a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd Cymru
  2. 'Dim galwad ffôn nac e-bost gan y Prif Weinidog Liz Truss'

    Dywed Mark Drakeford, "Dwi ddim wedi clywed dim byd oddi wrth y prif weinidog newydd, dim galwad ffôn, dwi ddim wedi cael e-bost - dim byd o gwbl."

    Liz Truss a Mark Drakeford
  3. Effaith Covid ar y GIG

    Dywed y prif weinidog “mae’r GIG yn parhau i orfod delio ag effaith Covid, gydag ychydig llai na 1,000 o aelodau staff ddim yn y gwaith heddiw; mae tua 600-700 ohonyn nhw’n sâl gyda Covid eu hunain ac mae tua 300 ohonyn nhw ddim mewn gwaith oherwydd maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â rhywun gyda Covid. Mae hynny i gyd yn digwydd ar fyr rybudd, a phan fyddwch chi'n delio â 1,000, mae anallu sydyn pobl i fod yn y gweithle yn ddi-os yn gwneud y busnes o reoli'r gweithlu, a'r effaith ar gleifion, yn her".

    Covid
  4. '135 o flynyddoedd i Lywodraeth Cymru inswleiddio pob cartref sy’n dioddef tlodi tanwydd'

    Mae Jane Dodds o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cwestiynu record Llywodraeth Cymru ar raglenni insiwleiddio cartrefi, gan nodi ar y gyfradd bresennol y gallai gymryd 135 o flynyddoedd i inswleiddio pob cartref sy’n dioddef tlodi tanwydd.

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Mae wastad wedi bod yn her i’r rhaglen Cartrefi Clyd i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o insiwleiddio eiddo nad oes ganddyn nhw’r nodweddion sydd gan y rhan fwyaf o eiddo lle gallwch chi inswleiddio waliau ceudod ac ati. Rydym wrthi yn ailgynllunio’r rhaglen Cartrefi Clyd, byddwn yn chwilio’n fuan am y rownd nesaf o geisiadau gan bobl a fydd yn cyflwyno’r rhaglen honno ar lawr gwlad.”

    Jane Dodds
    Image caption: Jane Dodds
    inswleiddio
  5. Argyfwng costau byw

    Mae Cefin Campbell o Blaid Cymru yn galw am "gefnogaeth ddigonol i gartrefi gwledig ar draws canolbarth a gorllewin Cymru wrth iddynt wynebu heriau'r argyfwng costau byw", yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar ddefnyddio tanwydd nad yw ar y grid.

    Dywed y prif weinidog bod "Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £1.6 biliwn eleni mewn cymorth wedi'i dargedu ar gyfer costau byw a rhaglenni cyffredinol i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl ac i helpu i leddfu'r argyfwng hwn. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cymorth i'r rhai nad ydynt ar y grid nwy i brynu LPG neu olew mewn swmp."

    Cwsmeriaid olew gwresogi cartref
  6. Galw am rewi rhenti dros y gaeaf

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn galw eto ar Lywodraeth Cymru i rewi rhenti a chyflwyno gwaharddiad ar droi allan dros y gaeaf a fyddai, meddai, yn amddiffyn miloedd o bobl rhag costau tai cynyddol.

    Mae'r prif weinidog yn ateb y bydd yn edrych yn ofalus ar gynigion gan Lywodraeth yr Alban, ond mae'n rhybuddio yn erbyn "canlyniadau anfwriadol" o ran landlordiaid yn cymryd tai i'w rhentu oddi ar y farchnad.

    Mae ffigyrau gan Zoopla yn awgrymu bod rhenti cyfartalog wedi codi 12.3% i £750 yn y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf diwethaf.

    Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddai’n rhewi’r “rhan fwyaf o renti” tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ochr yn ochr â “moratoriwm chwe mis ar droi allan”.

    Dywed Adam Price: "Gallai’r gaeaf hwn fod yr un anoddaf a gofnodwyd erioed, yn wyneb costau cynyddol a chyflogau yn aros yn yr unfan. Gwelodd Plaid Cymru hyn yn dod. [Mae] Llywodraeth yr Alban eisoes wedi gweithredu – gyda llaw, yn dilyn ymgyrch gan Lafur yn yr Alban.

