i'r Arlywydd Donald Trump wedi iddo ynatu gyflwyno trethi mewnforio - neu dariffau - ar ddur o China a mannau eraill, a daniodd ofnau y byddai'r farchnad yn dioddef o ddur rhad.
Yn dilyn Brexit, mae llywodraeth y DU bellach wedi dweud y bydd yn parhau gyda’r amddiffyniadau - a oedd i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Mehefin - ar gyfer 15 o’r 19 cynnyrch.
Dywed Mr Gething wrth y Senedd, "Mae gan Lywodraeth y DU lawer o'r pwerau sy'n gysylltiedig â datgarboneiddio diwydiant.
"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda nhw a'r undebau llafur i sicrhau bod ein cwmnïau dur yng Nghymru yn aros mor gystadleuol â phosib."
Nesaf, Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Diwygio'r Cwricwlwm - Y Camau Nesaf".
Mae'n cadarnhau y bydd Cwricwlwm Cymru yn parhau i gael ei weithredu mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir, a lleoliadau meithrin heb eu cynnal o fis Medi 2022.
Fodd bynnag, ychwanega, "Rwy'n cydnabod bod ysgolion uwchradd wedi wynebu heriau penodol fel rheoli cymwysterau, sydd, mewn rhai achosion, wedi effeithio ar eu parodrwydd i gyflawni'r cwricwlwm.
"Rwy'n deall y pryderon hyn, ac wedi gwneud y penderfyniad i ddarparu rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol ar gyfer ysgolion lle maent yn barnu bod ei angen arnynt.
"Yn 2022, bydd ysgolion sy'n barod i gyflwyno'r cwricwlwm i Flwyddyn 7 yn gallu cymryd camau yn unol â'u cynlluniau cyfredol, ond ni fydd hyn yn orfodol tan 2023, gyda chyflwyno yn y flwyddyn honno i Flynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd."
Mae'r newidiadau yn cynrychioli'r diwygiad cyflawn cyntaf o'r cwricwlwm yng Nghymru mewn mwy na 30 mlynedd.
Wrth ymateb i'r cynllun dywedodd llefarydd tai Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor mai ymarfer ydyw "o gicio'r broblem i lawr y lôn heb gymryd y camau brys angenrheidiol i ddelio â'r argyfwng sy'n wynebu ein cymunedau.
"Ni fydd y mesurau gwan hyn yn ddigon i fynd i'r afael ag argyfwng tai sy'n prysur ymgolli yn ein cymunedau ar raddfa frawychus.
"Nid oes unrhyw fanylion dim ond cynlluniau annelwig ar gyfer mwy o ymgynghori."
Mae Janet Finch-Saunders ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Ms James "i adfer yr Hawl i Brynu, gan ail-fuddsoddi elw'r gwerthiant i fwy o dai cymdeithasol ac amddiffyn cartrefi rhag cael eu gwerthu am 10 mlynedd".
Ychwanegodd bod adroddiad Dr Simon Brooks yn dweud mai "ychydig o dystiolaeth sydd yna i ddweud mai ail gartrefi ydy prif achos prisiau tai uchel", yn hytrach na phobl sy'n symud yno i fyw yn barhaol.
Mae newidiadau i drethi lleol a rheolau cynllunio ymysg y newidiadau y mae'r llywodraeth yn eu hystyried.
Mae Julie James yn cynnig cynllun tri rhan:
Nesaf, Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Fforddiadwyedd, Julie James: "Fforddiadwyedd, Ail Gartrefi a'r Gymraeg".
Yn ôl ffigyrau swyddogol, dolen allanol roedd 24,873 ail gartref wedi eu cofrestru ar gyfer treth cyngor yng Nghymru ym mis Ionawr 2021.
Ond mae swyddogion yn rhybuddio y gallai'r nifer yna fod llawer yn uwch, yn dibynnu ar sut mae ail gartref yn cael ei ddiffinio.
Gwynedd sydd â'r nifer fwyaf o ail gartrefi - 5,098 - 20% o gyfanswm Cymru gyfan.
Mae 4,068 wedi eu cofrestru yn Sir Benfro, gyda 3,477 yng Nghaerdydd, 2,139 yn Sir Fôn a 2,104 yn Abertawe.
Dywed Rhys ab Owen fod Plaid Cymru yn croesawu rhai agweddau ar y rhaglen ddeddfwriaethol, ond yn dweud ei bod yn "wan" ar y cyfan.
Dywed ei bod yn "hynod siomedig" nad oes Deddf Aer Glân i fynd i'r afael â'r "argyfwng hinsawdd".
