Crynodeb

  • Siambr y Senedd yn troi'n ffau llewod wrth i Mark Drakeford ac Andrew RT Davies ddadlau am y GIG.

  • Y prif weinidog yn wynebu cwestiynau gan ASau ar yr economi, y GIG a diogelwch adeiladau ymhlith eraill.

  • Mark Drakeford yn ffrwydro mewn dicter wrth wynebu cwestiynau gan y Ceidwadwyr am amseroedd aros hir am ambiwlansys.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 18 Hydref 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Ystâd y GIGwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 18 Hydref 2022

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu â sicrhau bod gan Gonwy a Sir Ddinbych ystâd GIG sy'n "addas i'r pwrpas".

    Dywed Mr Millar, “pan oeddech yn weinidog iechyd yn ôl yn 2013, fe wnaethoch addo i bobl gogledd sir Ddinbych ac, yn wir, gogledd-ddwyrain Conwy, yn fy etholaeth i, y byddai ysbyty cymunedol newydd, a fyddai’n cael ei adeiladu yn y Rhyl... rydym dros naw mlynedd ar ôl eich cyhoeddiad, ac nid oes gennym ysbyty cymunedol yng ngogledd Sir Ddinbych o hyd."

    Atebodd y prif weinidog, "Roeddwn yn falch o gymeradwyo'r achos amlinellol strategol a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd pan oeddwn yn weinidog iechyd. Dywedodd y gallai'r cyfleuster newydd gael ei ddarparu ar gost o £22 miliwn. Erbyn i fy nghyd-Aelod Vaughan Gething gymeradwyo yr achos busnes amlinellol yn 2018, roedd y gost wedi codi i £40 miliwn. Mae papurau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n adrodd ar yr achos busnes llawn yn dweud ei fod bellach wedi codi i £64 miliwn, ac roedd hynny ar ddiwedd 2020, felly gallwn fod yn gwbl hyderus ei fod ymhell dros £64 miliwn. Felly, mae cost y cynllun wedi codi mwy na theirgwaith yr amcangyfrif cost gwreiddiol."

  3. Rhaglenni sgrinio cenedlaethol y GIGwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 18 Hydref 2022

    Mae'r prif weinidog yn dweud ei bod er budd cyflogwyr, yn ogystal â'r unigolion, i ganiatáu amser i staff fynychu rhaglenni sgrinio'r GIG ledled Cymru.

    Mae'n rhoi enghraifft o effeithiolrwydd y rhaglenni hynny.

    "Os bydd rhywun â chanser y coluddyn yn cael y canser hwnnw wedi'i ganfod fel sgil-gynnyrch ymyrraeth frys yn eu bywydau oherwydd pethau eraill sydd wedi mynd o'i le, bydd pump o bob 10 o'r bobl hynny yn goroesi. Os bydd eu meddyg teulu yn rhoi'r diagnosis, bydd saith o bob 10 o'r bobl hynny yn goroesi. Os canfyddir canser y coluddyn o ganlyniad i sgrinio, bydd naw o bob 10 o bobl yn goroesi."

    Pecyn prawf cartref i helpu i wneud diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnarFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Cynlluniau trethwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 18 Hydref 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn beirniadu plaid Lafur y DU am ymrwymo i gadw at gynlluniau treth y Ceidwadwyr.

    Ac ar bwnc troeon pedol gwleidyddol, dywed Mr Price "dair wythnos yn ôl, dywedodd Keir Starmer na fyddai Llafur yn gwrthdroi'r toriad i gyfradd sylfaenol treth incwm, byddai'n beth anghywir i'w wneud. Nawr, y bore yma, dywedodd canghellor yr wrthblaid fod Llafur yn cefnogi rhoi'r polisi yn y bin. Felly, wrth gefnogi tro pedol y Torïaid, mae Llafur wedi perfformio tro pedol ei hun."

    Mae'r prif weinidog yn dweud "bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn etifeddu'r trafferthion sydd wedi eu creu yn ystod y tair wythnos ddiwethaf. Mae'r tair wythnos diwethaf wedi newid y cyd-destun y mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ynddo".

    Mae'r prif weinidog yn dyfynnu enghreifftiau lle mae'n dweud y byddai Llafur yn wahanol, megis treth ffawdelw ar gwmnïau ynni.

    Adam Price
  5. Y prif weinidog ac Andrew RT Davies yn gweiddi’n ddig ar ei gilyddwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 18 Hydref 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at achosion diweddar pan "na allai ambiwlansys droi i fyny i ddigwyddiadau difrifol".

    Cyfeiriodd Mr Davies at ddwy enghraifft o arosiadau hir, gan gynnwys stori ar Walesonline am ddyn oedd yn aros ar lawr am 15 awr.

