Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, am y tro olaf ond un cyn toriad y Pasg.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:26 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Adeiladu taiwedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2023

    Pan holodd y Ceidwadwr Janet Finch-Saunders am nifer y cartrefi newydd a adeiladwyd yng Nghymru, mae'r prif weinidog yn dweud “yn y chwarter diwethaf, roedd nifer y tai a gwblhawyd yng Nghymru yn uwch na’r chwarter yn union cyn y pandemig”.

    Fodd bynnag ychwanega, “mae nifer y tai a ddechreuwyd wedi gostwng yn y chwarter diwethaf; maent wedi gostwng mewn 10 o’r 12 gwlad a rhanbarth yn y DU, ac maent i lawr, meddai’r sefydliad adeiladwyr tai, oherwydd effaith y gyllideb fach drychinebus ym mis Medi, sydd wedi cynyddu costau morgais, wedi cynyddu costau llog ac wedi arwain, ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, at leihad yn nifer y tai a ddechreuwyd."

    Dywed Ms Finch-Saunders, "Mae'n amlwg i bawb fod y targed o adeiladu 12,000 o gartrefi'r flwyddyn yma yng Nghymru wedi'i fethu dro ar ôl tro ers blynyddoedd. Dim ond 5,273 o dai a ddarparwyd gan eich llywodraeth yn 2021-22; roedd 90,000 ar restrau aros tai cymdeithasol; a chafodd llai na 1,000 o gartrefi eu cwblhau rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr y llynedd."

    Janet Finch-Saunders
    Disgrifiad o’r llun,

    Janet Finch-Saunders

  3. 'Dydw i erioed wedi gweld bargen waeth i Gymru'wedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2023

    "Dydw i erioed wedi gweld bargen waeth i Gymru," meddai'r prif weinidog am gyllideb Llywodraeth y DU.

    Mae'n dweud "ni ddarparodd y gyllideb unrhyw arian ychwanegol ar gyfer iechyd, gwasanaethau cymdeithasol na chyflogau'r sector cyhoeddus, ac roedd yn cynnig cymorth ychwanegol prin i bobl a busnesau. Roedd yn rhoi blaenoriaeth i betrol a thyllau yn y ffyrdd dros bobl a chyflogau. Mae degawd truenus y llywodraeth Dorïaidd yn dod i ben wrth iddi ddechrau, gydag esgeulustod cynhwysfawr o anghenion Cymru."

    Atebodd y Ceidwadwr Peter Fox, "Roeddwn yn teimlo bod cyllideb yr wythnos diwethaf yn un o optimistiaeth ac uchelgais, ac yn ganolog iddi oedd amddiffyn a chefnogi cartrefi ledled Cymru, yn wir y DU gyfan."

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  4. Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2023

    Dywed arweinydd Plaid Cymru Adam Price ei fod wedi cyfarfod â grŵp Covid-19 Profedigaeth Teuluoedd er Cyfiawnder Cymru yn y Senedd heddiw, ac mae’n galw eto ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ei hymchwiliad ei hun.

    Mae'r prif weinidog yn ateb mai ymchwiliad y DU sydd yn y sefyllfa orau i ystyried y "rhyng-gysylltiad rhwng penderfyniadau a wnaed yng Nghymru ac mewn mannau eraill".

    Ychwanegodd, "mae'r ymchwiliad yn ei gyfnod ffurfiannol. Mae'r Barnwr Hallett yn parhau i glywed gan bobl sy'n credu y dylid dilyn ei chylch gwaith mewn ffyrdd penodol, ac mae wedi bod yn glir ei bod yn parhau i ystyried yr holl safbwyntiau hynny a gyflwynir iddi."

    Dywed Mr Drakeford wrth Adam Price hefyd y bydd yn ystyried cynigion ar gyfer pwyllgor dibenion arbennig ar Covid.