    “Pa dystiolaeth bellach sydd ei hangen [ar Lywodraeth Cymru] i’w darbwyllo mai atal digartrefedd yn ystod y gaeaf yw’r ffordd gywir o weithredu?

    “Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’r holl arfau yn ei meddiant i warchod ein mwyaf bregus dros y gaeaf – trwy gyhoeddi y byddan nhw’n rhewi pob rhent a thrwy wahardd pob achos o droi allan nawr.”

    Dywed Mr Drakeford nad yw deddfwriaeth yr Alban "yn cynnwys unrhyw un sy'n cymryd tenantiaeth [newydd], ac ar gyfer tenantiaethau presennol mae yna gyfres gyfan o ffyrdd y bydd eu rhent yn gallu codi beth bynnag".

    Tai
  7. Ymchwiliad Covid-19

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn galw eto am ymchwiliad i Gymru yn unig.

    Mae Mr Davies yn gofyn i'r prif weinidog pam ei fod yn rhwystro ymchwiliad Cymreig pan oedd Nicola Sturgeon wedi cytuno i ymchwiliad o'r fath yn yr Alban.

    Mae'r prif weinidog yn ateb mai "y ffordd orau o sicrhau atebion yw drwy gyfranogiad Cymru mewn ymchwiliad DU gyfan".

    Mae'n dweud wrth Mr Davies nad oedd ymchwiliad sy'n canolbwyntio ar Gymru yn unig "yn mynd i ddigwydd" ac mae'n pwysleisio "na fydd ymchwiliad o'r fath yma yng Nghymru".

    Mae’r prif weinidog yn croesawu y bydd teuluoedd o Gymru a gollodd anwyliaid i Covid-19 yn cael eu cydnabod yn gyfranwyr craidd yn yr ymchwiliad swyddogol i'r pandemig.

    Mae gwrandawiadau cychwynnol yr ymchwiliad wedi dechrau yn Llundain ddydd Mawrth.

    Covid
    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies
  8. 'Ehangu anghydraddoldeb'

    Mae'r prif weinidog yn rhybuddio y bydd "y newidiadau treth heb eu hariannu yn y datganiad cyllidol yn ehangu anghydraddoldeb ar draws y Deyrnas Unedig".

    Dywed bod Llywodraeth y DU "yn credu mewn ailddosbarthu; mae'n credu mewn cymryd arian oddi ar y tlawd a'i roi i'r cyfoethog".

  9. 'Hyrwyddo e-sigarennau'

    Mae'r Ceidwadwr Natasha Asghar yn galw ar Lywodraeth Cymru i "helpu i hyrwyddo e-sigarennau i annog ysmygwyr presennol i roi'r gorau i ysmygu".

    Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu "adolygiad ar sail tystiolaeth o'r defnydd o e-sigaréts yng Nghymru".

    Fodd bynnag, ychwanega, "lle mae e-sigaréts yn arwain at bobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio tybaco, yna, yn ddiamau, mae e-sigaréts yn llai niweidiol na sigaréts confensiynol. Yn anffodus, y dystiolaeth yw bod y rhan fwyaf o bobl yn defnyddio e-sigarét yn ogystal ag, nid yn lle, sigarét gonfensiynol. Mae wyth deg pump y cant mewn astudiaethau diweddar yn ddefnydd deuol, ac nid yw defnydd deuol, mae arnaf ofn, yn dileu'r niwed a ddaw yn sgil ysmygu sigaréts confensiynol."

    e-sigarennau
  10. Croeso

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o bumed sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Yr wythnos ddiwethaf, pan atebodd y Trefnydd Lesley Griffiths gwestiynau ar ran y Prif Weinidog Mark Drakeford, atebodd hi 10 cwestiwn mewn 45 munud. “Da iawn” ymatebodd y Llywydd Elin Jones, a awgrymodd fod y Trefnydd yn rhoi “tiwtorial i’r Cabinet ar sut i roi atebion cryno mewn cwestiynau llafar”. A fydd y prif weinidog wedi cymryd yr awgrym?

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Cyfarfu Mark Drakeford â Nicola Sturgeon yng Nghaeredin ddydd Mawrth diwethaf
    Image caption: Cyfarfu Mark Drakeford â Nicola Sturgeon yng Nghaeredin ddydd Mawrth diwethaf
    Y Llywydd Elin Jones
    Image caption: Y Llywydd Elin Jones