Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau ar bynciau yn cynnwys y gwasanaeth iechyd a chostau byw.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Cynllun gweithredu LGBTQ+wedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2022

    Ar y cynllun gweithredu LGBTQ+ arfaethedig, mae’r Ceidwadwr Laura Anne Jones yn dweud “rydym i gyd eisiau gweld hawliau i bobl draws yn cael eu hymestyn, ond, yn y bôn, nid ar draul hawliau merched ac mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n cael hyn yn iawn.

    “Fodd bynnag, o ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cynhwysiant uwchlaw popeth arall, uwchlaw urddas a diogelwch merched, ac uwchlaw tegwch a chyfle, nid dyma’r dull cywir, yn fy marn i, a bydd yn arwain at weld llawer o effeithiau andwyol ar hanner poblogaeth Cymru".

    Dywed y prif weinidog fod "Llywodraeth Cymru yn cymryd diogelwch menywod o ddifrif. Trwy asesiadau effaith, ymgysylltu â'r panel arbenigol LGBTQ+, a dros 1,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym yn parhau i werthuso effeithiau posibl ein cynllun gweithredu LGBTQ+ ar hawliau a diogelwch menywod."

    Laura Anne Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Laura Anne Jones

  3. 'Nid yw pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn broblemau i'w datrys'wedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2022

    Pan ofynnwyd iddo gan AS Llafur Hefin David pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, dywedodd y prif weinidog "pan fydd y Senedd yn dychwelyd yr hydref hwn, byddwn wedi cwblhau blwyddyn gyntaf y tair blynedd o weithredu arfaethedig ein Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg. Cefnogir y gweithredu gan £21 miliwn bob blwyddyn er mwyn gwella gwasanaethau."

    Ychwanegodd, "yn rhy hir, mae gwasanaethau'n gofyn, fel eu cwestiwn cyntaf, beth sydd o'i le arnoch chi? Rwyf am i'r cwestiwn cyntaf fod: pa gryfderau sydd gennych chi? Pa asedau sydd gennych chi? Sut gallwn ni weithio gyda chi, o'r cryfderau hynny, i helpu i fynd i'r afael â'r problemau yr ydych yn eu hwynebu ar hyn o bryd? Nid yw pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau yn broblemau i'w datrys."

  4. Prif weinidog ar ei feicwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2022

    Pan ofynnwyd iddo pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i gynyddu nifer y disgyblion sy’n teithio i’r ysgol ar feic, sgwter neu ar droed, mae’r prif weinidog yn datgan buddiant gan ei fod yn dweud ei fod yn bersonol yn treialu’r defnydd o feic trydan ar hyn o bryd.

    Dywed bod "arolwg Dwylo i Fyny, a arweiniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi darparu asesiad cenedlaethol o'r ffordd y mae plant ysgolion cynradd yn teithio i'r ysgol. Bydd yr astudiaeth ddilynol yn nodi graddau gwelliant teithio llesol yn y cyd-destun ôl-bandemig."

  5. Cynlluniau teithio llesolwedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2022

    Ni fydd cynigion adeiladu o dan raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain "yn cael eu cymeradwyo yn y dyfodol oni bai bod cynllun teithio llesol i gyd-fynd" meddai'r prif weinidog.

    TeithioFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Brexitwedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cyfeirio at araith arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, lle mae’n dweud na fydd y DU “yn mynd yn ôl i’r UE” o dan lywodraeth Lafur a’i ymrwymiad i gadw’r DU allan o farchnad sengl yr UE, yr undeb tollau a rheolau mudo.

    Mae Mr Price yn gofyn a yw'r prif weinidog yn cytuno.

    Mae'r prif weinidog yn ateb "mae'r byd wedi symud ymlaen. Nid yw'r Deyrnas Unedig bellach yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd...Mae araith arweinydd y Blaid Lafur yn canolbwyntio ar ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, perthynas lle nad ydym bellach yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.”

