Crynodeb

  • Y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, am y tro olaf ond un yn 2022.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2022

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Cau canghennau bancwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2022

    Dywed y prif weinidog ei fod yn rhannu siom Luke Fletcher am y rownd ddiweddaraf o gau canghennau banc, a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf gan HSBC.

    Mae Mr Fletcher yn galw am gyflymu agoriad rhwydwaith banc cymunedol Banc Cambria.

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "Hoffem iddo ddigwydd cyn gynted â phosibl. Y rhesymau pam nad yw mor gyflym ag yr hoffem yw'r rhai technegol yn unig, rhai heriol trwyddedu yn y maes gwasanaethau ariannol".

    Ychwanegodd, "rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, oherwydd bod ganddi nifer o’r amodau hynny eisoes, mewn sector sy’n cael ei reoleiddio’n dynn.”

    Yng Nghymru, bydd HSBC yn cau canghennau yn Y Fenni, Aberhonddu, Bae Colwyn, Y Bont-faen, Pont-y-pŵl, Penarth, Cas-gwent, Port Talbot, Dinbych, Dinbych-y-pysgod a Chaerdydd (Rhyd y Pennau).

    HSBCFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Y GIG neu driniaeth breifat?wedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2022

    Mae'r prif weinidog yn cael gwybod am achosion unigol o brofiadau gwael etholwyr ASau gyda'r GIG, gan eu harwain i geisio triniaeth breifat.

    Dywed y prif weinidog, "rwyf am weld gwasanaeth iechyd sy'n gallu ymateb i angen yn brydlon, o safbwynt clinigol, ac sydd ar gael i bawb sy'n dewis ei ddefnyddio. Y gwasanaeth iechyd sy'n darparu bron y cyfan o'r gofal sylfaenol a'r gofal brys yng Nghymru. Os yw cleifion yn dewis defnyddio'r sector annibynnol, maen nhw’n rhydd i wneud hynny, wrth gwrs."

  4. Dicter a hiwmorwedi ei gyhoeddi 14:20 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2022

    Dywed Mr Drakeford fod yr adroddiad ar sut y gallai Prydain edrych o dan lywodraeth Lafur yn y DU - gan gomisiwn dan arweiniad y cyn Brif Weinidog Gordon Brown - yn "gam cyntaf" tuag at ddatganoli cyfiawnder, cyn iddo fynd yn grac gydag arweinydd Plaid Cymru Adam Price ynghylch ei farn bod "argymhelliad comisiwn Brown i ddatganoli dim ond cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn mynd â ni yn ôl 10 mlynedd yn y ddadl ar ddatganoli yng Nghymru".

    Yna mae Hefin David o'r Blaid Lafur yn gofyn am fanteision y cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

    Mae pawb yn chwerthin ynghylch yr amseru.

    Mae'r prif weinidog wedyn yn ychwanegu, "trwy weithio gyda'n gilydd, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol ar sawl ymrwymiad ar y cyd, sy'n cael effaith uniongyrchol ar allu pobl i ymdopi yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae'r rhain yn cynnwys prydau ysgol am ddim, ehangu gofal plant am ddim, a mesurau sy'n helpu pobl i fyw yn eu cymunedau lleol."

    Croesawodd Gordon Brown yr arweinydd Llafur Keir Starmer i Gaeredin ddoe
    Disgrifiad o’r llun,

    Croesawodd Gordon Brown yr arweinydd Llafur Keir Starmer i Gaeredin ddoe

  5. Cyfrifiad: Addysg Gymraeg i bob plentyn?wedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2022

    Wrth gyfeirio at ganlyniadau’r cyfrifiad heddiw, mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn dweud mai un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at y gostyngiad cyffredinol yn nifer y siaradwyr Cymraeg yw llai o siaradwyr Cymraeg rhwng tair a 15 oed.

    Meddai Mr Price, "mae hyn yn dangos, onid yw hi, bod elfen ganolog o bolisi Llywodraeth Cymru, sef, datblygu addysg Gymraeg ar draws Cymru, yn methu. Deng mlynedd yn ôl, fe sefydlwyd yr uchelgais o filiwn o siaradwyr fel rhan o'r ymateb i'r dirywiad yn y ffigurau yn y cyfrifiad bryd hynny. Onid oes angen nawr cydnabod nad yw gweithredu yn ddigonol i gyrraedd y nod erbyn 2050?

    "Fel gyda newid hinsawdd, dyw ewyllys da'r nod ddim gyfystyr â sicrhau modd o'i gyflawni. Felly, onid yr ateb mwyaf cadarnhaol i'r newyddion heddiw fyddai sicrhau y bydd y Bil addysg Gymraeg arfaethedig yn darparu addysg cyfrwng Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru o fewn amserlen glir a digonol?"

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod y canlyniadau yn "gymhleth" a bod angen amser i ddadansoddi beth sydd y tu ôl iddynt.

    Dywed Mr Drakeford y byddai awgrym Mr Price am addysg Gymraeg yn colli cefnogaeth i'r iaith yn ehangach.

