Crynodeb

  • Cwestiynau i Weinidog yr Economi

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

  • Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau

  • Dadl Aelodau: Busnesau bach a thwristiaeth

  • Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith ffyrdd

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Dyna ddiwedd y cyfarfod llawn.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ddydd Mawrth. Da boch chi.

  2. 'Dirywiad dramatig yn iechyd y geg ar ôl symud i gartref gofal'wedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Yn y Ddadl Fer, mae Peredur Owen Griffiths yn cwestiynu a yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael y driniaeth ddeintyddol gywir.

    Dywed ei fod wedi clywed am bobl yn dioddef "dirywiad dramatig yn iechyd y geg ar ôl symud i gartref gofal".

    Wrth ymateb, mae Eluned Morgan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cydnabod effaith y pandemig ar y rhaglen Gwên am Byth - a lansiwyd yn 2015 gyda'r nod o wella iechyd y geg ymhlith pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.

  3. Gwrthod cynnig y Ceidwadwyr ar y rhwydwaith ffyrddwedi ei gyhoeddi 17:39 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Gwrthodir cynnig y Ceidwadwyr ar y rhwydwaith ffyrdd.

    Roedd 15 o blaid, neb wedi ymatal ac roedd 40 yn erbyn.

  4. 'Angen gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur'wedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwelliant i gynnig y Ceidwadwyr ar y rhwydwaith ffyrdd, a bydd yn syml yn pleidleisio yn ei erbyn.

    Dywed Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, fod y Ceidwadwyr wedi galw am weithredu i fynd i’r afael â’r “argyfyngau” hinsawdd a natur ond eto wedi cyflwyno cynnig “gwrthgyferbyniol”.

    Lee Waters
    Disgrifiad o’r llun,

    Lee Waters

  5. Ceidwadwyr 'Jekyll a Hyde'wedi ei gyhoeddi 17:13 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Mae Delyth Jewell o Blaid Cymru yn disgrifio cynnig y Ceidwadwyr ar y rhwydwaith ffyrdd fel "Jekyll a Hyde", gyda'r pwyntiau cyntaf a'r ail yn "cael eu tanseilio" gan y trydydd.

    Delyth Jewell
    Disgrifiad o’r llun,

    Delyth Jewell

  6. 'Methiant llywodraethau olynol Cymru i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd a llygredd aer ar y rhwydwaith ffyrdd'wedi ei gyhoeddi 16:51 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Y pwnc a ddewiswyd gan y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer eu dadl yw'r rhwydwaith ffyrdd.

    Mae Natasha Asghar yn cyflwyno'r cynnig bod y Senedd:

    1. Yn gresynu at:

    a) methiant llywodraethau olynol Cymru i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd a llygredd aer ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru;

    b) dosbarthiad annheg buddsoddiad cyfalaf yn y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru;

    c) y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael a thoriadau mewn gwasanaethau bysiau, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.

    2. Yn nodi â phryder penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi pob cynllun gwella ffyrdd newydd.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) adeiladu ffordd liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 a'r A470, a deuoli'r A40 i Abergwaun;

    b) cael gwared ar gynigion i alluogi cyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru;

    c) gwella mynediad i seilwaith gwefru cerbydau trydan yn sylweddol;

    d) gweithio gyda gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol i bobl ym mhob rhan o'r wlad.

    'Adeiladwch ffordd liniaru'r M4' medd y Ceidwadwyr Cymreig
    Disgrifiad o’r llun,

    'Adeiladwch ffordd liniaru'r M4' medd y Ceidwadwyr Cymreig

  7. 'Hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn'wedi ei gyhoeddi 16:06 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Pwnc y Ddadl Aelodau yw busnesau bach a thwristiaeth.

    Mae cefnogaeth drawsbleidiol, a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, i'r cynnig gan Hefin David (Caerffili), dolen allanol bod y Senedd:

    1. Yn nodi'r rôl sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen.

    2. Yn nodi pwysigrwydd busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein cymunedau a'n heconomïau lleol.

    3. Yn nodi ymhellach yr anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn.

    5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol.

    Mae Llandudno yn atyniad i dwristiaidFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Llandudno

    Dinbych-y-pysgodFfynhonnell y llun, OKSANAPHOTO/GETTY IMAGES
    Disgrifiad o’r llun,

    Dinbych-y-pysgod

  8. Ethol aelodau'r pwyllgorau ddeufis ar ôl yr etholiadwedi ei gyhoeddi 15:50 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Dau fis ar ôl etholiad y Senedd, mae ASau yn pasio cynigion i ethol aelodau i bwyllgorau, sydd â rôl hanfodol wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.

