Crynodeb

  • Cwestiwn Brys ar yr anhrefn yn ardal Trelái y brifddinas.

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, gan gynnwys am y tro cyntaf gan Llyr Gruffydd fel arweinydd dros dro Plaid Cymru.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich+1 23 Mai 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto ar ôl toriad y Sulgwyn.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Cig helawedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 23 Mai 2023

    Dywed y Ceidwadwr Joel James fod "amcangyfrif bod y farchnad helgig yn 2021 werth £100 miliwn i economi Cymru".

    Mae'n dweud bod sylwadau diweddar y Gweinidog Newid Hinsawdd - "nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi saethu anifeiliaid byw nac adar fel gweithgaredd hamdden" - wedi achosi pryder.

    Dywed y prif weinidog "roedd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd yn cyfeirio at saethu hamdden - saethu anifeiliaid byw ar gyfer chwaraeon. Yn sicr nid wyf yn cefnogi hynny. Nid ydym yn ei gefnogi ar dir Llywodraeth Cymru. O ran y diwydiant helgig yng Nghymru, mae hwnnw’n fater gwahanol, ac mae gan hwnnw gefnogaeth Llywodraeth Cymru.”

  3. Llygredd yn afonydd Cymruwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 23 Mai 2023

    Dywed y Ceidwadwr Peter Fox “mae’r dicter cyhoeddus ynghylch cyflwr ein hafonydd ledled Cymru yn ddealladwy yn parhau i dyfu, heb ei helpu gan y datgeliadau diweddar bod 25 y cant o’r holl ollyngiadau carthion ledled y DU yn digwydd yng Nghymru”.

    Dywed y prif weinidog "mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu 44 y cant o'n hafonydd ar statws ecolegol da neu uwch. Mae'r cynlluniau rheoli basn afon diweddaraf yn nodi sut rydym yn bwriadu gwella ansawdd dŵr ledled Cymru gan weithio gyda'n partneriaid, ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cyllid gwerth £40 miliwn i gefnogi'r ymdrechion hynny."

    Mae'n tynnu sylw at y ffaith bod 1,300 o fwyngloddiau metel wedi'u gadael yng Nghymru, "llawer ohonynt yn cyfrannu at lygredd yn ein hafonydd".

    Mynydd Parys
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae hen fwynglawdd copr ym Mynydd Parys â thomennu sbwriel wedi'u staenio'n wahanol liwiau gan y mwynau metel yn y creigiau

  4. Symudedd cymdeithasolwedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 23 Mai 2023

    Ynghylch effeithiolrwydd y system addysg o ran galluogi symudedd cymdeithasol yng Nghymru, dywed John Griffiths o’r Blaid Lafur “mewn cyfarfod diweddar a gefais gyda phrifathro ysgol uwchradd, codwyd pryderon nad oedd bechgyn gwyn ddosbarth gweithiol yn yr ysgol yn cyflawni eu potensial”.

    Mae'r prif weinidog yn ateb bod "tri ffactor ar wahân" ym mherfformiad bechgyn gwyn ddosbarth gweithiol o fewn y system addysg.

    “Fy marn i yw mai’r mwyaf sylfaenol o’r ffactorau hynny yw’r ffactor dosbarth, y ffaith bod y rheini’n bobl ifanc sy’n dod o gartrefi lle mae’n rhaid i deuluoedd ymdopi â chanlyniadau tlodi yn eu bywydau.”

    Mae'n dweud mai'r ail o'r tri ffactor yw rhywedd - "mae'n siwr mai'r cyfnod sylfaen yw'r peth mwyaf pwerus sydd gennym ni yn addysg blynyddoedd cynnar i wneud yn siŵr bod bechgyn ifanc yn teimlo bod dysgu yn rhywbeth sy'n bwysig iddyn nhw".

    "Y trydydd ffactor mewn bechgyn gwyn dosbarth gweithiol yw ethnigrwydd, a dwi'n meddwl mai dyna'r newidyn esboniadol gwannaf."

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  5. Diweithdrawedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 23 Mai 2023

    Yn ei sesiwn gyntaf o Gwestiynau i’r Prif Weinidog fel arweinydd dros dro Plaid Cymru, mae Llyr Gruffydd yn cyfeirio at "ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn awgrymu mai Cymru welodd y cynnydd mwyaf o flwyddyn i flwyddyn mewn diweithdra yn y Deyrnas Unedig gyfan".

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “rwy’n meddwl mai’r stori fwy rhyfeddol am economi Cymru yw pa mor wydn y mae wedi profi...er gwaethaf effaith cyfraddau llog a phrisiau ynni cynyddol, mae lefelau cyflogaeth, dwi'n meddwl, yn dangos gwytnwch."

    Mae Mr Gruffydd yn galw am "adolygiad annibynnol o raglenni'r llywodraeth sy'n ceisio mynd i'r afael â diffyg gweithgarwch economaidd."

