Crynodeb

  • Y Trefnydd Lesley Griffiths yn ateb cwestiynau ar ran y prif weinidog, a oedd yn Qatar neithiwr.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich 22 Tachwedd 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Fferm Gilestonewedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich 22 Tachwedd 2022

    Ar ôl i Fferm Gilestone ym Mhowys gael ei phrynu'n ddadleuol gan Lywodraeth Cymru am £4.5m, mae'r Ceidwadwr James Evans yn dweud y byddai'n "lle perffaith ar gyfer coleg amaethyddol".

    Dywed Lesley Griffiths fod "fferm Gilestone yn cael ei rheoli'n briodol ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod yr ased yn cael ei gynnal tra bod trafodaethau ar ddyfodol hirdymor y safle yn dod i ben".

    Mae Mr Evans o'r farn bod "De Powys angen coleg amaethyddol" ac yn galw am i'r tir gael ei "ddefnyddio ar gyfer ffermio ac i helpu'r cenedlaethau nesaf o ffermwyr ifanc".

    Mae cynlluniau i berchennog gŵyl y Dyn Gwyrdd redeg y fferm ger Tal-y-bont ar Wysg ym MhowysFfynhonnell y llun, Dyn Gwyrdd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae cynlluniau i berchennog gŵyl y Dyn Gwyrdd redeg y fferm ger Tal-y-bont ar Wysg ym Mhowys

  3. 'Gwarchod y mwyaf bregus'wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich 22 Tachwedd 2022

    Ar ddatganiad hydref Llywodraeth y DU, dywed Lesley Griffiths "ni fydd y cyllid ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi cael - £1.2 biliwn dros y ddwy flynedd nesaf - yn llenwi'r bylchau mawr yn ein cyllideb", ond mae'n ychwanegu y bydd Llywodraeth Cymru yn anelu at "warchod y mwyaf bregus".

    Dywed y Ceidwadwr Darren Millar bod "gan Lywodraeth Cymru ei chyllideb fwyaf erioed ar hyn o bryd. Mae'n gyllideb sydd wedi torri record, ac mae'n mynd i godi dros y ddwy flynedd nesaf."

    Lesley Griffiths
    Disgrifiad o’r llun,

    Lesley Griffiths

  4. Streic gan staff y GIGwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich 22 Tachwedd 2022

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn cyfeirio at newyddion am drafodaethau newydd i geisio osgoi streic gan staff y GIG yn yr Alban, ac yn gofyn pam nad yw Llywodraeth Cymru yn dilyn esiampl Llywodraeth yr Alban.

    Mae'r Trefnydd yn ateb “mae ein setliad ariannol presennol yn brin o lawer iawn o’r hyn sydd ei angen mewn gwirionedd i gwrdd â’r heriau sylweddol iawn sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr ledled Cymru”.

    Mae Mr Price hefyd yn codi achos cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, Laura McAllister, sydd wedi disgrifio cael cais i dynnu ei het bwced "wal enfys" wrth iddi fynd i mewn i stadiwm Cwpan y Byd yn Qatar.

    Dywed Lesley Griffiths fod gweithredu yn erbyn y defnydd o ddelweddau'r enfys yng Nghwpan y Byd wedi bod yn "warthus". Mae hi'n dweud ei bod hi'n adnabod rhywun y gofynnwyd iddyn nhw dynnu gareiau enfys allan o'u hesgidiau.

    Ychwanegodd, “Mae’n gwbl annerbyniol, ac rwy’n gwybod ein bod wedi bod mewn deialog gyda’r llysgenhadaeth yn Doha, yn ceisio cael rhywfaint o eglurhad brys nad yw hetiau bwced enfys, careiau neu grysau-T yn cael eu gwahardd o stadia, ac rwy’n gobeithio'n fawr iawn na welwn ni hynny eto."

    Dywedodd Laura McAllister fod yr ymateb a wynebodd gan swyddogion diogelwch yn "llawdrwm"
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Laura McAllister fod yr ymateb a wynebodd gan swyddogion diogelwch yn "llawdrwm"

  5. Heddlu Gwentwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 22 Tachwedd 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at yr ymchwiliad i honiadau o gasineb at fenywod, hiliaeth, homoffobia a thwyll yn Heddlu Gwent.

    Dywed "nid oes gennyf unrhyw hyder yn uwch arweinyddiaeth Heddlu Gwent, boed hynny ar lefel swyddogion neu ar lefel comisiynydd heddlu a throseddu. Mae'r datgeliadau hyn yn erchyll a dweud y lleiaf."

    Atebodd y Trefnydd Lesley Griffiths nad oedd plismona wedi'i ddatganoli i Gymru ac felly yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU, "ond wrth gwrs rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n partneriaid plismona yma yng Nghymru".

    Ond ychwanegodd bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt wedi cyfarfod y prif gwnstabl a chomisiynydd heddlu a throseddu Gwent "i drafod yr honiadau ac wedi cael sicrwydd bod Heddlu Gwent yn cymryd yr honiadau hyn o ddifrif".

