Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau, am y tro cyntaf ers toriad y Sulgwyn.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mehefin 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. 'Perthynas rhwng ci a phostyn lamp'wedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mehefin 2022

    Mae'r prif weinidog yn sôn am bwysigrwydd newyddiaduraeth Gymreig.

    Meddai, "ymysg y camau a gymerwyd i hyrwyddo newyddiaduraeth yng Nghymru mae ymrwymiad i roi cymorth ariannol i newyddiaduraeth sydd er budd y cyhoedd. Bydd y cymorth hwnnw'n parhau dros dair blynedd ariannol, fel y cadarnhawyd yn y cytundeb cydweithredu."

    Mae'n cyfaddef, "mae bob amser yn beth ychydig yn lletchwith i'r llywodraeth fuddsoddi mewn newyddiaduraeth", gan nodi'r dyfyniad y “dylai perthynas newyddiadurwr â gwleidydd fod yn berthynas rhwng ci a phostyn lamp” - datganiad y newyddiadurwr a’r beirniad Americanaidd H. L. Mencken.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  3. 'Nifer cynyddol o blant sy'n destun cynllun amddiffyn'wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mehefin 2022

    Mae'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds yn mynegi pryder am "y nifer cynyddol o blant sy'n destun cynllun amddiffyn plant".

    Mae'r prif weinidog yn gwrthod ei galwad am ymchwiliad annibynnol, gan ddweud nad oes prinder cyngor ac adroddiadau.

    Ychwanegodd, "rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â materion recriwtio a chadw yn y gweithlu hwn. Gwyddom fod yn rhaid i ni fuddsoddi mewn atal a dad-ddwysáu yn y system. Gwyddom fod gweithio rhanbarthol yn elfen bwysig yn yr ateb i'r heriau y mae gwasanaethau plant yn eu hwynebu heddiw.

    "Felly rwy’n meddwl ei bod yn ddyletswydd ar bobl sy’n dadlau o blaid ymchwiliad cyhoeddus i fynegi ble maent yn meddwl y mae’r bylchau yn ein gwybodaeth i’w canfod a lle maent yn meddwl y byddem yn dysgu rhywbeth nad ydym yn ei wybod yn barod am yr her sy’n wynebu’r gwasanaethau hynny a’r atebion sydd eisoes wedi’u dyfeisio i gwrdd â’r heriau hynny.”

    Jane Dodds
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds

  4. 'Mae merched trawsryweddol yn ferched'wedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mehefin 2022

    Wedi’i holi gan y Ceidwadwr Laura Anne Jones am gynnwys pobl drawsryweddol mewn chwaraeon, mae’r prif weinidog yn ateb “mae fy man cychwyn yr un fath â Penny Mordaunt, y gweinidog DU a oedd yn gyfrifol ar y pryd, a ddywedodd mai man cychwyn Llywodraeth y DU oedd bod merched trawsryweddol yn ferched".

    Laura Anne Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Laura Anne Jones

  5. Cwpan y Bydwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mehefin 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn galw ar Lywodraeth Cymru i "fanteisio ar y cyfle gwych" i Gymru o fod yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd.

    "Onid yw Cymru nid yn unig yma o hyd, ond, o ran y genhedlaeth yma, yn barod ac yn hyderus y gallan nhw lwyddo ar unrhyw lwyfan, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol?" meddai Mr Price.

    Mae'r prif weinidog yn ateb y bydd ei lywodraeth yn gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i "wneud y mwyaf" o gyfleoedd.

    Ychwanegodd Mr Drakeford, “Rydym wrth ein bodd y bydd Cymru yn cael ei chynrychioli yn Qatar. Ond ni ddylem edrych y ffordd arall oddi wrth amheuon a fyddai gennym fel cenedl o rai o’r materion hawliau dynol a welwn yno.”