Meddai, "Mae angen Deddf Aer Glân arnom i amddiffyn yn gyfreithiol pobl a dinasyddion ein gwlad ni. Roedd yr ymgyrchwyr am i'r Ddeddf gael ei chyflwyno yn y 100 diwrnod cyntaf o'r Senedd hon.
"Wel, byddwn ni'n lwcus i'w chael hi yn y 100 wythnos gyntaf, y ffordd rŷch chi yn llusgo eich traed."
Dywed arweinydd y grŵp Ceidwadol Andrew RT Davies ei fod yn “destun gofid” nad yw’r rhaglen ddeddfwriaethol, “yn delio â” materion fel awtistiaeth, iechyd meddwl, hawliau pobl hŷn, cynllunio, lles anifeiliaid ac Iaith Arwyddion Prydain.
Symudwn ymlaen at Ddatganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol.
Cynnwys y Rhaglen Ddeddfwriaethol yw'r cyfreithiau sy'n cael eu datblygu a'u cynnig gan Lywodraeth Cymru i helpu i gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu, dolen allanol.
Mae'r gweinidog yn rhoi amlinelliad o flaenoriaethau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru am y flwyddyn nesaf.
Dyma Filiau’r flwyddyn gyntaf, y dechreuir eu cyflwyno o’r hydref ymlaen:
Unwaith eto, gofynnir i aelodau Senedd Cymru gan y Llywydd Elin Jones i roi'r gorau i arddangos baneri wrth ymuno â dadleuon trwy alwad fideo.
Mae Rhun ap Iorwerth yn gofyn cwestiynau yn lle arweinydd Plaid Cymru Adam Price, sydd ar absenoldeb tadolaeth.
Mae'n cyhuddo Llywodraeth Cymru o "osgoi craffu" trwy wrthod ymchwiliad cyhoeddus sy'n benodol i Gymru i'r pandemig.
Mae Lesley Griffiths yn ateb bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei chraffu’n gyson yn ystod y pandemig, gan nodi fel enghraifft fod Senedd Cymru yn eistedd i alluogi craffu pan nad oedd San Steffan.
Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol, Andrew RT Davies yn tynnu sylw at y ffaith bod bron i chwarter y bobl sydd wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru wedi'u heintio mewn ysbytai.
Bu 1,860 o farwolaethau cleifion hyd at 1 Mai, 2021, lle gwnaethon nhw ei ddal yn yr ysbyty "yn bendant" neu "yn ôl pob tebyg".
Datgelwyd y ffigurau mewn cais Rhyddid Gwybodaeth gan raglen Newyddion S4C.
Mae Mr Davies yn galw am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru i'r pandemig.
Mae Lesley Griffiths yn gwrthod yr alwad, gan ateb bod ymchwiliad pedair gwlad yn y DU, gyda phenodau ar Gymru, yn well.
Mae hi'n dweud "mae gormod o lawer o bobl wedi marw".
"Rydyn ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu, yn amlwg, fel y mae'r ysbytai a'r cartrefi gofal eu hunain i gadw'r feirws allan.
"Ond wrth gwrs, nid yw'n stopio wrth ddrws ysbytai. Nid yw'n stopio wrth ddrws cartrefi gofal."
Mae ysbyty fel "tref fach", meddai, gan ychwanegu: "ni allwch atal y feirws rhag dod i mewn, yn anffodus."
Dywed Mr Davies, "roedd un o bob tri o bobl mewn rhai byrddau iechyd yn dal feirws Covid mewn ysbyty oherwydd y penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru.
"Bydd pobl yn synnu'n fawr nad ydych chi'n barod i roi eich hun o dan chwyddwydr craffu."
Mae Jane Dodds, yr unig aelod o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ystyried cyflwyno gofal plant rhan-amser am ddim i blant o naw mis i'w pen-blwydd yn dair oed i bob rhiant waeth beth fo'u statws gwaith".
Mae'r Trefnydd Lesley Griffiths yn ymateb mai "cefnogi teuluoedd â chostau gofal plant yw un o'n prif flaenoriaethau, yn unol â'n gweledigaeth ar gyfer un system o addysg a gofal plentyndod cynnar.
"Rydym wedi ymrwymo i ariannu gofal plant ar gyfer mwy o rieni mewn addysg a hyfforddiant, a chefnogi Dechrau'n Deg fel rhan o'r uchelgais honno."
Nid yw Mark Drakeford yn bresennol yn dilyn profedigaeth deuluol.
Mae'r Trefnydd Lesley Griffiths yn ateb y cwestiynau.
Prynhawn da, mae'r cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog.
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.