Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau, ychydig ddyddiau wedi'r etholiadau lleol.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Morlyn llanw Abertawewedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2022

    Mae'r Ceidwadwr Tom Giffard yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer prosiect ynni adnewyddadwy gwerth £1.7bn, gan gynnwys morlyn llanw, yn Abertawe.

    Daethpwyd i gytundeb rhwng yr awdurdod lleol a chwmni o Ben-y-bont ar Ogwr, DST Innovations, i ddefnyddio llain o dir.

    Mae disgwyl i brosiect Eden Las ddechrau gyda chynhyrchu batris ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy.

    Bydd y prosiect, sydd i fod i ddechrau adeiladu'r flwyddyn nesaf, hefyd yn cynnwys canolfan i arddangos y dechnoleg batri uwch-dechnoleg, o'r enw Batri, y mae DST wedi'i datblygu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

    Bydd ardal wefru fawr hefyd ar gyfer cerbydau trydan, sy'n cael eu pweru gan ynni solar, a fydd ar agor i'r cyhoedd.

    Dywed y prif weinidog “dim ond oherwydd y cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i gyngor dinas Abertawe, sef y corff cyhoeddus arweiniol mewn perthynas â phrosiect Eden Las, fynd yn ei flaen y mae’r prosiect hwn yn fyw."

    Ychwanegodd “y gofid mawr yw nad aeth yn ei flaen pan gafodd ei gynnig yn wreiddiol, ac ar adeg pan fo diogelwch ynni mor uchel ar ein meddyliau, byddem wedi bod o fewn ychydig fisoedd i’r morlyn gwreiddiol hwnnw bellach yn cynhyrchu ynni y gellid ei ddefnyddio yma yng Nghymru."

    Delwedd gan DST o'r morlyn llanw arfaethedig gan gynnwys tyrbinauFfynhonnell y llun, DST
    Disgrifiad o’r llun,

    Delwedd gan DST o'r morlyn llanw arfaethedig gan gynnwys tyrbinau

  3. Deng mlynedd ers lansio llwybr arfordir Cymruwedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2022

    Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd cyfres o ddigwyddiadau dros y flwyddyn i nodi deng mlynedd ers lansio llwybr arfordir Cymru.

    Dywed y bu'n cerdded llwybr yr arfordir y penwythnos diwethaf.

    "Ro'n i'n cerdded rhwng Pentywyn yn Sir Gâr a Llanrhath yn Sir Benfro. Mae'n debyg nad yw'n un o rannau mwyaf adnabyddus y llwybr, ond mae'n hollol brydferth."

    Mae'r llwybr ar hyd arfordir Cymru yn ymestyn am bellter o 870 o filltiroedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r llwybr ar hyd arfordir Cymru yn ymestyn am bellter o 870 o filltiroedd

    Mae arfordir Sir Benfro yn 186 milltir o hydFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae arfordir Sir Benfro yn 186 milltir o hyd

  4. Pwynt o drefnwedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn codi pwynt o drefn ynglŷn â sut mae arweinydd Plaid Cymru yn cwestiynu'r prif weinidog.

    Roedd y Llywydd Elin Jones wedi cyhoeddi canllawiau yn flaenorol na ddylai Adam Price ofyn cwestiynau ar bynciau a gwmpesir gan y cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

    Mae diwygio’r Senedd yn rhan o’r cytundeb.

    Dywed Elin Jones ei fod "yn ôl pob tebyg wedi mynd y tu hwnt i'r canllawiau yr wyf wedi'u cyhoeddi".

    Daw i'r casgliad: "Fe'i cymeraf fel eithriad i'r rheol heddiw. Ni fyddaf yn disgwyl iddo gael ei ailadrodd eto."

    Elin Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Elin Jones

  5. 'Adeiladu democratiaeth fodern'wedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cyfeirio at y cynllun a gyhoeddwyd gan Lafur a Phlaid Cymru i ddiwygio'r Senedd.

