Crynodeb

  • Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau gan ASau am y tro cyntaf ers toriad yr haf.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich+1 20 Medi 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Gwaharddiad ffracio yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 20 Medi 2022

    Mae'r prif weinidog yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wrthwynebu ffracio.

    Mae'r Prif Weinidog Liz Truss wedi cefnogi ffracio fel ffordd o helpu i hybu cyflenwadau nwy domestig y DU.

    Dywed Mr Drakeford, "ni fyddwn yn datrys yr argyfwng ynni drwy ddychwelyd at ffyrdd o gyflenwi ynni sydd wedi gwneud cymaint o niwed i'n planed. Ac mae'n arbennig o rwystredig i weld amser, egni ac arian yn cael eu dargyfeirio i'r cyfeiriad hwnnw pan fo cymaint y gellid ei wneud, a’i wneud yn gyflymach a’i wneud yn well, trwy fuddsoddi’r amser, yr egni a’r arian hwnnw i gynhyrchu ffurfiau adnewyddadwy o gynhyrchu ynni y mae gan Gymru gymaint o botensial ynddynt.”

    Mae ffracio yn golygu drilio i'r ddaear a chyfeirio cymysgedd pwysedd uchel o ddŵr, tywod a chemegau at haen o graig er mwyn rhyddhau'r nwy y tu mewn.

    Denodd ffracio am nwy siâl yn Swydd Gaerhirfryn yn 2018 brotestiadau lleolFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Denodd ffracio am nwy siâl yn Swydd Gaerhirfryn yn 2018 brotestiadau lleol

  3. 'Dim cyfle eto' i siarad gyda'r prif weinidog newyddwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 20 Medi 2022

    Dywed Mr Drakeford "nad oes cyfle i gwrdd â'r prif weinidog newydd wedi dod eto".

    Serch hynny, mae'n dweud ei fod wedi cael "sawl sgwrs gynhyrchiol" gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Syr Robert Buckland.

    Fe wnaeth Liz Truss feirniadu "negyddiaeth" Mark Drakeford yn ystod ei hymgyrch arweinyddiaethFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe wnaeth Liz Truss feirniadu "negyddiaeth" Mark Drakeford yn ystod ei hymgyrch arweinyddiaeth

  4. Ambiwlans Awyr Cymruwedi ei gyhoeddi 14:15 Amser Safonol Greenwich+1 20 Medi 2022

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn cyfleu "rhwystredigaeth a dicter" ymhlith cymunedau yn y canolbarth am gynlluniau gan Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ynglŷn ag ad-drefnu lleoliadau canolfannau yng Nghymru.

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “mae wedi bod yn safbwynt elusen Ambiwlans Awyr Cymru ers tro nad ydyn nhw’n dymuno derbyn cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw’n gwneud hynny am resymau da iawn yn ymwneud â’u model eu hunain.

    "Maen nhw’n ffyrnig o annibynnol. Gwn eu bod wedi rhoi sicrwydd i'r cyhoedd nad oes a wnelo dim o hyn â thorri costau. Yn syml, mae'n ymwneud â gwneud y gorau o'r gwasanaeth y maent yn ei ddarparu."

    Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i adael eu canolfan yng nghanolbarth Cymru yn Y Trallwng a symud criwiau i'r gogledd.

    Honnodd yr elusen y byddai gwneud hyn yn caniatáu iddi fynd i fwy na 500 o argyfyngau ychwanegol bob blwyddyn.

    Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru hefyd ganolfannau yng Nghaerdydd, Caernarfon a Llanelli.

    Ambiwlans Awyr Cymru
  5. 'Ymosodiadau ideolegol' ar ddarlledu gwasanaeth cyhoedduswedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 20 Medi 2022

    Mae'r prif weinidog yn beirniadu "ymosodiadau ideolegol" gan lywodraeth y DU ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.

    Mae'n dyfynnu cynlluniau i breifateiddio Channel Four a “methiant i ddod o hyd i sail briodol ar gyfer sicrhau y gellir gwarantu cyllid y BBC i’r dyfodol”.

  6. Prisiau trafnidiaethwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 20 Medi 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn rhestru cynlluniau mewn sawl gwlad Ewropeaidd sy'n lleihau prisiau trafnidiaeth.

