Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau am y tro olaf cyn toriad yr haf.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto ym mis Medi.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Ffordd osgoi Cas-gwentwedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2022

    Mae'r Ceidwadwr Peter Fox yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ddatblygu ffordd osgoi Cas-gwent er mwyn lleihau llygredd aer mewn ardaloedd lle mae tagfeydd".

    Mae'r prif weinidog yn cydnabod y gwaith a wnaed gan weinyddiaeth Geidwadol flaenorol cyngor Mynwy, a ddaeth "â thri ateb posib ymlaen i'r anawsterau cydnabyddedig sy'n wynebu rhannau o Gas-gwent".

    Ychwanegodd, “mae’r cyngor sir presennol wedi rhannu’r tri datrysiad posibl hynny ac ar hyn o bryd yn ymgynghori ar y ddau gyntaf - cynllun teithio llesol o amgylch Cas-gwent, a rhan 2, cyfnewidfa hwb trafnidiaeth yng ngorsaf reilffordd Cas-gwent.

    "Rwy’n meddwl ei bod yn iawn, cyn i opsiwn y ffordd osgoi gael ei ystyried ymhellach, ein bod yn dihysbyddu potensial rhannau 1 a 2 i wneud eu cyfraniad at ddatrys y materion ansawdd aer a wynebir yn y rhan honno o Gymru."

    Mae’r prif weinidog yn dweud ei fod yn “brawf mawr” ar lywodraeth y DU ei bod yn “dod o hyd i’r arian” i gefnogi argymhellion Adolygiad Cysylltedd yr Undeb, dan gadeiryddiaeth Syr Peter Hendy, oedd â chylch gwaith i adolygu ansawdd ac argaeledd seilwaith trafnidiaeth ar draws y DU.

    Cas-gwentFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae trigolion Cas-gwent yn bryderus am dagfeydd a llygredd aer yn y dref

  3. 'Trigolion yn cael eu troi allan i wneud lle ar gyfer llety gwyliau'wedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2022

    Mae Rhun ap Iorwerth yn codi pryderon bod teuluoedd yn cael eu troi allan o lety rhent tymor hir i wneud lle ar gyfer llety gwyliau.

    Mae'n dweud bod trigolion mewn cartrefi arfordirol o amgylch Ynys Môn wedi cael rhybuddion troi allan er mwyn i'r llety tymor hir gael eu troi'n llety gwyliau tymor byr.

    Dywed bod rhai trigolion mewn llety sy’n eiddo i Ystâd Bodorgan - oedd yn berchen ar yr eiddo lle bu Dug a Duges Caergrawnt yn byw yn ystod eu cyfnod ar yr ynys - wedi cael cais i adael er mwyn newid defnydd yr eiddo.

    Atebodd y prif weinidog ei fod yn "bryderus" o glywed yr honiadau, ac yn gofyn am "dystiolaeth bellach".

    Ychwanegodd, “ni all pobl gael eu troi allan yn syml trwy ofyn iddynt adael, mae rheolau a gofynion cyfreithiol y mae’n rhaid i landlordiaid gadw atynt ym mhob sector.”

    Mae Bodorgan yn ystad fawr yn ne-orllewin MônFfynhonnell y llun, OLIVER DIXON
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Bodorgan yn ystad fawr yn ne-orllewin Môn

  4. Cynllun dychwelyd erneswedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2022

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun dychwelyd ernes.

    Yn 2019 fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori , dolen allanolar y cyd â Llywodraeth y DU ar gynigion i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd.

    Mae'n gynllun lle rydych yn talu mwy am botel neu gan. Mae'r arian ychwanegol hwn, neu ernes, yn cael ei ddychwelyd pan fyddwch yn dychwelyd y cynhwysydd.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford, "ein nod fu datblygu'r cynllun fel partneriaeth â llywodraethau'r DU a Gogledd Iwerddon. Mae absenoldeb gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon a'r cythrwfl yn San Steffan ill dau yn effeithio ar yr amserlen ar gyfer cyhoeddi cynllun terfynol y cynllun. Mae'n debyg y bydd hyn yn cael ei ohirio ymhellach tan yr hydref."

    Dywed fod adborth “cadarnhaol” o gynllun peilot yng Nghonwy a oedd yn rhedeg am bedair wythnos o fis Gorffennaf 2020.

    PoteliFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. 'Pob agwedd o anghenion pobl ifanc'wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2022

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cymryd lle arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

    Dywed bod canlyniadau cyntaf y cyfrifiad yn dangos bod y boblogaeth yn lleihau mewn sawl ardal, gyda Cheredigion yn gweld y cwymp mwyaf, bron i 6 y cant.

    Meddai, "ydy'r prif weinidog yn cytuno bod angen i gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ifanc edrych ar lawer mwy na chynnig swyddi yn unig, i gynnwys pob agwedd o anghenion pobl ifanc: tai, amgylchedd, adnoddau, cymunedau llawn bywyd, ac mae dyna sut mae'u hannog nhw i benderfynu byw a ffynnu yma yng Nghymru?"