    Darllenodd ddyfyniadau gan ferch y dyn yn cyhuddo Cymru o gael gwasanaeth iechyd fel "gwlad trydydd byd" ac y byddai Aneurin Bevan, y gweinidog Llafur a oruchwyliodd y gwaith o greu'r GIG, yn troi yn ei fedd.

    Mewn ymateb, cyhuddwyd Mr Davies gan Mr Drakeford o fod yn "rhannol gyfrifol am y llanast rydyn ni ynddo" oherwydd ei fod wedi cefnogi Liz Truss ar gyfer arweinyddiaeth y Ceidwadwyr.

    Mae'r prif weinidog yn cydnabod bod "y system dan bwysau aruthrol" ond mae'n rhybuddio y bydd "toriadau i'r gwasanaeth iechyd" gan y Ceidwadwyr yn cynyddu'r pwysau hwnnw.

    Dywedodd Mr Drakeford ei bod yn "syfrdanol eich bod yn meddwl y gallwch ddod yma'r prynhawn yma gyda'r llanast y mae eich plaid wedi'i wneud, i gyllidebau'r wlad hon, i enw da'r wlad hon ledled y byd".

    Gan droi tudalennau ei nodiadau briffio yn ddig, dywedodd wrth Mr Davies: "Rydych chi'n meddwl y gallwch chi droi i fyny yma'r prynhawn yma a hawlio rhyw fath o dir uchel moesol? Pa fath o fyd ydych chi'n perthyn iddo?"

    Mae yna olygfeydd hynod wrth i’r prif weinidog ac Andrew RT Davies weiddi’n ddig ar ei gilydd, gyda’r Llywydd Elin Jones yn galw arnynt i ymdawelu.

    Disgrifiad,

    Y prif weinidog yn ymateb yn gandryll i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

    Mark Drakeford
    Ailadroddodd Andrew RT Davies gyhuddiadau bod gan Gymru GIG "trydydd byd".
    Disgrifiad o’r llun,

    Ailadroddodd Andrew RT Davies gyhuddiadau bod gan Gymru GIG "trydydd byd".

  6. 'Syniadau sydd wedi methu'wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 18 Hydref 2022

    Mae'r prif weinidog yn beirniadu "syniadau sydd wedi methu" y Prif Weinidog Liz Truss.

    Mae'n dweud mai un enghraifft o'r "arbrawf a fethwyd" yw "yma yng Nghymru, yr adeg hon y flwyddyn nesaf, bydd y person cyffredin â morgais yn talu £2,300 yn fwy mewn blwyddyn nag y byddent pe bai cyfraddau llog yn aros lle'r oedden nhw yn y chwarter presennol".

    Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) yr wythnos diwethaf yn dweud y byddai toriad o 15 y cant mewn gwariant cyhoeddus. Dywed y byddai "hyn nid ar ôl degawd o dwf, ond ar ôl degawd o lymder. Ni all neb gymryd arno y gall pobl yng Nghymru gael eu cysgodi rhag hynny."

    Mae'r gweinidog cyllid Rebecca Evans wedi delio â chwe phrif ysgrifennydd i’r Trysorlys, meddai wrth y Senedd.

  7. Diogelwch adeiladauwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 18 Hydref 2022

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn galw ar y prif weinidog i "gyflymu'r broses o gyflwyno deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru".

    Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud bod y gwaith o ddiwygio rheoliadau diogelwch adeiladau eisoes wedi dechrau, ac mae’n nodi’r broses ddeddfwriaethol.

    Mae'n dweud bod gan ei lywodraeth ymgynghoriad, dolen allanol ar hyn o bryd sy'n canolbwyntio ar y rheolau a'r safonau y bydd yn disgwyl i Gyrff Rheoli Adeiladu yn y sector cyhoeddus a phreifat gydymffurfio â nhw.

    Mae hefyd yn dweud bod nifer o ddarpariaethau sy’n berthnasol i Gymru wedi’u cynnwys yn Neddf Diogelwch Adeiladu 2022 y DU.

    Wedi i dân yn fflatiau Tŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain ladd 72 o bobl yn 2017, fe ddaeth i'r amlwg bod cannoedd o flociau eraill o fflatiau ar draws y DU â diffygion difrifol gan gynnwys cladin fflamadwy.

    Cafodd 72 o bobl eu lladd wedi'r tân yn fflatiau Tŵr GrenfellFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd 72 o bobl eu lladd wedi'r tân yn fflatiau Tŵr Grenfell

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich+1 18 Hydref 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o seithfed sesiwn ar hugain y Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn 2022.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.