Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, ar ddiwrnod o fusnes wedi'i aildrefnu yn y Senedd cyn streic undeb y PCS yfory.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Mynediad i ddeintyddiaeth y GIGwedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2023

    Mae AS y Ceidwadwr dros Orllewin Clwyd, Darren Millar yn mynegi pryderon am fynediad at ddeintyddiaeth y GIG. "Mae gennyf etholwyr yn gorfod mynd i’r Alban er mwyn cael triniaeth ddeintyddol y GIG oherwydd ni allant gofrestru yn fy etholaeth. Mae un practis sengl yn fy etholaeth i sy'n caniatáu i bobl ychwanegu eu henwau at restr i gofrestru ar gyfer deintyddiaeth y GIG, a byddwch yn aros am ddwy flynedd i ddod oddi ar y rhestr honno ac i mewn i'r practis deintyddol hwnnw".

    Mae'r prif weinidog yn ateb mai "gofynion NICE, ers 2004, yw na ddylai pobl byth gael eu galw'n ôl ddwywaith y flwyddyn am archwiliad pan nad oes rheswm clinigol dros wneud hynny".

    Mae'n dweud bod y contract newydd "yn cyfnewid galw pobl yn ôl am archwiliadau arferol pan nad oes achos clinigol dros wneud hynny, am wasanaethau i gleifion newydd. Ac er fy mod yn gwerthfawrogi ei fod yn dal yn heriol mewn rhannau o Gymru i gleifion allu cofrestru, a dweud y gwir, Betsi Cadwaladr sydd â'r nifer uchaf o gleifion newydd a welwyd yn ystod y 10 mis diwethaf o unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru."

    Mark Drakeford
  3. Dyfodol pyllau nofio cyhoedduswedi ei gyhoeddi 14:11 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2023

    Mae'r Democrat Rhyddfrydol Jane Dodds yn mynegi pryderon am ddyfodol pyllau nofio cyhoeddus oherwydd costau ynni.

    “Mae llawer ohonom, rwy’n siŵr, wedi dysgu nofio mewn pyllau nofio, gan roi sgil achub bywyd i ni yn llythrennol, ac rydym yn gwybod bod pyllau nofio yn hanfodol ar gyfer iechyd meddwl, iechyd corfforol ac yn enwedig i bobl ag anableddau.”

    Mae hi’n galw am archwilio atebion arloesol, ac yn cyfeirio at adroddiad bod y gwres a gynhyrchir gan ganolfan ddata maint peiriant golchi yn cael ei ddefnyddio i gynhesu pwll nofio cyhoeddus yn Nyfnaint.

    Mae’r cyfrifiaduron y tu mewn i’r blwch gwyn wedi’u hamgylchynu gan olew i ddal y gwres – digon i gynhesu’r pwll i tua 30C 60% o’r amser, gan arbed miloedd o bunnoedd i Ganolfan Hamdden Exmouth.

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Gwn fod y sector hamdden, nid yn unig yng Nghymru, ond dros y ffin hefyd, yn siomedig bod pyllau nofio wedi’u heithrio rhag cael cymorth o dan gynllun disgownt bil ynni newydd Llywodraeth y DU.

    "Os ydych chi’n rhedeg amgueddfa, fe gewch chi help gan y cynllun hwnnw, ond os ydych chi'n rhedeg lle ynni-ddwys fel canolfan hamdden, yn enwedig pwll nofio, yna ni fyddwch chi'n cael unrhyw help o gwbl, er ein bod yn gwybod mai’r rhan ddrytaf o unrhyw ganolfan hamdden yw’r pwll nofio ei hun.”

    Jane Dodds
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds

  4. HS2: 'dwyn £5 biliwn o Gymru'wedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2023

    Mae Adam Price yn dechrau trwy ddweud "ar ran Plaid Cymru, bod ein meddyliau ni i gyd, wrth gwrs, gyda'r teulu yn Nhreforys sydd wedi colli annwyliaid yn y damwain erchyll ddoe, a hefyd gyda phawb arall sydd wedi'u heffeithio."

    Mae Mr Price yn gofyn a fyddai Mr Drakeford yn galw ar Keir Starmer i ymrwymo i Gymru gael "cyfran deg" o gyllid HS2 pe bai llywodraeth Lafur yn cael ei hethol.