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

  5. Gofal plantwedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at y cynlluniau a gyhoeddwyd gan y Canghellor Jeremy Hunt yn ei Gyllideb Wanwyn yr wythnos diwethaf, sef bod gofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio yn Lloegr yn cael ei ehangu i gynnwys plant dan dair oed. Bydd y cynnig yn y pen draw yn cynnwys pob plentyn o naw mis oed ymlaen, meddai Mr Hunt.

    Mae Mr Davies yn gofyn tair gwaith i Mr Drakeford a fydd cynnig Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys gofal i blant o 9 mis oed fel yn Lloegr.

    Ni ddywedodd Mr Drakeford ie neu na, ond dywedodd "rydym eisoes yn gwneud llawer mwy yng Nghymru nag y maent yn Lloegr".

    Mae'n ymhelaethu, "ar gyfer plant tair a phedair oed, yma yng Nghymru, mae teuluoedd yn cael 30 awr o ofal plant am 48 wythnos o'r flwyddyn. Yn Lloegr, mae'n 38 wythnos y flwyddyn; 10 wythnos yn llai yn Lloegr nag a gewch chi yng Nghymru."

    Ychwanegodd, "byddwn yn cyflwyno 2,500 o leoedd ychwanegol ar gyfer plant dwy oed yng Nghymru o fis Ebrill eleni ymlaen, a 4,500 o leoedd newydd eraill i blant dwy oed yng ngham 2 o fis Medi eleni ymlaen."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Mynediad at feddygon teuluwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2023

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn dweud bod "mater gwirioneddol" o ran mynediad at feddygon teulu yn y canolbarth.

    Mae'r prif weinidog yn ateb, "roeddwn yn gallu trafod recriwtio ym Mhowys gyda phrif weithredwr bwrdd iechyd prifysgol Powys ddoe.

    "Dywedodd wrthyf mai dim ond un practis a reolir sydd gan Bowys, a bod gobaith realistig y bydd contractwyr newydd yn hapus i ddod i gymryd drosodd y practis hefyd, ac er bod recriwtio’n heriol, fel y mae ym mhobman, mae’n dal i fyny yn ardal bwrdd iechyd Powys gyda pheth recriwtio diweddar mewn rhannau o’u cyfrifoldeb.”

  7. HS2 a Chymruwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2023

    Mae Rhys ab Owen yn gofyn pa asesiad mae’r prif weinidog wedi'i wneud o’r effaith ar Gymru yn dilyn oedi o ddwy flynedd ar ddarn llinell rheilffordd HS2 rhwng Birmingham a Crewe.

    Mae'r prif weinidog yn ateb "fe gafodd y penderfyniad i ohirio rhannau o'r llinell HS2 ei wneud heb gyfeirio o gwbl at Lywodraeth Cymru na Thrafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn chwalu'r myth mai prosiect Cymru a Lloegr yw hwn".

    Bu galwadau ers tro i HS2 gael ei ailddosbarthu fel prosiect i Loegr yn unig fel bod Cymru’n derbyn cyllid cymesurol.

    Y llynedd tynnodd grŵp trawsbleidiol o ASau sylw at y ffaith bod dadansoddiad llywodraeth y DU ei hun wedi dod i’r casgliad y byddai’r prosiect rheilffyrdd yn creu “anfanteision economaidd i Gymru”.

    Mae'r adroddiad yn dweud er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn "oddeutu £755m mewn symiau canlyniadol Barnett" rhwng 2015 a 2019 o ganlyniad i'r Adran Drafnidiaeth yn gwario arian ar HS2, ni fydd yn derbyn swm cymesur oherwydd ei fod wedi'i ddosbarthu gan y Trysorlys fel "prosiect Cymru a Lloegr".

    Mae hyn wedi denu beirniadaeth gan yr ASau oherwydd bydd y rheilffordd yn Lloegr yn unig.

    Mae cynllun HS2 wedi cael ei lethu gan oedi a chostau cynyddol - yn 2010, roedd disgwyl iddo gostio £33bn, ond mae'r ffigwr hwnnw bellach wedi codi i £71bn.

    HS2Ffynhonnell y llun, HS2
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.