    Meddai'r prif weinidog, "Nid addysg orfodol i bawb trwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ateb i'r Gymraeg yng Nghymru. Bydd yn dieithrio pobl sy'n cydymdeimlo â'r Gymraeg; byddai'n symud yr iaith yn ôl nid ymlaen.

    "Nawr, mae gennych hawl berffaith i wneud hynny'n bolisi, os mynnwch, ond rwy'n glir gyda chi, mor glir ag y gallaf: nid polisi Llywodraeth Cymru fydd hwnnw."

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  6. Argyfwng yn y GIG?wedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2022

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at sylwadau gan gadeirydd BMA Cymru, Dr Iona Collins:

    Meddai hithau "Dros y blynyddoedd mae pobl wedi bod yn dweud bod y blaidd wrth y drws gan nad oes digon o staff neu adnoddau ond nawr mae'r blaidd yma. Mae'r amser y mae cleifion yn gorfod aros i gael triniaeth frys a thriniaethau eraill - dyw e ddim yn ddigon da. Mae'n storm berffaith wedi'r pandemig - does dim digon o staff nag adnoddau. Mae'n sefyllfa ddifrifol. Dyw pobl ddim yn saff nawr. Mae hwn yn argyfwng."

    Dywed Mr Davies ei fod yn dystiolaeth bellach o'r "sefyllfa argyfyngus" yn y sector gofal sylfaenol o ran cadw a denu staff.

    Dywed y prif weinidog fod Dr Iona Collins wedi gwneud "datganiad dewr...i gydnabod, ar sawl achlysur yn y gorffennol, bod y BMA wedi defnyddio'r gair 'argyfwng', a bod hynny wedi dibrisio'r term hwnnw."

    Ychwanegodd "rwy'n derbyn y frwydr a'r straen sydd yn y GIG yng Nghymru, bod recriwtio yn anodd mewn rhai mannau, nad yw bob amser yn ddeniadol i ddod i mewn i'r gwasanaeth".

    Fodd bynnag, mae'n pwysleisio bod "mwy o bobl yn gweithio yn y GIG yng Nghymru ym mhob categori unigol o bobl, ac mae hynny'n cynnwys pob bwrdd iechyd hefyd."

    Dywed Dr Iona Collins fod llawer o weithwyr proffesiynol sy'n gadael y GIG yn gwneud hynny gydag ymdeimlad o euogrwydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Dr Iona Collins fod llawer o weithwyr proffesiynol sy'n gadael y GIG yn gwneud hynny gydag ymdeimlad o euogrwydd

  7. Cenedl noddfawedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2022

    Ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gymru fod yn “genedl noddfa”, mae’r prif weinidog yn dweud bod "llawer o bolisïau mewnfudo Llywodraeth y DU, fel Deddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022, yn amharu ar ein hymdrechion i feithrin integreiddio a chydlyniant cymunedol".

    Mark Drakeford
  8. Pont y Borthwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2022

    Mae AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn gofyn ba gymorth sydd ar gael i fusnesau yn sgil cau Pont y Borth.

    Oherwydd gwaith diogelwch brys mae'r bont, sy'n cysylltu Porthaethwy ar Ynys Môn â'r tir mawr, ar gau i draffig ers ddiwedd Hydref.

    Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth i helpu busnesau ym Mhorthaethwy sy'n cael eu heffeithio gan y sefyllfa, gan gynnwys parcio am ddim am y ddau fis nesaf.

    Bydd yna hefyd gamau i wella llif y traffig yn lleol, fel mynediad at lwybrau teithio llesol a safleoedd bws ychwanegol.

    Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth, "Dwi'n gwerthfawrogi yr hyn gafodd ei gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf - parcio am ddim er enghraifft - ond mae yna amheuaeth go iawn pa impact gaiff hynny mewn gwirionedd, ac mae angen ryw ffordd o ddod o hyd i gefnogi busnesau yn uniongyrchol. Mae yna sawl opsiwn am wn i. Un awgrym ydy y gallai busnesau gael oedi talu bounce back loans yn ôl i fanc Cymru er enghraifft—bosib bod hynny'n rywbeth all gael ei ystyried. Ond, yn sicr, mae angen ryw fodel o gymorth uniongyrchol."

    Atebodd y prif weinidog drachefn, "bydd dadansoddiad o'r data yn mynd ymlaen gyda'n swyddogion ni, a gyda phobl sy'n gweithio i Ynys Môn ac i Wynedd hefyd, i weld beth arall y gallwn ni ei wneud i helpu busnesau yn yr ardal sydd wedi gweld cwymp mewn pobl sy'n gallu dod trwy'r drws, a'r effaith mae hwnna'n ei chael ar bopeth maen nhw'n gallu ei wneud."

    Mae disgwyl i Bont y Borth fod ar gau i gerbydau tan ddiwedd Ionawr i alluogi "gwaith cynnal a chadw hanfodol"
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae disgwyl i Bont y Borth fod ar gau i gerbydau tan ddiwedd Ionawr i alluogi "gwaith cynnal a chadw hanfodol"

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich 6 Rhagfyr 2022

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.