    Meddai, “Mae llywodraeth y DU dro ar ôl tro wedi gwrthod ailddosbarthu HS2 fel prosiect Lloegr yn unig, gan ddwyn £5 biliwn o Gymru mewn symiau canlyniadol Barnett a allai drawsnewid ein seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae hynny er bod dadansoddiad llywodraeth y DU ei hun yn dangos ei fod yn fwy tebygol o niweidio Cymru nag o ddarparu unrhyw fudd. A fyddwch yn galw ar unrhyw weinyddiaeth Lafur yn y dyfodol i unioni'r camgymeriad hwnnw?"

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Rwy’n credu ei bod yn dir cyffredin ar draws pob plaid ar lawr y Senedd fod HS2 wedi’i ddosbarthu’n anghywir gan lywodraeth y DU, y dylid ei ddosbarthu ar y sail, fel yn yr Alban, fod symiau canlyniadol Barnett. Dyna yw polisi'r llywodraeth hon. Rwyf wedi ei fynegi droeon o'r blaen."

    HS2Ffynhonnell y llun, HS2
    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  5. 'Hynod filwriaethus'wedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2023

    Mae Andrew RT Davies yn cyfeirio at weinidog yn Llywodraeth Cymru yn galw undeb nyrsio yn "hynod filwriaethus" dros drafodaethau cyflog mewn recordiad cyfrinachol o gyfarfod o'r blaid Lafur.

    Mewn recordiad a gafwyd gan y Llanelli Herald, dywedodd Lee Waters fod y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yn "benderfynol o frwydro ac nad yw wedi ymrwymo o ddifrif i drafod."

    Dywed Mr Davies y dylai Mr Waters "ymddiheuro am y sylwadau hynny sydd wedi achosi gofid i nyrsys o fewn y proffesiwn, sydd ddim eisiau bod ar streic, sydd ddim yn sefydliad milwriaethus".

    Mae'n dweud "maen nhw eisiau bwrw ymlaen â'r gwaith o ofalu am y cleifion y maen nhw mor angerddol yn eu cylch".

    Dywed Mark Drakeford, "prif weinidog ydw i, nid sylwebydd ar yr hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud. Yr hyn y gallaf ei wneud yw bod yn glir am safbwynt Llywodraeth Cymru: rydym yn ymdrin â phob mater diwydiannol fel llywodraeth ar sail partneriaeth gymdeithasol.

    "Mae'r RCN yn aelod hirsefydlog a gwerthfawr o’r trefniadau partneriaeth gymdeithasol sydd gennym ym maes iechyd”.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Ffrwydrad nwywedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2023

    Mae’r prif weinidog yn ymuno ag Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, i ddiolch i’r gwasanaethau brys am eu hymateb i’r ffrwydrad nwy mewn tŷ yn Abertawe.

    Dywed Mr Davies eu bod wedi gorfod delio gyda "golygfa apocalyptaidd pan gyrhaeddon nhw".

    Mae'r ddau arweinydd yn cydymdeimlo â phawb yr effeithir arnynt.

    Dywed y prif weinidog, "mae'n rhaid ei fod wedi bod yn brofiad brawychus iawn i eraill sy'n byw yn yr ardal honno, ac mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn, onid yw? Rydym yn disgwyl i'n gwasanaethau brys redeg tuag at ffynonellau o berygl y mae pobl eraill yn rhedeg i ffwrdd ohonynt, ac maent yn hynod ddewr, ac roedd yr ymateb ganddynt ddoe, diolch byth, yn effeithiol.

    “Wrth gwrs, mae ein meddyliau gyda theulu’r unigolyn penodol a gollodd ei fywyd, tra rydym yn falch o weld adferiad y bobl eraill a gafodd eu dal yn y digwyddiad brawychus iawn hwnnw.”

    Cafodd un tŷ ei chwalu'n llwyr yn y ffrwydradFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd un tŷ ei chwalu'n llwyr yn y ffrwydrad

  7. Ymateb i’r adolygiad ffyrddwedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2023

    Mae Rhun ap Iorwerth, AS Ynys Môn, yn holi ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i’r adolygiad ffyrdd.

    Mae'n galw am "adolygiad go iawn" o'r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r cynlluniau presennol ar gyfer trydedd bont dros y Fenai i Ynys Môn, gan edrych eto "ar yr anghenion craidd gwreiddiol am y croesiad, a sut i'w delifro nhw; yr angen i wella diogelwch; gwella cyfieuon teithio llesol, a'r hwb economaidd sy'n dod o gael croesiad mwy gwydn ar gyfer delifro ar y porthladd rhydd, er enghraifft".

