Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich 15 Chwefror 2022
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto ar 1 Mawrth ar ôl toriad y gwanwyn wythnos nesaf.
Da boch chi.
Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau gan ASau, mewn fformat hybrid oherwydd pryderon am yr amrywiolyn Omicron.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto ar 1 Mawrth ar ôl toriad y gwanwyn wythnos nesaf.
Da boch chi.
Dywed y prif weinidog fod Llywodraeth Cymru yn cynllunio "trosglwyddiad cyfiawn" i sero net ledled Cymru.
Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar y llywodraeth i "sicrhau nad yw baich datgarboneiddio yn disgyn yn anghyfartal ar gymunedau gwledig".
Mae'r prif weinidog yn ateb "rwy'n cydnabod bod yn rhaid i blannu coed fod y goeden iawn yn y lle iawn, ac mae hynny'n rhan annatod o'r cynllun sydd gennym ni. Nid yw'n ymwneud yn unig â phlannu unrhyw fath o goeden yn unrhyw le. Mae'n ymwneud â defnyddio tir nad yw ar gael ar gyfer gweithgareddau eraill y gall ffermwyr eu cyflawni yng Nghymru, sydd â gwerth masnachol, ond defnyddio tir nad yw’n ddefnyddiadwy yn y ffordd honno i dyfu cnwd a fydd er lles pob un ohonom wrth inni wynebu newid hinsawdd.”
Ynghylch diwedd y cynnydd o £20 yr wythnos i gredyd cynhwysol, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud "ni allaf feddwl am benderfyniad mwy creulon, oherwydd roedd yn benderfyniad bwriadol. Roedd yn benderfyniad lle'r oedd y llywodraeth yn gwybod cyn iddynt wneud hynny y byddai hyn yn golygu y byddai plant ar aelwydydd ar hyd a lled Cymru a fyddai'n gorfod mynd hebddynt fel ganlyniad i'r hyn a wnaethant."
Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru yn nodi bod dwy flynedd wedi mynd heibio ers i Bontypridd gael ei tharo gan lifogydd difrifol wrth i amddiffynfeydd llifogydd gael eu llethu yn ystod glaw eithriadol o drwm.
Dywed, "mae'r National Flood Forum—sefydliad sydd wedi ei leoli yn Lloegr—wedi bodoli ers 2002 i sicrhau bod cymunedau ac unigolion yn teimlo wedi eu cefnogi a'u grymuso i leihau eu perygl o ddioddef llifogydd. Dim ond canran fach iawn o gyllid y maent wedi'i dderbyn hyd yma i weithredu yng Nghymru."
Mae hi'n gofyn, "a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried manteision cefnogi sefydlu fforwm llifogydd Cymru i rymuso cymunedau mewn perygl yn yr un modd?"
Ymatebodd y prif weinidog, "mae lot o waith wedi mynd ymlaen dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar lefel lleol gyda'r arian sydd wedi dod o'r llywodraeth yma yng Nghymru i helpu cymunedau lleol i deimlo'n fwy cryf pan mae pethau'n digwydd unwaith eto. Mae pwyllgor annibynnol gyda ni yma yng Nghymru'n barod—pwyllgor annibynnol sy'n cynrychioli cymunedau ledled Cymru ac sy'n ymgynghori â'r llywodraeth."
Ar y cwricwlwm newydd i Gymru, sydd i fod i ddechrau ym mis Medi, dywed Laura Anne Jones o'r Ceidwadwyr “mae angen rhyw fath o raglen ddysgu broffesiynol wirioneddol genedlaethol arnom sy’n darparu cysondeb a chefnogaeth i bawb, tra’n caniatáu’r hyblygrwydd hwnnw, o ran sut i gynllunio a darparu’r cynnwys cywir sydd ei angen ar gyfer arholiadau”.
Mae’r prif weinidog yn ateb “rwy’n meddwl bod Llywodraeth Cymru, gan weithio gydag awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, a gydag arweinwyr rhaglen yn ogystal ag Estyn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud yn siŵr bod y brwdfrydedd sydd yna ar gyfer y cwricwlwm newydd yn yr ysgol leol yn cael ei gefnogi gan fframweithiau cenedlaethol, canllawiau sydd ar gael yn genedlaethol, cyllid sydd ar gael yn genedlaethol ym mhob rhan o Gymru."
Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd y rhan fwyaf o gartrefi yng Nghymru yn cael taliad o £150 fel rhan o gynlluniau i fynd i’r afael â chostau byw cynyddol, ond mae’n cwestiynu a allai’r arian fod wedi’i dargedu’n well i helpu’r rhai sydd â’r angen mwyaf.
Mae’n gofyn, “os bydd y sefydliadau yn yr uwchgynhadledd argyfwng costau byw yr ydych chi wedi’i chynnull ddydd Iau yn cynnig dewisiadau amgen gwell wedi’u gwneud yng Nghymru, a ydych chi’n barod i ailystyried, gwella’r cynlluniau rydych chi wedi’u cyhoeddi eisoes?”
Ateba Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford mai "pwrpas yr uwchgynhadledd yw casglu syniadau newydd a phrofi syniadau yr ydym eisoes wedi eu mabwysiadu gydag ystod eang o bobl o bob rhan o Gymru. Felly, byddwn yn sicr yn gwneud hynny ddydd Iau.
"Dydw i ddim yn meddwl bod y feirniadaeth ar ad-daliad treth gyngor yng Nghymru yn gwbl deg, oherwydd nid dyma'r un agwedd ag sydd wedi cael ei gymryd yn Lloegr. Yn Lloegr, bydd yr arian yn cael ei wasgaru'n deneuach; yma, byddwn ni'n darparu'r £150 nid yn unig i aelwydydd sy’n talu’r dreth gyngor, ond byddwn hefyd yn darparu’r arian hwnnw i’r 220,000 o aelwydydd sydd wedi’u heithrio o’r dreth gyngor oherwydd ein bod wedi cadw system budd-daliadau’r dreth gyngor yma yng Nghymru.”
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau "cyfran fwy o fewnfuddsoddiad".
Dywed Mr Davies fod Britishvolt "wedi llithro trwy'ch bysedd; beth aeth o'i le, brif weinidog?"
Mae’r cwmni sy’n cynllunio masgynhyrchu batris ceir trydan yn y DU wedi sicrhau cyllid gan lywodraeth y DU ar gyfer ei ffatri arfaethedig yn Northumberland.
Dywed Britishvolt y byddai'r gigafactory fel y'i gelwir yn Cambois yn creu 3,000 o swyddi.
Roedd wedi ystyried lleoli yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg.
Yn ogystal â'r 3,000 o bobl ar y safle, mae Britishvolt yn amcangyfrif y bydd o leiaf 5,000 o swyddi eraill yn cael eu creu yn y gadwyn gyflenwi.
Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford yn ateb "roedd Llywodraeth Cymru mewn sgyrsiau gyda Britishvolt. Roedd safle Sain Tathan yn un o'r prif safleoedd a ystyriwyd ganddynt. Yn y diwedd, fe benderfynon nhw y byddai eu buddsoddiad cyntaf yn rhywle arall.
"Nid yw hynny'n golygu nid ydym wedi cael sgyrsiau pellach gyda nhw.
"Fel cwmni, maen nhw'n uchelgeisiol i wneud mwy ym maes datblygu batris. Os yw'n bosibl dod â'r datblygiad hwnnw i dde Cymru, wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â diddordeb ac yn ymgysylltu'n frwd, ochr yn ochr â llawer o gyfleoedd eraill.”
Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Daw'r cwestiwn cyntaf gan y Ceidwadwr Gareth Davies, sy'n gofyn "sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau'r budd mwyaf posibl o fuddsoddiad y gronfa ffyniant gyffredin yn Nyffryn Clwyd?"
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford - a brofodd yn bositif am y coronafeirws yr wythnos ddiwethaf ac sy'n hunan-ynysu - yn ateb y cwestiynau o'i gartref.
Mae'n ateb gan ddweud "roedd llywodraeth y DU yn glir iawn nad oedd yn gweld unrhyw rôl o gwbl i Lywodraeth Cymru yn y cynlluniau peilot y llynedd, naill ai o ran cynllunio'r cynlluniau peilot hynny na'r penderfyniadau a wneir ynddynt. Rwy'n gobeithio am ddull gwahanol pan fydd y cynigion ar gyfer y gronfa yn cael eu cyhoeddi yn y pen draw.”
Dywed Gareth Davies "mae fy etholwyr eisoes wedi elwa ar agenda lefelu Llywodraeth y DU. Roedd gan brosiectau yn y Fro gyfran o bron i £3 miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf drwy ragflaenydd y gronfa ffyniant gyffredin."
Beth yw'r Gronfa Ffyniant Gyffredin?
Yn ystod aelodaeth y DU o’r UE, cafodd Cymru arian Ewropeaidd i helpu’r economi yn ei hardaloedd tlotaf.
Mae’r cyllid, sy’n cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru, yn dod i ben erbyn y flwyddyn nesaf.
Ar ôl Brexit, cyhoeddodd llywodraeth y DU y byddai’n disodli hwn gyda Chronfa Ffyniant Gyffredin gwerth £2.6bn.
Maent yn dweud y bydd y cynlluniau "codi'r gwastad" yn "galluogi gwelliannau i'r lleoedd y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddynt".
Ond mae Llywodraeth Cymru yn honni y bydd Cymru £1bn ar ei cholled erbyn 2024 - ffigyrau sy'n cael eu wfftio gan Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros godi'r gwastad.
Mewn cynllun peilot - y Gronfa Adnewyddu Cymunedol gwerth £200m - rhoddwyd bron i chwarter y cronfeydd i brosiectau Cymreig.
Mae’r Cyfarfod Llawn yn dechrau gyda theyrngedau i Gomisiynydd y Gymraeg Aled Roberts sydd wedi marw yn 59 oed.
Dywed y Llywydd Elin Jones "mae'n deg dweud fod rhai Aelodau yn medru gwneud argraff fawr mewn cyfnod cymharol fyr. Mi roedd Aled yn un o'r rheiny.
"Yn seneddwr o reddf, yn gweithio ar draws pleidiau, llawn mor effeithiol yn cydweithio ac yr oedd e'n herio a sgrwtineiddio, ac yn gwneud yr herio a'r cydweithio gyda gwên a chwrteisi. Mi roedd Aled Roberts yn llawn gobaith am ddyfodol ei wlad a'i iaith."
Meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford "roedd Aled, fel cyn-Aelod, yn gyfaill i sawl un ohonom ni. A boed fel arweinydd cyngor Wrecsam, Aelod o'r Senedd, neu fel Comisiynydd y Gymraeg, roedd Aled yn gryf dros gyfiawnder cymdeithasol. Drwy gydol ei yrfa proffesiynol, roedd Aled yn ymdrechu dros yr hyn oedd yn bwysig iddo fe, ac yn fodlon brwydro am chwarae teg."
Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, "Roedd Aled yn hwylusydd mewn bywyd, boed yn y proffesiwn cyfreithiol yr hyfforddodd i fynd iddo o Brifysgol Aberystwyth neu'r wleidyddiaeth a arddelodd. A doedden ni ddim ar yr un ochr yn wleidyddol, ond yn bendant roedd yn rhywun a fyddai'n estyn allan i ddod i gonsensws ac adeiladu Cymru well."
Ar ran Plaid Cymru, dywed Llyr Gruffydd "fe'n siglwyd ni i gyd gan golli gŵr a oedd yn berson didwyll, cynnes, ffraeth ac angerddol iawn. Ond angerdd addfwyn oedd yn perthyn i Aled—rhywun a oedd wastad yn barod i weithio ar draws ffiniau plaid er budd ei gymuned a'i genedl.
"Ac roedd hynny'n amlwg, wrth gwrs, o'i ddyddiau fe fel arweinydd cyngor Wrecsam, pan roedd ei ddrws e wastad ar agor i bawb. Ac wrth gwrs, fe roddodd e arweiniad clir o ran y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw, gan agor ysgolion Cymraeg newydd yn y sir a sicrhau bod y Gymraeg yn flaenoriaeth gorfforaethol i'r cyngor yn y cyfnod hwnnw. Ac roedd cael y cyfle i gario hynny ymlaen ar lefel genedlaethol, yn ei rôl fel Comisiynydd y Gymraeg, yn rhywbeth dwi'n gwybod roedd Aled yn falch iawn ohono fe."
Ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, dywed Jane Dodds,"roedd Aled yn un o'r bobl mwyaf caredig, cyfeillgar a gweithgar i fi ac eraill hefyd. Fe wnaeth Aled gyfraniad aruthrol i fywyd gwleidyddol Cymru, ac i'r cymunedau y bu'n eu gwasanaethu. Fel stick o roc, roedd Rhosllannerchrugog trwy Aled.
"A thra'n bod ni i gyd yn gyfarwydd â gyrfa wleidyddol Aled—yn gwasanaethu ward Ponciau, yn faer, ac yn arweinydd cyngor Wrecsam, neu fel Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru—cymuned Rhosllannerchrugog, a theulu Aled, a ddaeth yn gyntaf bob amser."
Wedi gyrfa fel cyfreithiwr, fe gafodd Aled Roberts ei ethol i Gyngor Wrecsam yn 1991, cyn cael ei wneud yn faer y dref yn 2003, ac yna arweinydd y cyngor yn 2005.
Fe gafodd ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol - y Senedd, bellach - yn 2011.
Fe gynrychiolodd ranbarth Gogledd Cymru dros y Democratiaid Rhyddfrydol am bum mlynedd nes 2016 pan gollodd y blaid y sedd ranbarthol.
Bu wedyn yn gyfrifol am gynnal adolygiad annibynnol o'r Gymraeg mewn Addysg ar ran Llywodraeth Cymru ac yn cadeirio'r bwrdd a fu'n gweithredu'r argynmhellion a nodwyd yn ei adolygiad.
Wedi hynny fe ddaeth yn Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg gan olynu Meri Huws, ac roedd wedi bod yn y rôl honno ers 1 Ebrill 2019.
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o chweched sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.
Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.