    Atebodd y prif weinidog, "dwi’n fodlon ystyried unrhyw syniadau sydd gan Llyr Gruffydd, ond mae lot o dystiolaeth gennym ni yn barod a dwi ddim eisiau arafu’r pethau ry' ni’n eu gwneud ar hyn o bryd drwy aros am rywbeth annibynnol i edrych i mewn i hyn, pan fo syniadau gennym ni’n barod ry' ni’n gallu eu rhoi ar waith i helpu pobl".

    Llyr Gruffydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Llyr Gruffydd

  6. Amseroedd aroswedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 23 Mai 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn galw ar y prif weinidog i ymrwymo i ddileu arosiadau dwy flynedd yn y GIG yng Nghymru erbyn diwedd y flwyddyn.

    Dywed Mr Drakeford fod y gweinidog iechyd wedi ysgrifennu at fyrddau iechyd yn nodi'r disgwyliad hwnnw, "i ddarparu 99 y cant, yw'r hyn y mae'r gweinidog yn fy atgoffa, oherwydd bydd bob amser nifer fach o bobl nad dyna'r peth iawn yn glinigol iddynt, i fwrw ymlaen â llawdriniaeth ar y pwynt a fwriadwyd yn wreiddiol, felly mae’r 1 y cant yno i wneud yn siŵr bod y posibilrwydd hwnnw’n cael ei gynnwys

    "Fel arall, mae’r llythyr at fyrddau iechyd yn glir: rydym yn disgwyl i’r arosiadau hir hynny gael eu dileu o fewn yr amserlen y mae arweinydd yr wrthblaid wedi’i nodi.”

    Dywed Mr Davies "Rwy'n falch o glywed hynny, ond yn ymwybodol, yn amlwg, mai'r targed gwreiddiol ar gyfer dileu arosiadau dwy flynedd o fewn Cymru oedd mis Mawrth eleni".

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Gwisg ysgolwedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich+1 23 Mai 2023

    Symudwn ymlaen gyda'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog

    Mae'r AS Llafur Hefin David yn gofyn am ddiweddariad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru gyda chost gwisg ysgol i ddysgwyr a'u teuluoedd.

    Mae Mr Drakeford yn ateb bod "ein canllawiau diweddaraf ar wisg ysgol yn nodi bod angen i ysgolion roi blaenoriaeth i’w gwneud yn fforddiadwy", ac y gall teuluoedd ar incwm is wneud cais am grant gan Lywodraeth Cymru o hyd at £300 i helpu gyda chost gwisg ysgol, dolen allanol.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na ddylai logos ysgol ar ddillad fod yn orfodol.

    Daw ar ôl ymgynghoriad oedd yn gofyn am farn ar leddfu’r baich o brynu gwisgoedd ysgol i deuluoedd sy’n cael trafferth gyda chostau byw.

    Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae siop gyfnewid yn cael ei rhedeg gan rieni Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd i helpu i gadw costau gwisg ysgol i lawr

  8. Terfysgoedd yng Nghaerdyddwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 23 Mai 2023

    Mae'r cyfarfod llawn yn dechrau gyda chwestiwn brys, gan arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies: "Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Heddlu De Cymru ynghylch terfysgoedd yng Nghaerdydd dros y 24 awr ddiwethaf?"

    Mae Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, yn galw am lonyddwch yn dilyn y terfysgoedd yn Nhrelái.

    Meddai, "mae hwn yn ddigwyddiad trasig, mae fy meddyliau gyda phawb yr effeithiwyd arnynt".

    "Byddwn yn galw am lonyddwch ac i bobl gefnogi'r heddlu ac asiantaethau eraill sy'n ymwneud â chefnogi'r gymuned leol."

    Mae Mr Davies yn dweud "na allai fod unrhyw esgus am y trais".

    Cytunodd Ms Hutt fod y trais yn "hollol annerbyniol".

    Dywed Heledd Fychan o Blaid Cymru: "Mae llawer o bobl wedi'u llorio gan yr hyn a ddigwyddodd neithiwr a'r trais dilynol hefyd. Mae pobl wedi dychryn ac yn dweud eu bod yn dal i boeni y gallai hyn waethygu ymhellach."

    Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod dau fachgen yn eu harddegau wedi marw mewn gwrthdrawiad cyn anhrefn yng Nghaerdydd nos Lun.

    Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu yn ardal Trelái wedi'r gwrthdrawiad am tua 18:00.

    Fe gafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau - gan gynnwys tân gwyllt - eu taflu at yr heddlu, a chafodd rhai eu gweld yn torri darnau o bafin a'u taflu.

    Jane Hutt
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Hutt

    Wedi'r anhrefn yng Nghaerdydd nos Lun.Ffynhonnell y llun, Getty Images
    Dywedodd yr heddlu fod nifer fawr o swyddogion wedi bod yn yr ardal
  9. Croesowedi ei gyhoeddi 13:12 Amser Safonol Greenwich+1 23 Mai 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiwn Brys ar yr anhrefn yn ardal Trelái y brifddinas nos Lun, a'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.