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod Wylfa B yn ystyriaeth allweddol pan gyhoeddwyd y cynlluniau hynny gyntaf, a bod "y cyd-destun wedi newid, yn wahanol, yn sylfaenol, onid yw e, achos mae popeth oedd ar y bwrdd gyda Wylfa B ddim yna yn bresennol".

    Ychwanegodd "ein bod ni eisiau gweld opsiynau am bontydd dros y Fenai mewn ffordd sy'n ein helpu ni yn yr ymdrech i greu shift yn y ffordd y mae pobl yn teithio ar hyn o bryd. Rydyn ni wedi gofyn i'r Arglwydd Burns, y comisiwn sy'n edrych i fewn i drafnidiaeth yng ngogledd Cymru, i weld sut y gallwn ni wneud hynny, ac i roi argymhellion i'r llywodraeth."

    Yr wythnos diwethaf fe wnaeth gwleidyddion Llafur gan gynnwys y prif weinidog, bleidleisio dros gynnig Senedd Cymru yn beirniadu eu hadolygiad ffyrdd eu hunain.

    Cafodd y cynnig - oedd "yn gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill" - ei basio mewn pleidlais nos Fercher.

    Mae ASau o feinciau cefn Llafur wedi ymosod ar bolisi'r llywodraeth o'r blaen, ar ôl i'r rhan fwyaf o gynlluniau ffyrdd mawr gael eu dileu.

    Cafwyd gwared ar y cynlluniau presennol ar gyfer trydedd bont dros y Fenai i Ynys Môn yn y cyhoeddiad diweddarFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafwyd gwared ar y cynlluniau presennol ar gyfer trydedd bont dros y Fenai i Ynys Môn yn y cyhoeddiad diweddar

  8. Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymruwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2023

    Mae'r Ceidwadwr Laura Anne Jones yn gofyn pa ystyriaeth roddodd Llywodraeth Cymru i Fil Diwygio Cydnabod Rhywedd yr Alban wrth greu'r Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru.

    Mae ei gwneud yn symlach i rywun newid ei rywedd yn gyfreithiol yn rhan o gynigion a ddatgelwyd gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf.

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod yr ymrwymiad "wedi'i wneud yng Nghymru, nid yn yr Alban".

    Mae llywodraeth y DU wedi dweud y byddai'n rhwystro deddfwriaeth debyg a gyflwynwyd gan lywodraeth yr Alban.

    Dywed Laura Anne Jones, "Wnaethoch chi ddysgu dim o'r helynt yn yr Alban? Byddai'r symudiad hwn i gopïo'r Alban yn gwadu ffaith fiolegol. Mae dynion a merched ar hyd a lled y wlad yn wirioneddol bryderus" meddai.

    Mae’r prif weinidog yn ateb trwy ddyfynnu Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol yr Alban, bod “pobl drawsryweddol sy’n mynd drwy’r broses i newid eu rhywedd gyfreithiol yn haeddu ein parch, ein cefnogaeth a’n dealltwriaeth."

    Ar hyn o bryd ni all Senedd Cymru basio cyfraith cydnabod rhywedd.

    Mater i lywodraeth y DU fyddai trosglwyddo’r pwerau o San Steffan, ond nid oes gan weinidogion Ceidwadol yn Llundain unrhyw gynlluniau i wneud hynny.

    Mae’r diwygiadau wedi bod yn hynod ddadleuol yn yr Alban, gyda nifer o feincwyr cefn yr SNP yn pleidleisio yn erbyn y mesur ac Ash Regan yn rhoi’r gorau iddi fel gweinidog diogelwch cymunedol mewn protest.

    Fe fyddai’r mesur yn yr Alban yn gostwng yr oedran y gall pobol wneud cais am dystysgrif cydnabod rhywedd (GRC) – dogfen sy’n cadarnhau newid rhywedd yn gyfreithlon – o 18 i 16.

    Byddai hefyd yn dileu’r angen am ddiagnosis meddygol o ddysfforia rhywedd, gyda dim ond angen i ymgeiswyr fod wedi byw fel eu rhywedd newydd am dri mis yn hytrach na dwy flynedd - neu chwe mis os ydynt yn 16 neu 17 oed.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chynllun Gweithredu LGBTQ+ newydd.Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chynllun Gweithredu LGBTQ+ newydd.

    Mae’r diwygiadau wedi bod yn hynod ddadleuol yn yr AlbanFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae’r diwygiadau wedi bod yn hynod ddadleuol yn yr Alban

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich 14 Mawrth 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.