Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau, bum mlynedd union ers marwolaeth y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mai 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Gwasanaethau ysbytaiwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mai 2022

    Mae'r prif weinidog yn amddiffyn effeithiolrwydd cyfluniad presennol gwasanaethau ysbytai yn Nwyrain De Cymru, gan ychwanegu "mae angen adolygu'r model bob amser; mae'n rhaid i ni bob amser wneud yn siŵr ei fod yn gweithio fel y bwriadwyd."

    Mae hefyd yn addo y bydd gwasanaeth bws yn rhedeg o'r Coed Duon, Trecelyn a Phont-y-pŵl i Ysbyty'r Faenor o fis Gorffennaf.

    Agorodd Ysbyty'r Faenor, Cwmbrân, sydd â 471 o welyau, ym mis Tachwedd 2020, gan gostio £358m i'w adeiladu.Ffynhonnell y llun, BWRDD IECHYD PRIFYSGOL ANEURIN BEVAN
    Disgrifiad o’r llun,

    Agorodd Ysbyty'r Faenor, Cwmbrân, sydd â 471 o welyau, ym mis Tachwedd 2020, gan gostio £358m i'w adeiladu.

  3. Gwasanaethau diogelu plantwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mai 2022

    Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud ei bod yn "pryderu'n fawr am y sefyllfa yng ngwasanaethau plant ein hawdurdodau lleol".

    Mae'n gofyn "pa mor gymorth mae'r llywodraeth yn ei gynnig i awdurdodau lleol, fel sir Benfro, i sicrhau bod gwasanaethau ar seilwaith cadarn, a beth sydd ar gael i gynnig cefnogaeth i'r bobl sy'n gweithio mor galed ar gyfer ein plant?"

    Cyfeiria y prif weinidog at "y cyngor newydd rŷn ni wedi'i greu gyda'r byrddau iechyd i helpu pobl yn y rheng flaen, yn y gwaith caled maen nhw'n ei wneud. Rŷn ni'n gweithio ar y foment gyda'n prifysgolion i weld a oes yna fwy rŷn ni'n gallu'i wneud i dynnu mwy o bobl i mewn i'r cyrsiau hyfforddiant sydd gyda ni yma yng Nghymru i greu'r gweithlu am y dyfodol."

    Jane Dodds
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds

  4. Rhybudd am golli mwy na 6,000 o swyddi yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mai 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn mynegi pryder am adroddiadau am gynlluniau llywodraeth y DU i dorri hyd at 91,000 o swyddi yn y gwasanaeth sifil er mwyn arbed arian.

    Mae'n rhybuddio y byddai toriad cymesur yn arwain at golli mwy na 6,000 o swyddi yng Nghymru.

    "A oes unrhyw syndod bod llywodraeth San Steffan wedi tynnu ei Mesur ar hawliau gweithwyr o Araith y Frenhines yr wythnos ddiwethaf pan nad yw'n ymddwyn fawr gwell na P&O?" mae'n gofyn.

    Mae'r prif weinidog yn cytuno ar yr effaith bosibl, ac yn dweud y byddai llywodraeth y DU yn dod o hyd i "wrthwynebydd cryf" yn y llywodraeth y mae'n ei harwain.

    Mae’n nodi “y tro diwethaf i mi gael trafodaeth ag unrhyw un o weinidogion y DU am swyddi yn y gwasanaeth sifil, roeddwn yn clywed y gweinidog hwnnw’n esbonio bwriad llywodraeth y DU i wasgaru swyddi’r gwasanaeth sifil o amgylch y wlad, ac i ddod â mwy o gyflogaeth i Gymru a mannau eraill y tu allan i Lundain. Am stori wahanol mae hon yn troi allan i fod mewn gwirionedd."

    Mae Mark Drakeford hefyd yn dweud mewn ymateb i arweinydd Plaid Cymru ei fod yn “difaru” y bydd efengylwr o’r Unol Daleithiau yn ymddangos mewn canolfan gynadledda sy’n rhannol ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, ond nid y llywodraeth oedd yn gyfrifol am ddigwyddiadau’r lleoliad. Mae Franklin Graham - a alwodd briodas hoyw yn "bechod" - i fod i ddod â'i God Loves You Tour i ICC Cymru, Casnewydd, ddydd Sadwrn. Mae'r ganolfan yn eiddo ar y cyd gan y llywodraeth a'r Celtic Manor.

