Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau gan arweinwyr y gwrthbleidiau ac ASau eraill.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. 'Dyddiau gwych i Wrecsam'wedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    "Dyma ddyddiau gwych i Wrecsam" medd y prif weinidog cyn yr orymdaith i ddathlu ennill y Gynghrair Genedlaethol a dyrchafiad yn ôl i Gynghrair Bêl-droed Lloegr.

    Ychwanegodd, "dyddiau gwych ym myd pêl-droed, ond hefyd popeth y mae hynny wedi'i wneud i godi proffil y ddinas a'i statws dinas newydd, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i brosiect porth Wrecsam. Mae wedi cael ei wrthod ddwywaith gan Lywodraeth y DU, ac yn awr mae awdurdodau Cymru yn camu i’r adwy i wneud yn siŵr y gellir cwblhau’r gwaith o ailddatblygu’r stadiwm nid yn unig i’r safon a fydd yn ofynnol er mwyn i Wrecsam ddychwelyd i’r gynghrair bêl-droed, ond i wneud yn siŵr bod chwaraeon rhyngwladol – pêl-droed, mae rygbi'r undeb, rygbi'r gynghrair i gyd wedi cael eu chwarae'n rhyngwladol ar faes Wrecsam - ac rydym am wneud yn siŵr bod hynny'n bosibl i Wrecsam yn y dyfodol."

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

    Sicrhaodd Wrecsam eu lle yn y Gynghrair Bêl-droedFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Sicrhaodd Wrecsam eu lle yn y Gynghrair Bêl-droed

  3. Maes Awyr Caerdyddwedi ei gyhoeddi 14:21 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Wrth gael ei holi am ddyfodol Maes Awyr Caerdydd gan yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol Natasha Asghar, mae'r prif weinidog yn dweud "rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi'r maes awyr i wella ar ôl effaith y pandemig a dod yn rhan hanfodol hunangynhaliol o seilwaith cenedlaethol Cymru. Mae cyhoeddiadau diweddar am fwy o wasanaethau a theithiau hedfan yn dangos bod gan deithwyr Cymru gyfleoedd cynyddol i hedfan o agosach at adref."

    Dywed Natasha Asghar, “nid yw’n gyfrinach fy mod yn credu’n gryf bod Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn wastraff arian enfawr, gyda mwy na £200 miliwn o arian y trethdalwr wedi’i bwmpio i mewn iddo dros y blynyddoedd. Yn fy llygaid i, y lle gorau ar ei gyfer yw'r sector preifat lle gallai gael rhywfaint o siawns o lwyddo”.

    Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Maes Awyr Caerdydd
  4. Adeiladu taiwedi ei gyhoeddi 14:16 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Pan ofynnwyd iddo gan Jack Sargeant am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu nifer y tai cyngor yng Nghymru, nid yw'r prif weinidog yn nodi a yw ei lywodraeth ar y ffordd i gyrraedd ei tharged adeiladu tai ai peidio.

    Dywed "o'r ffigurau sydd gennym ar gael, rhwng 2008 a 2011, adeiladodd awdurdodau lleol yng Nghymru 128 o gartrefi. Yn y tair blynedd y mae'r ffigurau diweddaraf ar gael ar eu cyfer, 2019 i 2020, adeiladodd awdurdodau lleol 1,376 o dai."

    Ychwanegodd, "roedd 82% o dai fforddiadwy newydd yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf yn dai cymdeithasol. Yn Lloegr, 13% oedd y ffigwr hwnnw."

    TaiFfynhonnell y llun, PA Media
  5. A yw ymchwiliad cyhoeddus Covid yn ymdrin â materion Cymreig allweddol?wedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn mynegi pryderon am ddiffyg tystion arbenigol a chyfranogwyr craidd i ymchwiliad cyhoeddus Covid y DU sydd ag arbenigedd o’r sefyllfa yng Nghymru.