    Byddai’n golygu y byddai Senedd Cymru yn mynd i fyny i 96 o aelodau, cynnydd o 36, a hwb i’r nifer o fenywod sy’n cael eu hethol.

    Dywed Adam Price wrth wraidd y cynllun "mae awydd i adeiladu yma yng Nghymru ddemocratiaeth fodern, gan ddileu'r system annheg y cyntaf i'r felin, Senedd sydd a chydbwysedd llawn rhwng y rhywiau ac sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl", yn hytrach na "senedd pantomeim San Steffan".

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford fod "adroddiad ar ôl adroddiad" wedi dangos na all y Senedd, gyda 60 o aelodau "wneud y gwaith yn y ffordd y mae gan bobl Cymru yr hawl i ddisgwyl iddo gael ei wneud".

    “Bydd y diwygiadau rydyn ni wedi cytuno arnyn nhw yn unioni hynny,” meddai’r prif weinidog wrth y Senedd.

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. Mynediad at feddygon teuluwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn codi mater mynediad at feddygon teulu ac yn galw am "gynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer darpariaeth meddygon teulu yma yng Nghymru, a gwneud yn siŵr hefyd ein bod yn creu gwasanaeth sy'n addas ar gyfer y dyfodol gyda mynediad gan gleifion ble bynnag yr ydych yn byw yng Nghymru."

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o feddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru.

    "Cawsom gyfnod, ddim mor bell â hynny yn ôl, pan gawsom drafferth i lenwi nifer y lleoedd hyfforddi a oedd ar gael inni.

    "Nawr, rydym yn orlawn o ran lleoedd hyfforddiant ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei gymryd i ystyriaeth gan y corff sy’n cynllunio darpariaeth gweithlu ar gyfer y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru yn y dyfodol."

    Mae nifer y meddygon teulu yng Nghymru yn codi, meddai, tra bod y nifer wedi bod yn gostwng yn Lloegr.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Sicrhau bod lleisiau plant sy'n derbyn gofal yn cael eu clywedwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2022

    Mae Jack Sargeant o'r Blaid Lafur yn galw ar Lywodraeth Cymru "i sicrhau bod lleisiau plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn cael eu clywed i'w galluogi i lywio penderfyniadau polisi, fel diwygio'r gwasanaethau presennol mewn modd radical".

    Atebodd y prif weinidog, "Mae gwrando ar lais plant yn rhan annatod o'n gwaith, ac yn wir mae wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd hon.

    "Yr haf hwn, byddwn yn dod â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal at ei gilydd, i drafod ein hagenda radical o leihau y niferoedd mewn gofal, gan ddileu gwneud elw yn y system ofal, a chyflawni ein cynllun incwm sylfaenol sy’n torri tir newydd.”

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  8. Effaith Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 y DU ar drigolion Cymruwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae Rhys ab Owen yn gofyn ynghylch effaith Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 y DU ar drigolion Cymru.

    Mae'n dweud "gofynnodd preswylydd o fflat Spillers and Bakers ychydig i fyny'r ffordd i mi godi'r cwestiwn hwn heddiw. Yno, mae llawer o lesddeiliaid wedi cael rhybudd adran 20. Maent yn wynebu colli eu cartrefi oherwydd methiannau rheoleiddio costus yn y gorffennol.

    "Pryd fyddan nhw'n derbyn y gefnogaeth ymarferol sydd ei hangen arnyn nhw i ddod â'r hunllef hon i ben?"

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y Ddeddf yn cynnwys amddiffyniadau i lesddeilaid a bod "rhaglen ddiwygio Llywodraeth Cymru yn parhau. Mae cronfa diogelwch adeiladau Cymru, gyda’i £375 miliwn wedi’i neilltuo dros dair blynedd, yn llawer mwy y pen o’r boblogaeth nag sy’n wir ar draws y ffin."

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o bedwerydd sesiwn ar ddeg y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Senedd