  9. Cwestiwn Amserol: 'Angen adolygu pwerau a chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru'wedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Mae Janet Finch-Saunders (Aberconwy) yn cefnogi galwadau gan arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol Cymru i Lywodraeth Cymru adolygu pwerau a chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru.

    Dywed Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod Llywodraeth Cymru “yn croesawu’r adborth”, a’i bod yn “dechrau gydag adolygiad o’r strategaeth atal llifogydd”.

    Disgrifiodd llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) at Julie James, sut mae rhai arweinwyr cyngor yn awgrymu "nad yw popeth yn iawn" wrth ddelio â CNC, gan ddweud eu bod yn ei gael yn "rhwystr neu'n methu â chynorthwyo."

    Mae'r llythyr a lofnodwyd gan arweinydd y gymdeithas, Andrew Morgan - ar ran holl arweinwyr awdurdodau lleol - yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y swyddogaethau a gyflawnir gan CNC, pa mor dda y maent yn cael eu cyflawni ac a allai fod dewis arall gan gynnwys newidiadau. mewn deddfwriaeth.

    Ffurfiwyd Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013 trwy gyfuno tri chorff annibynnol blaenorol - Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru.

    Janet Finch-Saunders
    Disgrifiad o’r llun,

    Janet Finch-Saunders

  10. 'Ni fydd unrhyw ddiwrnod rhyddhad mawr yma yng Nghymru o ran Covid'wedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Meddai'r gweinidog iechyd Eluned Morgan, “ni fydd unrhyw ddiwrnod rhyddhad mawr yma yng Nghymru o ran Covid, nid pan fod cyfraddau’n cynyddu ar y gyfradd y maen nhw.

    "Mae'n anodd credu yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, pan welwch y cyfraddau'n cynyddu ar y raddfa y maent.

    "Bydd ein penderfyniadau yn seiliedig ar wyddoniaeth, byddant yn seiliedig ar dystiolaeth, ac rydym yn falch iawn o weld y nifer o bobl yng Nghymru sydd wedi bachu ar y cyfle i gael y brechlyn. "

    Bydd angen lleddfu cyfyngiadau Covid "mewn ffordd ofalus", meddai.

  11. 'Pryderus iawn' nad yw pobol yn cysylltu gydag amheuaeth o ganserwedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Dywed y gweinidog iechyd Eluned Morgan ei bod yn “bryderus iawn” nad yw pobol yn cysylltu gyda'r gwasanaeth iechyd am amheuaeth o ganser oherwydd pandemig y coronafeirws.

    Mae ymchwil Macmillan yn amcangyfrif bod tua 4,200 o ddiagnosisau canser ar goll bellach yng Nghymru ers dechrau’r pandemig.

    Dywed y gweinidog iechyd ei bod yn hanfodol bod unrhyw un sydd â symptom newydd neu bryderus yn cysylltu â'u meddyg teulu.

    Eluned Morgan
    Disgrifiad o’r llun,

    Eluned Morgan

  12. Gofyn i'r gweinidog iechyd ymddiheuro am farwolaethau pan ddaliwyd Covid yn yr ysbytywedi ei gyhoeddi 14:52 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn gwahodd y gweinidog iechyd i ymddiheuro am y ffaith bod bron i chwarter y bobl sydd wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru wedi'u heintio mewn ysbytai.

    Bu 1,860 o farwolaethau cleifion hyd at 1 Mai, 2021, lle gwnaethon nhw ei ddal yn yr ysbyty "yn bendant" neu "yn ôl pob tebyg".

    Datgelwyd y ffigurau mewn cais Rhyddid Gwybodaeth gan raglen Newyddion S4C.

    Mae'r gweinidog iechyd Eluned Morgan yn ateb eu "bod wedi cael canllawiau llym iawn ar waith" ac yn tynnu sylw bod pobl yn yr ysbyty "eisoes yn fwy agored i niwed".

    Mae pob achos yn cael ei ymchwilio, ychwanegodd.

  13. Galw am greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ac i gartrefi gofal ganiatáu ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Mae Rhys ab Owen o Blaid Cymru yn codi mater gofal cymdeithasol ac yn galw am greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol.

    Mae'n egluro ei fod yn fater gwleidyddol a phersonol iddo, gan fod gan ei dad ddementia a'i fod mewn cartref gofal.

    Roedd Owen John Thomas yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru rhwng 1999 a 2007, yn cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru y mae ei fab bellach yn ei gynrychioli.

