Crynodeb

  • Prif Weinidog Cymru yn rhagweld brig ton Omicron yn y 10-14 diwrnod nesaf

  • Yn y cyfnod yna, awgrymodd Mark Drakeford na fydd unrhyw lacio i'r cyfyngiadau presennol

  • Mwy na 2,200 o achosion o'r coronafeirws fesul 100,000 o bobl yng Nghymru erbyn hyn

  • Nifer siopwyr wedi gostwng 20% ers cyn y pandemig

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Dyna ni am heddiw. Mae cynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru ar ben.

    Dim newidiadau i'r cyfyngiadau presennol, a dim arwydd o hynny'n digwydd yn y bythefnos nesaf chwaith, meddai Mark Drakeford.

    Am fwy ar hyn, darllenwch ein prif stori yma.

    Diolch am ddilyn.

  2. Pryder am bartïon mewn cartrefiwedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Ceidwadwyr Cymreig

    Dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ei fod yn bryderus fod pobl wedi bod yn cael partïon yn eu cartrefi yn sgil y cyfyngiadau ar letygarwch.

    "Dwi'n meddwl bod hyn yn fater sydd angen sylw yn fuan," meddai Andrew RT Davies.

    "Mae'n rhaid cael llwybr allan o'r cyfyngiadau fel bod modd i'n cymdeithas ddychwelyd i normalrwydd ac yn fwy pwysig fel bod modd i arian lifo eto i'n busnesau - y rhai sydd wedi'u heffeithio gan y cyfyngiadau."

  3. 'Cydbwysedd iawn ar y cyfan'wedi ei gyhoeddi 13:10 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Plaid Cymru

    Dywed arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod y "cydbwysedd yn iawn ar y cyfan" ar gyfyngiadau Llywodraeth Cymru.

    "Tra bod y sefyllfa'n dal i waethygu, byddai'n rhyfedd cael gwared ar y cyfyngiadau hynny," meddai.

    Dywedodd fod gan ei blaid rai pryderon am rai o'r manylion ond ei fod yn gobeithio codi'r rheini mewn sesiwn friffio ar ôl y penwythnos gan y JCVI - y grŵp o wyddonwyr sy'n cynghori gweinidogion Llywodraeth Cymru.

    O ran a ddylai Cymru allu cael torfeydd cartref ar gyfer gemau pencampwriaeth rygbi’r Chwe Gwlad sydd ar y gweill, dywedodd Mr Price os yw'r modelu'n gywir yna "fe ddylai fod yn bosib cael gwared ar y cyfyngiadau penodol hyn mewn pryd i’r gemau hynny ddigwydd".

  4. Cyhuddo Johnson o beidio diogelu pobl Lloegrwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhuddo Boris Johnson o beidio â chymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu pobl yn Lloegr rhag amrywiolyn Omicron.

    "Mae Cymru," meddai, "fel yr Alban, Gogledd Iwerddon a gwledydd eraill ar draws Ewrop a'r byd, yn gweithredu.

    "Yng Nghymru mae gennym lywodraeth sy'n medru ac yn mynnu gweithredu y camau angenrheidiol i ddiogelu y boblogaeth.

    "Yn Lloegr mae gennym lywodraeth sydd wedi'i pharlysu'n wleidyddol gyda phrif weinidog sydd methu dod i gytundeb gyda'i gabinet am weithredu y camau angenrheidiol y mae ei gynghorwyr arbenigol yn eu gorchymyn.

    "Ac hyd yn oed os yw'n llwyddo i gael ei gabinet i gytuno, mae e methu cael yr Aelodau Seneddol i gytuno gydag e."

    drakeford a johnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Llai o bobl yn y siopau ym mis Rhagfyrwedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    siopaFfynhonnell y llun, Getty Images

    Fe wnaeth nifer yr ymwelwyr â siopau Cymru ostwng dros 20% ym mis Rhagfyr eleni o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig.

    Yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru (CMC), gostyngodd nifer y siopwyr yng Nghaerdydd 15.9% o'i gymharu â Rhagfyr 2019.

    Dywedodd CMC bod hyn wedi arwain at "ddechrau anodd i'r flwyddyn newydd", a galwodd am fwy o gefnogaeth i siopau gan y llywodraeth.

    Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi cyhoeddi pecyn o gefnogaeth ariannol brys i helpu busnesau sydd wedi eu heffeithio dros fisoedd y gaeaf a'i bod yn parhau i adolygu'r sefyllfa'n wythnosol

  6. 'Dim llacio cyfyngiadau am bythefnos'wedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    graffFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

    Pan ofynnwyd iddo beth fyddai'n rhaid digwydd er mwyn llacio'r cyfyngiadau presennol, awgrymodd Mark Drakeford na fyddai newidiadau yn ystod y pythefnos nesaf.