    Meddai, "Mae Sbaen wedi cyhoeddi teithiau trên am ddim o fis Medi tan ddiwedd y flwyddyn. Yn yr Almaen rydym wedi cael y tocyn hynod lwyddiannus €9 y mis wedi'i dreialu dros yr haf, a fydd nawr yn gynllun €49 y mis ar gyfer y y flwyddyn nesaf gyfan, yn dilyn cytundeb gyda llywodraethau rhanbarthol Länder ddoe. Yn Awstria, rydym wedi cael y tocyn hinsawdd €3, ac mae Gweriniaeth Iwerddon wedi torri prisiau o 20 y cant ym mis Mai."

    Mae'n galw am weithredu tebyg yng Nghymru.

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Rwy’n gwbl ymwybodol o’r cynlluniau, rwy’n gweld eu rhinweddau, nid ydynt yn dod yn rhad ac am ddim, ac mae cyllideb Llywodraeth Cymru heddiw yn werth mwy na £600 miliwn yn llai mewn pŵer prynu nag yr oedd ym mis Tachwedd y llynedd, pan osodwyd hynny gan yr adolygiad cynhwysfawr o wariant.

    “Felly, er fy mod yn gweld y rhinweddau, byddai angen i mi ddeall yn well lle mae arweinydd Plaid Cymru yn meddwl bod y cyllid ar gyfer cynlluniau o’r fath i’w gael o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru.”

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  7. Pwysau sy'n wynebu GIG Cymruwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 20 Medi 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn tynnu sylw at y pwysau sy'n wynebu GIG Cymru.

    "Mae yna argyfwng cost-poen (cost-of-pain crisis) o fewn ein GIG. Yn anffodus, mae llawer o bobl mewn orthopaedeg yn aros am driniaethau am gyfnod sylweddol o amser; rhai cyhyd â dwy flynedd a mwy," meddai Mr Davies.

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod "amseroedd aros hir iawn yn GIG Cymru yn parhau i ostwng. Mae gweithgarwch yn ein GIG yn parhau i wella. Yn y mis diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer, rydym yn ôl i 97 y cant o'r holl weithgarwch cleifion allanol, o'i gymharu â mis cyn i’r pandemig ddechrau.”

    Ychwanegodd fod y “cyd-destun yn parhau i fod yn un heriol” oherwydd “nid yw 1,000 o staff y GIG yng Nghymru yn y gwaith heddiw oherwydd bod ganddyn nhw Covid eu hunain neu eu bod nhw wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â rhywun sydd wedi dal Covid.”

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  8. 'Nid yw coronafeirws wedi diflannu'wedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 20 Medi 2022

    “Nid yw coronafeirws wedi diflannu,” rhybuddia’r prif weinidog, gan ychwanegu “gwelsom, yn gynharach yr haf hwn, y nifer uchaf erioed o bobl yn mynd yn sâl gyda’r don omicron”.

    Mae'n pwysleisio y dylai pobol fanteisio ar y gwahoddiad i gael y brechlyn.

    Bydd pob oedolyn dros 50 oed yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd mis Tachwedd.

    Covid
  9. Teyrnged i gyn-Aelod Cynulliad Rhyddfrydolwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 20 Medi 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn dechrau trwy dalu teyrnged i gyn aelod y Cynulliad, Mick Bates, a fu farw yn 74 oed.

    Yn gyn-athro a ffermwr, roedd yn gynghorydd sir ym Mhowys cyn dod yn Aelod Cynulliad dros Faldwyn rhwng 1999 a 2011.

    Dywed y Llywydd, "mae nifer ohonom ni, mae'n siŵr, yn cofio presenoldeb Mick yn ein plith ni yn ystod tri thymor cyntaf y Senedd yma, ac roedd yn gyfrannwr pwysig, cyson a blaengar ar faterion cynaliadwyedd yn ystod y cyfnod yna.

    "A dwi'n siŵr ein bod ni gyd yn dymuno ymestyn pob cydymdeimlad gyda theulu a chyfeillion Mick Bates yn ystod y cyfnod anodd yma iddyn nhw."

    Mick BatesFfynhonnell y llun, DEMOCRATIAID RHYDDFRYDOL
    Disgrifiad o’r llun,

    Mick Bates

  10. Croesowedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 20 Medi 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o drydedd sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Mae Mark Drakeford yn wynebu cwestiynau am y tro cyntaf ers toriad yr haf.

    Cynhelir y cyfarfod ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.