    Mae Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cyfeirio at y Papur Gwyn - Ailgydbwyso Gofal a Chefnogaeth, dolen allanol.

    Mae hi'n dweud "rydyn ni eisiau datrysiad ar y cyd â llywodraeth y DU, ond allwn ni ddim aros am byth".

    Mae Rhys ab Owen hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd caniatáu i anwyliaid ymweld â thrigolion cartrefi gofal.

    Meddai, "Anghofia i byth y dydd Mawrth cyn gêm yr Alban yn mynd yno a chael gwybod gan dderbynnydd dagreuol fod y cartref gofal wedi cau hanner awr ynghynt, ac roedd ar gau bryd hynny tan fis Awst.

    "Wrth gwrs, roedd wedi cau eto am yr ail don, ac mae wedi bod ar gau eto nawr am y ddau fis diwethaf."

    Ychwanegodd, "rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi'n anodd iawn; rwy'n gwerthfawrogi'r angen i amddiffyn preswylwyr fel fy nhad, ond rydyn ni am weld ein hanwyliaid.

    "Rwy'n gwybod y pryderon am yr amrywiolyn Delta, rwy'n gwybod y pryderon am y drydedd don, ond os gwelwch yn dda , a allech chi edrych eto ar ganllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru tuag at ymweld â chartrefi gofal fel y gall pobl fel fi a llawer o bobl eraill ymweld â'u hanwyliaid? "

    Ymatebodd Julie Morgan, "ar hyn o bryd, mae'r canllawiau'n glir, y gall dau ymwelydd fynd i mewn i ymweld â phreswylydd cartref gofal.

    "Ond yn amlwg, mae cartrefi gofal unigol yn dehongli'r canllawiau fel y maen nhw'n meddwl sydd fwyaf diogel i'w preswylwyr. Felly, rwy'n credu mai'r peth pwysig mewn gwirionedd yw edrych ar sut mae hyn yn cael ei ddehongli mewn cartrefi gofal unigol. Ond yn sicr, rydyn ni am i deuluoedd allu gweld eu hanwyliaid, ac rydyn ni am i anwyliaid weld eu teuluoedd. "

    Owen John Thomas, yn y llun ar y chwith, gyda'i wraig Sian, ei fab Rhys a'i ferch-yng-nghyfraith ManonFfynhonnell y llun, LLUN Y TEULU
    Disgrifiad o’r llun,

    Owen John Thomas ar y chwith, gyda'i wraig Sian, ei fab Rhys a'i ferch-yng-nghyfraith Manon

  14. 'Mewn cyfnod nawr lle mae cydbwysedd y niwed iechyd a'r niwed economaidd yn symud'wedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Unwaith eto ar lacio cyfyngiadau Covid, dywed Vaughan Gething "yr hyn na allwn ei ddweud yw bod gennym fformiwla union sy'n dweud wrthym am faint o niwed a fyddai'n cael ei achosi."

    Fodd bynnag, ychwanega, "rydym yn deall ar draws y llywodraeth ein bod mewn cyfnod nawr lle mae cydbwysedd y niwed iechyd a'r niwed economaidd bellach yn symud.

    "Nid yw hynny'n golygu dweud nad oes cydbwysedd i'w daro, ond rydym yn credu ein bod mewn perthynas wahanol.

    "Felly, ie, byddwn yn parhau i edrych ar y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar y berthynas newidiol, sydd heb dorri, rhwng heintiau a niwed.

    "Byddwn yn parhau i edrych ar bwysau o fewn y GIG. Byddwn yn parhau i edrych ar yr effaith ar yr economi.

    "A byddwn yn parhau i edrych ar lwyddiant y rhaglen frechu. "

    CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. 'Peidio â chael ein gyrru gan alwadau i chwythu'r drysau i ffwrdd'wedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    O ran y posibilrwydd o lacio cyfyngiadau Covid, mae Vaughan Gething yn dweud wrth y Senedd "byddwn yn gwneud hynny mewn modd sy'n gyfrifol a pheidio â chael ein gyrru gan alwadau i chwythu'r drysau i ffwrdd a chaniatáu i bopeth ddigwydd ar yr un pryd â rhannau eraill o'r Y Deyrnas Unedig ".

    Vaughan Gething
    Disgrifiad o’r llun,

    Vaughan Gething

  16. Croeso i Senedd Fywwedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 7 Gorffennaf 2021

    Prynhawn da, mae'r cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i Weinidog yr Economi.

    Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.