    Dywedodd ei fod yn rhagweld brig y don Omicron yng Nghymru yn digwydd yn y 10 i 14 diwrnod nesaf.

    "Mae'r niferoedd [achosion] yn debygol o barhau i godi," meddai. "Felly, ni fyddwn yn llacio nes ein bod wedi pasio brig yr heintiau, ac rydym yn sicr y gallwn weld y pwysau o ymlediad y feirws hwn yn y gymuned yn dechrau lleihau.

    "[N]id wyf yn rhagweld y byddwn mewn sefyllfa i symud i ffwrdd o lefel y cyfyngiadau sydd gennym ar hyn o bryd dros y pythefnos nesaf, ond byddwn yn edrych ar hynny yn ddyddiol."

    Ychwanegodd na fyddai’n iawn dweud bod GIG Cymru yn "cael ei lethu" gan Omicron, ond ei fod "yn sicr yn wynebu amgylchiadau heriol iawn".

  7. 'Mwy o achosion i ddod'wedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    "Bydd mwy o achosion yn ystod yr wythnosau nesaf," medd y Prif Weinidog, "ond mae'n debygol na fydd y don yn para am fisoedd fel y gwnaeth tonnau amrywolion eraill gan fod ton Omicron yn symud yn gyflym.

    "Ry'n yn debygol o gyrraedd brig y don ymhen rhyw 10 diwrnod i bythefnos.

    "Mae hyd a dwyster y don yn ddibynnol ar yr hyn fyddwn ni'n ei wneud," meddai.

    stryd wagFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Pwysau ar wasanaethau cyhoeddus eraill hefydwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    "Mae gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd yn wynebu trafferthion wrth i staff fod yn sâl neu'n hunan-ynysu," medd y Prif Weinidog.

    "Mae awdurdodau lleol yn cynllunio i adleoli staff am gyfnod fel bod modd cynnal gwasanaethau hanfodol.

    "Ac mae ysgolion wedi bod yn paratoi at ddechrau'r tymor yr wythnos hon yn ystod y ddeuddydd o gynllunio ychwanegol.

    "Mae hyn yn cynnwys gweithredu mwy o fesurau er mwyn cadw disgyblion a staff yn ddiogel.

    "Mae dyfodiad Omicron yn golygu ein bod yn cynnal adolygiad wythnosol er mwyn cadw golwg fanwl ar sefyllfa sy'n newid yn gyflym."

  9. 1.7m wedi cael y brechlyn atgyfnerthuwedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    prawfFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dywed Mark Drakeford bod y data diweddaraf yn dangos bod 1.7m wedi cael yr hwblyn a bod mwy o bobl yn cael y dos cyntaf a'r ail ddos o'r brechlyn bob dydd.

    Mae'n cadarnhau y bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd dau.

    Mae hefyd yn atgoffa bod y drefn cynnal profion a rheolau hunan-ynysu wedi newid.

    Mae'r cyfnod hunan-ynysu ar ôl i berson cael Covid-19 wedi cael ei gwtogi bellach o 10 i saith diwrnod yng Nghymru a nid oes yn rhaid i bobl yng Nghymru sydd wedi cael canlyniad prawf llif unffordd positif archebu prawf PCR dilynol os nad oes ganddyn nhw symptomau Covid.

    Ond dywed Mr Drakeford ei bod hi, o ganlyniad, yn bwysicach nag erioed cofnodi manylion prawf llif unffordd.

    "Os oes symptomau rhaid cael prawf PCR," ychwanegodd.

  10. Nifer o staff iechyd yn sâl neu'n hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    "Mae Omicron yn rhoi pwysau sylweddol ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar amser prysuraf y flwyddyn," medd y Prif Weinidog.

    "Mae mwy o bobl yn yr ysbytai ond hefyd mae mwy o staff yn sâl.

    "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod 8.3% staff y GIG yn sâl neu'n hunan-ynysu - ond mewn rhai sefydliadau iechyd mae'r ganran cyn uched â 16.5%.

    "Ry'n eisoes yn gweld canlyniadau y cyfraddau uchel yma - mae nifer o driniaethau a oedd wedi'u cynllunio wedi cael eu gohirio ac mae rhai adrannau gofal brys a damweiniau yn gofyn i bobl beidio mynd yno oni bai bod ganddynt gyflyrau sy'n bygwth bywyd," ychwanegodd.

  11. Nifer cleifion Covid mewn ysbytai yn cynydduwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod mwy na 2,300 o achosion ymhob 100,000 o bobl Cymru.

    "Mae nifer yr achosion ar eu huchaf ymhlith pobl rhwng 20 a 40 ond ry'n hefyd yn gweld mwy o achosion ymhlith pobl hŷn wrth i'r haint ledu ymhlith cymunedau yn gyflym," meddai Mr Drakeford.

    "Mae Omicron yn hynod heintus ac mae pob cysylltiad yn gyfle i ledu'r feirws.