    Mae'n dweud mai safbwynt Llywodraeth Cymru yw "ein bod ni o blaid y fasnach ddi-ffrithiant agosaf posibl gyda'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r syniad y gallwch chi bicio'n ôl i'r farchnad sengl neu'r undeb tollau yn ffansïol, allwn ni ddim."

    Dywed Mr Price "un enghraifft o sut mae Cymru ar ei cholled o fod y tu allan i'r farchnad sengl, sydd bellach yn bolisi gan y Blaid Lafur, yw'r hyn sydd wedi digwydd i borthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Phenfro."

    Dywed bod porthladdoedd Cymru wedi colli busnes "drwy hwylio uniongyrchol-i-Ewrop o'r Weriniaeth a, hefyd, drwy borthladdoedd Gogledd Iwerddon sydd ar hyn o bryd yn mwynhau cyfnod gras amhenodol i allforio drwy'r Alban. Mae bellach yn fwy deniadol i anfon nwyddau o’r Weriniaeth i Belfast ac ymlaen i’r Alban nag y mae i’w hallforio drwy Gymru.”

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

    BaneriFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Plant mewn gofalwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2022

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, yn gofyn pam fod plant mewn gofal mor ifanc ag 11 oed wedi eu cartrefu mewn Airbnbs a llety dros dro eraill.

    Dyna mae gwaith ymchwil gan BBC Wales Investigates wedi'i ddarganfod.

    Mae'r prif weinidog yn ateb "Dwi'n meddwl bod yna nifer o resymau tu ôl i'r ffaith anffodus yna. Yr un mwyaf ydi ein bod ni'n cymryd gormod o blant oddi wrth eu teuluoedd yma yng Nghymru... Rydym yn cymryd plant oddi wrth eu teuluoedd yng Nghymru ddwywaith y gyfradd y mae plant yn cael eu cymryd i ofal yn Lloegr."

    Dywed Mr Davies: "Gwnaeth y llywodraeth yn 2015 yr ymrwymiad hwnnw i ddileu'n raddol y defnydd o lety gwely a brecwast, hosteli a gwestai rhad. A ydych chi'n dal i gadw at yr ymrwymiad hwnnw? ... Ac os yw'n flaenoriaeth gan y llywodraeth i gadw'r ymrwymiad hwnnw, a wnewch chi ymrwymo heddiw yn yr amser sydd gennych ar ôl fel prif weinidog i wneud yn siŵr bod yr ymrwymiad hwnnw'n cael ei weithredu"?

    Mae'r prif weinidog yn ateb "Rwyf am weld sefyllfa lle nad yw pobl ifanc yn derbyn gofal o dan yr amgylchiadau anfoddhaol iawn hynny."

    Bydd rhaglen BBC Wales Investigates - Michael Sheen: Lifting the lid on the care system - ar BBC One Wales am 21:00 nos Fawrth, ac ar iPlayer.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  8. 'Nid yw coronafeirws wedi diflannu'wedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2022

    “Nid yw coronafeirws wedi diflannu,” rhybuddiodd y prif weinidog.

    Mae’n dweud bod 1,500 o staff y GIG yng Nghymru i ffwrdd o’r gwaith heddiw oherwydd bod ganddyn nhw Covid.

    Dywed Mark Drakeford fod 600 o weithwyr eraill y GIG yn ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achosion Covid.

    Mae’n dweud bod hynny’n fwy na 2% o weithlu GIG Cymru, ac yn dangos “effaith barhaus” y feirws.

    Mark Drakeford
  9. 'Argyfwng' mynediad at wasanaethau deintyddolwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae'r Ceidwadwr Tom Giffard yn dweud bod "argyfwng" o ran mynediad at wasanaethau deintyddol.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford bod 99% o werth contract deintyddol y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac 88% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach yn cael ei wneud gan bractisau sydd wedi optio i mewn i ddiwygio contract deintyddol. Mae gweithio o dan egwyddorion diwygio yn creu capasiti ar gyfer cleifion newydd i gael mynediad i ofal deintyddol y GIG."

    deintydd
  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 5 Gorffennaf 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o unfed sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.