    Meddai, “Rwy’n meddwl ei bod yn sicr yn gasgliad rhesymol bod eithrio, hyd yn hyn, unrhyw dystion arbenigol sydd ag arbenigedd penodol yng Nghymru, a gwahardd dau sefydliad pwysig o statws cyfranogwr craidd, yn dystiolaeth o blaid y cynnig y mae llawer ohonom yma a thu allan i’r Siambr hon wedi’i gynrychioli: na fydd digon o ffocws ar Gymru yn yr ymchwiliad hwn.”

    Dywed y prif weinidog, "nid fy lle i yw barnu pwy y mae'r ymchwiliad yn dewis clywed ganddynt... Os bydd unrhyw un yn credu ei fod wedi gwneud y dyfarniad anghywir, yna'r person i siarad gyda yw cadeirydd yr ymchwiliad, nid Prif Weinidog Cymru."

    Adam Price
    Disgrifiad o’r llun,

    Adam Price

    Roedd gan Lywodraeth Cymru bwerau enfawr dros fywydau pobl yng Nghymru yn ystod y pandemigFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd gan Lywodraeth Cymru bwerau enfawr dros fywydau pobl yng Nghymru yn ystod y pandemig

  6. Ymchwiliad y DU i'r pandemigwedi ei gyhoeddi 13:56 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, sydd wedi ymgyrchu am ymchwiliad ar wahân i’r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â’r pandemig, yn cyfleu pryderon grŵp Teuluoedd dros Gyfiawnder mewn Profedigaeth Covid ynghylch "peidio â datgelu ac amseroldeb y dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyno i'r ymchwiliad".

    Dywed Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi cyflenwi miloedd o ddogfennau i ymchwiliad y DU a'i bod yn cymryd rhan lawn yn y broses.

    Mae'n dweud mai penderfyniad yr ymchwiliad oedd pryd i ryddhau datganiadau tystion i'r grŵp teuluoedd mewn profedigaeth.

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

    Y Farwnes Hallett yw cadeirydd yr ymchwiliadFfynhonnell y llun, SENEDD Y DU
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Farwnes Hallett yw cadeirydd yr ymchwiliad

  7. 'Profiad annerbyniol i deithwyr ar draws y gogledd'wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae’r prif weinidog yn dweud ei fod yn cytuno â galwad Siân Gwenllian, AS Arfon, am ddatganoli pwerau dros seilwaith rheilffyrdd a chyllid cyfatebol.

    Dywed ef hefyd, "cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw llawer o’r gwasanaethau ar y prif reilffyrdd ar draws gogledd Cymru, ac maen nhw’n cael eu darparu gan Avanti West Coast.

    "Mae perfformiad gwael a lefelau gwasanaeth annigonol ar y llwybr hanfodol hwn wedi rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau rhanbarthol sy’n cael eu rhedeg gan Drafnidiaeth Cymru ac wedi rhoi profiad annerbyniol i deithwyr ar draws y gogledd."

    Avanti West Coast
  8. Llygredd afonyddwedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae AS Llafur Dwyrain Abertawe, Mike Hedges yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau llygredd afonydd.

    Mae'r prif weinidog yn cyfeirio at yr ail Uwchgynhadledd Llygredd Afonydd, dolen allanol a gadeiriodd i drafod ansawdd dŵr afonydd, a'r camau gweithredu a gytunwyd arnynt.

    Ynglŷn ag afon Tawe, dywed Mr Hedges “mae gennym ni ollyngiadau carthffosiaeth amrwd, llygredd amaethyddol a microblastigau... Mae’r pethau rwy’n credu a allai helpu yn cynnwys plannu coed a llwyni, ei gwneud yn amod cynllunio ar ddatblygiadau newydd na chaniateir gorchuddion anhydraidd; i gael mwy o reolaeth dros y defnydd o wrtaith ar dir fferm, ac i wahardd defnydd microblastig yn llwyr mewn deunyddiau a ddefnyddir yn gyffredin fel colur."

  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.