    "Wrth i nifer yr achosion godi, mae nifer y rhai sy'n gorfod cael triniaeth ysbyty yn codi hefyd.

    "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 994 claf â Covid-19 yn ein hysbytai - cynnydd o 43% ers wythnos diwethaf a'r nifer uchaf ers mis Mawrth.

    "Mae'r nifer yn is nag anterth yr achosion y llynedd ond ar ochr uchaf ein rhagolygon.

    "Mae 40 o bobl yn cael gofal dwys ar hyn o bryd - y mwyafrif heb eu brechu," ychwanegodd Mr Drakeford.

    graffFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  12. Covid: 21 marwolaeth a 7,915 achos newyddwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Mae'r gyfradd achosion fesul bob 100,000 o bobl bellach wedi codi i 2,324.6 dros Gymru.

    Read More
  13. 'Storm wedi cyrraedd'wedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Llywodraeth Cymru

    Ar ddechrau'r gynhadledd dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yng Nghymru wedi newid yn ddramatig ers y gynhadledd ddiwethaf.

    "Mae'r storm bellach wedi cyrraedd," meddai, "a does na'r un amrywiolyn wedi achosi mwy o fobl i fod yn sâl nag Omicron.

    "Mae'r achosion nawr yn uwch nag ar frig unrhyw don arall."

  14. Gwyliwch yn fywwedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. 'Colli cenedlaethau o athletwyr'wedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Dywed Prif Weithredwr Athletau Cymru ei bod hi'n bosib y bydd cenedlaethau o athletwyr yn cael eu colli os yw cyfyngiadau yn parhau i effeithio ar ddigwyddiadau a chystadlaethau.

    Yn ôl James Williams mae cyfyngiadau llymach yng Nghymru yn golygu nad yw rhai gemau na chystadlaethau yn gallu cael eu cynnal.

    Mae athletwyr a chwaraewyr ifanc o dan 18 wedi'u heithrio o'r cyfyngiad sy'n gorchymyn dim mwy na 50 person tu allan a 30 tu mewn.

    Ond mae gan nifer o leoliadau eu rheolau eu hunain sy'n golygu na all digwyddiadau hyfforddi, cystadlaethau a gemau gael eu cynnal.

    athletauFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn adolygu'r sefyllfa yn wythnosol a'u bod yn "deall pwysigrwydd ymarfer corff i les meddwl ac iechyd pobl".

    Ddydd Sul roedd digwyddiadau athletau dan do mawr fod i'w gynnal gyda 400 o athletwyr ifanc yn cystadlu ond mae wedi'i ganslo.

    "Roedd rhaid i ni ddod i benderfyniad buan a doedd dim dewis arall," ychwanegodd James Williams.

  16. Dros 100 o achosion ymhlith staff DVLA, medd Undebwedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Yn y cyfamser, dywed undeb bod 110 achos o Covid ymhlith staff y DVLA yn Abertawe yr wythnos hon.

    Mae'r nifer, medd llefarydd ar ran Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), yn uwch na'r clwstwr a gafwyd ar y safle y llynedd.

    Dywed Undeb y PCS hefyd eu bod yn bryderus am y bwriad i waredu rhai mesurau diogelwch Covid ar y safle ond dywed y DVLA na ydynt wedi llacio eu mesurau o gwbl.

    Roedd yna 35 achos newydd ymhlith staff ar 6 Ionawr, yn ôl PCS.

    dvla
  17. Cyfnod anodd i ddod yn Ionawrwedi ei gyhoeddi 12:01 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    rheol 6Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dim ond chwech o bobl sy'n cael eistedd o amgylch bwrdd mewn tafarn neu fwyty ar hyn o bryd

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, eisoes wedi dweud ein bod yn "wynebu mis anodd" yn ystod Ionawr gyda mwy na 2,200 o achosion o'r coronafeirws fesul 100,000 o bobl yng Nghymru.

    Ers Dydd San Steffan, mewn ymateb i Omicron, mae nifer o gyfyngiadau wedi dod i rym - mae clybiau nos wedi cau a rhaid cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr y tu ôl i ddrysau caeedig.

    Hefyd dim ond chwech o bobl sy'n cael eistedd o amgylch bwrdd mewn tafarn neu fwyty.

    "Rhaid inni fod yn barod i achosion godi hyd yn oed yn uwch, yn union fel y maen nhw mewn mannau eraill yn y DU," meddai Mr Drakeford.

  18. Croesowedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2022

    Croeso i'r llif newyddion byw o gynhadledd ddiweddaraf Llywodraeth Cymru - y gyntaf yn 2022.

    Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fydd yn arwain y gynhadledd a mae disgwyl iddo ddweud beth yw sefyllfa ddiweddaraf Covid yng Nghymru.

    Arhoswch gyda ni i gael y newyddion diweddaraf.