    Dywed Mr Price: "Efallai fod gan Mr Graham yr hawl i'w gredoau homoffobig ond does bosib nad oes ganddo'r hawl i gael llwyfan i'w darlledu mewn canolfan gonfensiwn sydd 50% yn eiddo i Lywodraeth Cymru."

    Mae'n gofyn a oedd yn anfon neges o Gymru bod "homoffobia a chasineb yn dal yn dderbyniol rhywsut".

    Dywed y prif weinidog: “Rwy’n gresynu bod y digwyddiad y cyfeiriodd Adam Price ato yn mynd yn ei flaen, ond nid yw’r penderfyniad yn un i Lywodraeth Cymru.

    “Nid ydym yn rhedeg y ganolfan honno a mater i’r rhai sy’n gyfrifol amdani yw gwneud y penderfyniadau hynny.

    “Mae’n ddrwg gen i weld person o’r farn honno’n cael llwyfan i’w mynegi yma yng Nghymru ac nid ydyn nhw o gwbl yn adlewyrchu unrhyw beth y byddai Llywodraeth Cymru yn barod i’w gymeradwyo.”

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  5. 'Argyfwng yn y sector bwyd'wedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mai 2022

    "Does dim argyfwng yn y cyflenwad bwyd," mynnodd y prif weinidog, gan ddadlau gydag Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, sy'n dweud bod "argyfwng yn y sector bwyd".

    Mae Mr Davies yn nodi bod llywodraethwr Banc Lloegr ddoe wedi rhybuddio am godiadau “apocalyptaidd” mewn prisiau bwyd.

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod gwahaniaeth rhwng cynnydd yng nghostau bwyd a diffyg cyflenwad, ond mae'n cydnabod "pwysau chwyddiant".

    Dywed Mr Davies fod llywodraeth y DU wedi dod â'r ffenestr ar gyfer talu'r cynllun taliad sylfaenol i ffermwyr yn Lloegr ymlaen i fis Gorffennaf "fel y gellir lleddfu'r pwysau llif arian" ac mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau tebyg yng Nghymru.

    Mae'r prif weinidog yn ateb "mae record Llywodraeth Cymru o dalu y cynllun taliad sylfaenol, fel y bydd Arweinydd yr Wrthblaid yn gwybod, y gorau yn y Deyrnas Unedig ac wedi bod ers blynyddoedd lawer".

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Prif weinidog yn ymuno â'r cyfarfod o Lundainwedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mai 2022

    Mae'r Ceidwadwr James Evans yn codi pryderon am amseroedd aros y GIG ym Mhowys ac yn cyhuddo Mr Drakeford o fod eisiau gwastraffu miliynau ar fwy o wleidyddion - mae'n dweud y byddai'n well gwario arian ar fwy o nyrsys.

    Mae Mark Drakeford yn cyhuddo Mr Evans o "wleidyddiaeth ergydion rhad" ac yn dweud bod y bwrdd iechyd yn gweithio'n galed iawn ac yn llwyddiannus i leihau amseroedd aros.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  7. Costau ynni cynyddolwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mai 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi aelwydydd sy'n wynebu costau ynni cynyddol.

    O fis diwethaf mae codiad yng nghap pris ynni’r DU yn golygu y bydd y cartref arferol yn talu £693 y flwyddyn yn fwy am drydan a nwy.

    Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn cyfeirio at y rhaglen Cartrefi Clyd a thaliad costau byw o £150 i aelwydydd mewn eiddo ym mandiau treth gyngor A i D.

    Mae Mr George yn mynegi pryder am feini prawf cymhwyster y cynllun cymorth tanwydd gaeaf.

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod ei lywodraeth yn "edrych ar ehangu ei gymhwysedd" a bydd yn ceisio mynd i'r afael ag unrhyw anghysondebau.

    YnniFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 17 Mai 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o bumed sesiwn ar ddeg y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Bydd llawer yn cofio ei fod yn union bum mlynedd ers marwolaeth y cyn-Brif Weinidog Rhodri Morgan yn 77 oed.

    Bu'n brif weinidog am bron i 10 mlynedd rhwng 2000 a 2009.

    Er ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn Brif Weinidog Cymru, bu hefyd yn Aelod Seneddol Llafur amlwg yn yr 1980 a'r 90au.Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Er ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn Brif Weinidog Cymru, bu hefyd yn Aelod Seneddol Llafur amlwg yn yr 1980 a'r 90au.

    Rhodri Morgan yn gadael siambr y Senedd wrth iddo ymddeol yn 2011Ffynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhodri Morgan yn gadael siambr y Senedd wrth iddo ymddeol yn 2011