    Atebodd y prif weinidog, "un o’r rhesymau pam roeddwn i ac Adam Price wedi sefyll gyda’n gilydd yng nghynhadledd y wasg yr wythnos diwethaf i setio mas y cynllun sydd gyda ni ar gartrefi i bobl yng nghefn gwlad oedd i drial i greu posibiliadau am y dyfodol i bobl ifanc sydd eisiau byw yn y cymunedau lle rôn nhw wedi cael eu geni, ac i aros yno i weithio, godi eu plant ac wrth gwrs, i gael rhywle i fyw."

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

  6. Tei y prif weinidogwedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2022

    Canmolodd Andrew RT Davies dei y prif weinidog, sydd â chwlwm lliwgar ar y brig.

    Dywed Mark Drakeford iddo gael ei “wau i mi gan ddynes oedrannus iawn a ddaeth i’r wlad hon yn syth ar ôl yr ail ryfel byd fel ffoadur o Wcráin.

    “Mae’r cwlwm hwn yn ddyluniad o Wcráin y gwnaeth hi ei wau a’i anfon i gydnabod y gwaith sydd, ledled Cymru, yn mynd ymlaen i groesawu pobol o Wcráin.”

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  7. Amseroedd aros y GIGwedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn codi mater amseroedd aros y GIG.

    Dywed y prif weinidog ein bod yn “dechrau gweld gwelliant” ond mae’n cydnabod mai dyma “ddechrau taith hir” oherwydd effaith coronafeirws, hyd yn oed heddiw.

    Mae Mr Davies yn cyhuddo'r prif weinidog o gynnig "dim cynlluniau" a "dim atebion", heb unrhyw "ffordd allan" i'r rhai sy'n sownd ar restrau.

    Mae Mr Drakeford yn cyhuddo’r blaid Geidwadol o fod yn “ffuredau mewn sach” sy’n “annhebygol o lunio cynllun ar gyfer y GIG unrhyw le yn y DU”.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  8. Cysoni pŵer niwclear â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol?wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2022

    Mae Mabon ap Gwynfor yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru "yn cysoni gwaith Cwmni Egino ar ddatblygu gorsafoedd pŵer niwclear â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015".

    Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Mai y bydd yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a Cwmni Egino, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn cydweithio ar gynigion ar gyfer lleoli datblygiad niwclear newydd ar safle Trawsfynydd yng Ngwynedd.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford "mae Cwmni Egino wedi cael ei sefydlu i ailddatblygu cyn-safle gorsaf bŵer Trawsfynydd. Fel y nodir yn llythyr cylch gwaith y cwmni, bydd gofynion deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn rhan annatod o'i asesiad o bob prosiect posibl."

    Meddai Mabon ap Gwynfor, "pe bai'r bobl gyntaf ddaru adael cyfandir Affrica 80,000 o flynyddoedd yn ôl wedi cloddio am wraniwm, a datblygu ynni niwclear, yna mi fyddem ni'n parhau i ddelio efo'r gwastraff heddiw... Os mai ni sy'n cynhyrchu'r gwastraff yma, onid ein cyfrifoldeb ni ydy delio efo'r gwastraff, yn hytrach na gadael 140 tunnell o wastraff ymbelydrol, y storfa fwyaf yn y byd, i sefyll heb fodd i'w waredu, yn Sellafield Cumbria?"

    Atebodd y prif weinidog, "rydym wedi cael diwydiant niwclear yn Nhrawsfynydd am flynyddoedd, felly mae'r broblem honno wedi codi yn barod - dydyn ni ddim yn creu problem newydd drwy'r posibiliadau y mae Cwmni Egino yn eu trafod nawr am y safle."

    Diben Cwmni Egino, medd Llywodraeth Cymru, "yw cyflwyno prosiectau newydd posibl, gan gynnwys defnyddio adweithyddion niwclear bach i gynhyrchu trydan a hefyd adweithydd ymchwil radioisotope meddygol i gynhyrchu radioniwclidau i'w defnyddio i wneud diagnosis o ganser, a’i drin."

    Cafodd yr atomfa yn Nhrawsfynydd ei chau yn 1991Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd yr atomfa yn Nhrawsfynydd ei chau yn 1991

  9. Cefnogi mwy o bobl i gael gwaithwedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r prif weinidog ac i weinidogion Cymru. Caiff pob aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae'r aelod Llafur Vikki Howells yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mwy o bobl yn ei hetholaeth yng Nghwm Cynon i gael gwaith.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd ei lywodraeth ym mis Medi yn "estyn y cynnig gofal plant mwyaf hael yn y DU i'r rhai mewn addysg a hyfforddiant, a fydd yn caniatáu i fwy o fenywod yn enwedig gael mynediad i waith".

  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 12 Gorffennaf 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o ail sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.