    Dywed fod gweinidog yr economi Vaughan Gething wedi codi materion hawliau dynol yn uniongyrchol gydag awdurdodau Qatari pan ymwelodd ym mis Mai. “Rhaid i ni ein hunain wneud yn siŵr nad yw’r cyfleoedd hynny’n cael eu colli tra bod llygaid y byd ar y wlad honno.”

    Yma O HydFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Yma O Hyd

  6. 'Anhrefn traffig'wedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mehefin 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at "anhrefn traffig" pan oedd Ed Sheeran a'r grŵp roc My Chemical Romance yn chwarae yng Nghaerdydd.

    Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb bod “Trafnidiaeth i Gymru ar hyn o bryd yn y broses o gael benthyg dau drên o Northern Trains, yn ogystal â’r trenau CAF newydd y bwriedir iddynt ddod i mewn i wasanaeth yr haf hwn, er mwyn caniatáu iddynt ddarparu’r capasiti ychwanegol hwnnw pan mae gennym ni ddigwyddiadau prysur".

    Mae'n dweud ei fod yn derbyn pwysigrwydd "gwybodaeth dda am yr hyn sy'n digwydd" yn gyfredol ac y dylai Trafnidiaeth Cymru wneud pob ymdrech i sicrhau bod hynny'n cael ei darparu.

    Mae Mr Davies yn galw am adolygiad o strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

    Dywed y prif weinidog “y gwir ateb yw drwy adolygiad cysylltedd undeb Llywodraeth y DU... os gallwn gael yr adolygiad cysylltedd undeb i roi’r buddsoddiad hwnnw yn yr ail linell—y llinell sydd yno ochr yn ochr â’r brif reilffordd bresennol—bydd hynny’n caniatáu llawer mwy o wasanaethau ar y rheilffyrdd rhwng de Cymru ac ymlaen rhwng Bryste a gweddill Lloegr.”

    Cafodd oedi hir eu hadrodd ar yr M4 tua'r gorllewin rhwng Pont Tywysog Cymru a C26 ym mhenwythnos olaf mis MaiFfynhonnell y llun, TRAFFIG CYMRU
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd oedi hir eu hadrodd ar yr M4 tua'r gorllewin rhwng Pont Tywysog Cymru a C26 ym mhenwythnos olaf mis Mai

  7. Senedd fwywedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mehefin 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dechrau trwy feirniadu cynlluniau Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur i ehangu maint y Senedd o 60 aelod i 96.

    Mae Mr Millar yn galw ar y llywodraeth Lafur i gynnal refferendwm cyn ehangu'r Senedd.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb bod "y bobl eisoes wedi dweud eu dweud" yn etholiad diwethaf y Senedd gan fod diwygio'r Senedd ym maniffestos Llafur a Phlaid Cymru.

    Gallai'r cynlluniau, y cytunwyd arnynt fel rhan o gytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, hefyd weld system bleidleisio fwy cyfrannol yn cael ei mabwysiadu.

    Senedd fwy
  8. 'Pa mor falch yr ydym oll fel Senedd o'u llwyddiant aruthrol'wedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mehefin 2022

    Mae’r Llywydd Elin Jones yn dechrau drwy longyfarch tîm pêl-droed dynion Cymru ar eu llwyddiant wrth gyrraedd Cwpan y Byd.

    Mae hi’n dweud “cyn i unrhyw un ohonoch geisio bod y cyntaf i longyfarch tîm pêl-droed Cymru gadewch i mi fod y person i wneud hynny ar ein rhan i gyd, ac i ddweud wrth y tîm pêl-droed, a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, pa mor falch yr ydym oll fel Senedd o'u llwyddiant aruthrol.

    "A gallaf ddweud wrth yr Aelodau fy mod eisoes yn edrych i weld a oes gwrthdaro amseru rhwng gemau a chyfarfodydd llawn er mwyn gweld sut y gallwn ddatrys hynny yn ddiweddarach yn y flwyddyn."

    Mae Cymru ar eu ffordd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Cymru ar eu ffordd i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 7 Mehefin 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o seithfed sesiwn ar ddeg y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.