    Ymddeolodd Ricky Jones o Heddlu Gwent yn 2017. Bu farw drwy hunanladdiad ar Bont Tywysog Cymru yn 2020.

    Yn ôl ei wraig a'i ferch roedd e'n rheoli ac yn cam-drin adref.

    Mae'r negeseuon a ddarganfuwyd ar ffôn Mr Jones wedi ennyn yr ymchwiliad i gasineb at fenywod, hiliaeth, homoffobia a thwyll yn Heddlu Gwent.

    Mae negeseuon gafodd eu darganfod ar ffôn swyddog fu farw - Ricky Jones - wedi sbarduno ymchwiliad i’r lluFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae negeseuon gafodd eu darganfod ar ffôn swyddog fu farw - Ricky Jones - wedi sbarduno ymchwiliad i’r llu

  6. Cyllid i ysgolionwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich 22 Tachwedd 2022

    Pan ofynnwyd iddi gan y Ceidwadwr Laura Anne Jones "a wnaiff Llywodraeth Cymru roi arian i ysgolion yng Nghymru a fydd yn cyfateb i'r arian ychwanegol y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i ysgolion yn Lloegr?", mae'r Trefnydd yn ateb "fel y dangosir gan ddadansoddiad diweddar gan y Trysorlys, roedd gwariant y pen ar addysg yng Nghymru 17 y cant yn uwch nag yn Lloegr yn 2021-22. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24."

    YsgolFfynhonnell y llun, PA Media
  7. Rhwystro Nexperia BV rhag caffael Newport Wafer Fabwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 22 Tachwedd 2022

    Mae'r AS Llafur dros Orllewin Casnewydd, Jayne Bryant, yn gofyn "pa asesiad y mae'r prif weinidog wedi'i wneud o effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i rwystro Nexperia BV rhag caffael Newport Wafer Fab?"

    Mae'r Trefnydd yn ateb "mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r ffaith bod y cyhoeddiad wedi'i wneud o'r diwedd, sydd wedi rhoi rhywfaint o eglurder."

    Ychwanegodd, "fel llywodraeth nid oes gennym yr arbenigedd i asesu'r materion diogelwch sydd yn y fantol".

    Mae hi hefyd yn dweud bod "Casnewydd yn ymfalchïo mewn clwstwr lled-ddargludyddion o bwys byd-eang, ac mae gan Lywodraeth y DU gyfrifoldeb i sicrhau nad yw'n cael ei ddal yn ôl o ganlyniad i hyn."

    Mae'n rhaid i gwmni Nexperia werthu 86% o'u siâr yn ffatri Newport Wafer Fab oherwydd pryderon am ddiogelwch cenedlaethol, medd Llywodraeth y DU.

    Cafodd cwmni Newport Wafer Fab ei brynu'n llawn gan y cwmni technoleg o'r Iseldiroedd, Nexperia, ym mis Gorffennaf 2021.

    Ond cafodd adolygiad o'r pryniant ei orchymyn gan weinidogion ar sail diogelwch cenedlaethol - hynny gan bod prif berchnogion Nexperia yn dod o China.

    Mae'r diwydiant lled-ddargludyddion y DU yn cael ei ystyried yn un o bwysigrwydd strategol, ac roedd yna bryderon y gallai'r dechnoleg yng Nghasnewydd fynd i ddwylo China drwy Nexperia.

    Cwmni Wingtech sydd yn berchen ar Nexperia, cwmni sydd wedi'i restru yn Shanghai ac a gredir o fod yn cael cefnogaeth gan Blaid Gomiwnyddol China.

    Mae Nexperia yn bwriadu herio'r gorchymyn.

    Mae Newport Wafer Fab yn cyflogi tua 450 o bobl yn ardal Dyffryn y ddinasFfynhonnell y llun, Newport Wafer Fab
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Newport Wafer Fab yn cyflogi tua 450 o bobl yn ardal Dyffryn y ddinas

  8. 'Sut i roi atebion cryno mewn cwestiynau llafar'wedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich 22 Tachwedd 2022

    Pan atebodd y Trefnydd gwestiynau ar ran y prif weinidog ar 27 Medi, atebodd 10 cwestiwn mewn 45 munud. “Da iawn” ymatebodd y Llywydd Elin Jones, a awgrymodd fod y Trefnydd yn rhoi “tiwtorial i’r Cabinet ar sut i roi atebion cryno mewn cwestiynau llafar”.

    Mae'r Llywydd yn gwerthfawrogi "atebion cryno"
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Llywydd yn gwerthfawrogi "atebion cryno"

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 22 Tachwedd 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Mae'r Trefnydd Lesley Griffiths yn ateb cwestiynau ar ran y prif weinidog, sydd ar ei ffordd adref o Qatar.

    Ymgasglodd Aelodau o'r Senedd yn y Siambr yr wythnos ddiwethaf i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y BydFfynhonnell y llun, Senedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Ymgasglodd Aelodau o'r Senedd yn y Siambr yr wythnos ddiwethaf i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd