Crynodeb

  • Y Trefnydd Lesley Griffiths yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog Mark Drakeford.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich+1 27 Medi 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. 'Anhrefn anhygoel'wedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 27 Medi 2022

    Mae Lesley Griffiths yn mynegi siom ynghylch y "cythrwfl o'r hyn a wnaeth y gyllideb fach ddydd Gwener diwethaf", gan ychwanegu "mae'n anhygoel yr anhrefn sydd wedi'i achosi gan Liz Truss, dim ond ychydig ddyddiau ar ôl symud i Rif 10."

    Plymiodd y bunt yn erbyn y ddoler ddydd Llun ar ôl sylwadau dros y penwythnos gan y Canghellor Kwasi Kwarteng yn addo mwy o doriadau treth, ar ben cyllideb fach ddydd Gwener pan gyhoeddodd y toriadau treth mwyaf ers 50 mlynedd.

    Dros nos, sefydlogodd y bunt ar $1.08 ar ôl cyrraedd y lefel isaf erioed o $1.03 ddydd Llun.

    Lesley Griffiths
    Disgrifiad o’r llun,

    Lesley Griffiths

  3. Truss a Drakeford heb drafodwedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 27 Medi 2022

    "Dwi'n meddwl ei bod hi'n anffodus iawn nad yw'r prif weinidog [Liz Truss] wedi codi'r ffôn i'r prif weinidog," meddai'r Trefnydd Lesley Griffiths.

    "Does ganddi hi ddim byd i'w ofni; mae'n berson rhwydd iawn i ddelio ag ef."

    Liz Truss a Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe wnaeth Liz Truss feirniadu "negyddiaeth" Mark Drakeford yn ystod ei hymgyrch am yr arweinyddiaeth

  4. Ymchwiliad Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 27 Medi 2022

    O ran rôl Llywodraeth Cymru yn ymchwiliad Covid-19 y DU, nid yw Lesley Griffiths yn derbyn honiad Rhun ap Iorwerth y bydd diffyg craffu heb ymchwiliad i Gymru yn unig.

    Mae hi’n dweud bod “gan Lywodraeth Cymru rôl uniongyrchol wrth osod y cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad Covid-19 y DU. Nawr bod yr ymchwiliad wedi’i sefydlu’n ffurfiol, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi tystiolaeth sylweddol iddo, er mwyn galluogi’r camau a gymerwyd yng Nghymru i gael eu craffu’n iawn.”

    CovidFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Galw am rewi rhenti dros y gaeafwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 27 Medi 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn galw ar Lywodraeth Cymru i rewi rhenti dros y gaeaf a fyddai, meddai, yn amddiffyn miloedd o bobl rhag costau tai cynyddol.

    Mae’n esbonio, “Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cyhoeddi rhewi rhenti o leiaf tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae Sadiq Khan, fel Maer Llundain, wedi gofyn am y pŵer i gyflwyno rhewi rhenti yno. Mae’r pŵer hwnnw gennym eisoes yng Nghymru, a chan na fydd rhent tai cymdeithasol yn cynyddu beth bynnag tan 1 Ebrill, ni fydd rhewi rhenti dros y gaeaf yn costio ceiniog i Lywodraeth Cymru; mae’n canolbwyntio ar y sector preifat.”

    Mae'r Trefnydd Lesley Griffiths yn rhybuddio "ei bod hi'n bwysig nad ydych chi wedyn yn cael landlordiaid yn cymryd tai i'w rhentu oddi ar y farchnad yn sydyn, a chael y canlyniadau anfwriadol hynny."

    Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn cymorth costau byw wedi’i dargedu a rhaglenni cyffredinol sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. Betsi Cadwaladrwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 27 Medi 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn codi mater amseroedd aros, yn enwedig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

    Dywed Mr Davies, "yr wythnos diwethaf cawsom yr amseroedd aros ar gyfer y GIG yng Nghymru. Yn y gogledd, y chi yw'r gweinidog sy'n uniongyrchol gyfrifol amdano, mae 15,000 o bobl yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth. A wnewch chi ymddiheuro i'r 15,000 o bobl sy'n aros mor hir ar y GIG yng Nghymru?"

    Mae'n gofyn i'r gweinidog dair gwaith i ymddiheuro am yr amseroedd aros, ac yn y trydydd ateb mae Lesley Griffiths yn dweud "mae'n ddrwg gennym fod pobl yn gorfod aros am amser hir".

    Mae hi'n dweud bod "rhestrau aros ar draws y DU", gan ychwanegu "ein bod ni'n benderfynol o fynd i'r afael â'r ôl-groniad".

    Roedd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig, o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, o haf 2015 tan fis Tachwedd 2020.

    Mae methiannau pellach wedi'u nodi ers hynny ac o drwch blewyn mae wedi osgoi cael ei roi yn ôl i fesurau arbennig ers hynny.

    Mae ysbytai'r bwrdd iechyd yn cynnwys Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

    Ym mis Mehefin, fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod Ysbyty Glan Clwyd, yn enwedig ei wasanaethau fasgwlaidd a'i ofal brys, wedi cael ei roi mewn "ymyrraeth wedi'i thargedu".

    Dyma'r ail lefel uchaf o oruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru.

    Mae cyfrifoldebau Betsi Cadwaladr yn cynnwys tri ysbyty cyffredinol
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae cyfrifoldebau Betsi Cadwaladr yn cynnwys tri ysbyty cyffredinol

  7. 'Argyfwng oherwydd diffyg athrawon ffiseg a chemeg'wedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich+1 27 Medi 2022

    Mae’r Ceidwadwr Joel James yn honni “ein bod ni mewn argyfwng gydag addysg gwyddoniaeth yng Nghymru oherwydd y diffyg athrawon mewn ffiseg a chemeg. Erbyn hyn mae gan Gymru gyn lleied o athrawon ffiseg fel nad oes digon i bob ysgol uwchradd yng Nghymru gael un, sy'n golygu bod y wyddoniaeth hon bron yn cael ei haddysgu'n bennaf gan athrawon nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau yn y maes pwnc."

    Ychwanegodd y "gallai'r sefyllfa hon gael ei disgrifio fel embaras cenedlaethol i Gymru".

    Mae'r Trefnydd Lesley Griffiths yn ateb, "Nid wyf yn cydnabod y darlun yr ydych yn ei bortreadu. Yn sicr nid wyf yn meddwl bod athrawon ffiseg a'r gair 'argyfwng' yn mynd gyda'i gilydd ac yn sicr nid wyf yn meddwl bod y Gweinidog dros Addysg a'r Gymraeg yn cytuno gyda chi chwaith."

    Fodd bynnag, mae'n cydnabod bod recriwtio "myfyrwyr sy'n astudio i addysgu ffiseg yn parhau i fod yn is na'r sefyllfa a ddymunir".

    FfisegFfynhonnell y llun, Science Photo Library
  8. Mark Drakeford yn ymweld â’r Alban i gwrdd â Nicola Sturgeonwedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 27 Medi 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o bedwerydd sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Mae'r Trefnydd Lesley Griffiths yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog Mark Drakeford.

    Esboniodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y prif weinidog "yn ymweld â’r Alban heddiw i gwrdd â Phrif Weinidog yr Alban. Bydd hefyd yn ymweld â phrosiectau yno sydd yn helpu pobl wrth i gostau byw godi."

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter