Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau, gan gynnwys am y tro cyntaf gan Rhun ap Iorwerth fel arweinydd Plaid Cymru.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Diolch am ddilyn - ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Maes Awyr Caerdyddwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2023

    Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Maes Awyr Caerdydd

    Mae’r Ceidwadwr Natasha Asghar yn cyfeirio at ddyddiad cau Llywodraeth y DU ym mis Mehefin 2024 i’r rhan fwyaf o feysydd awyr y DU osod sganwyr 3D uwch-dechnoleg newydd, sy’n dangos delweddau manylach o fagiau.

    Bydd y newidiadau yn gweld y rheol hylif 100ml yn cynyddu i ddau litr ac yn golygu na fydd angen i deithwyr dynnu eitemau trydanol o fagiau.

    Mae Natasha Asghar yn gofyn "a ydych chi'n hyderus y bydd Maes Awyr Caerdydd yn cwrdd â'r terfyn amser yn 2024, ac a ydych chi wedi cyfrifo cyfanswm y bil ar gyfer y gwaith hwn, gan fy mod yn siŵr y bydd trethdalwyr ledled Cymru yn awyddus i wybod beth fydd hynny'n ei gostio iddyn nhw?"

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “Rwy’n ymwybodol o’r ffaith mai dyma’r enghraifft fwyaf eithriadol o annhegwch polisïau llywodraeth y DU tuag at feysydd awyr, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig, oherwydd, ar ôl gorfodi’r rhwymedigaethau ar feysydd awyr, maent yn gwrthod ariannu unrhyw faes awyr rhanbarthol i gyrraedd y safonau newydd hynny... Nid yw hynny'n wir am feysydd awyr mawr fel Heathrow."

    Natasha Asghar
    Disgrifiad o’r llun,

    Natasha Asghar

  3. Ffitrwydd tai i fod yn gartrefwedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2023

    Vikki Howells
    Disgrifiad o’r llun,

    Vikki Howells

    Dywed yr AS Llafur Vikki Howells fod adroddiad Cyngor ar Bopeth wedi canfod bod pobl sy'n rhentu yn breifat yng Nghymru yn parhau i gael problemau gyda chartrefi oer, llaith a llwydni.

    Mae’r prif weinidog yn ateb bod Rhan 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn nodi’r rhwymedigaethau sydd ar landlord mewn perthynas â chyflwr annedd, gan gynnwys sicrhau bod annedd mewn cyflwr da ac yn ffit i bobl fyw ynddi.

    Tai
  4. Fferyllfeydd cymunedolwedi ei gyhoeddi 14:17 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2023

    Wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd a marwolaethau, dywed y prif weinidog "mae gennym bron i 700 o fferyllwyr cymunedol yma yng Nghymru o hyd. Nid yw'r niferoedd yng Nghymru yn gostwng fel y maent mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ac mae hynny'n rhannol, rwy'n credu, oherwydd y bartneriaeth yr ydym wedi'i chael gyda'r proffesiwn hwnnw a'r buddsoddiad hwnnw rydyn ni'n gwneud ynddo".

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  5. Datganoliwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2023

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

    Yn ei sesiwn gyntaf o Gwestiynau i’r Prif Weinidog fel arweinydd Plaid Cymru, dywed Rhun ap Iorwerth "rwyf am weld mwy gan y llywodraeth hon pan ddaw'n fater o geisio'r pwerau i greu ein dyfodol ein hunain."

    Mae'n cyfeirio at honiad gan Swyddfa Cymru "tra bod Llywodraeth Cymru wedi galw am ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru, nid yw wedi gwneud cais ffurfiol i'r pwerau gael eu trosglwyddo".

    Dywed Rhun ap Iorwerth "os nad ydych yn gofyn, nid ydych yn cael: sut y bydd y prif weinidog yn sicrhau bod Cymru'n cael ei chlywed?"

    Dywed Mr Drakeford "mae'n nonsens llwyr i unrhyw weinidog Ceidwadol honni nad ydym wedi gofyn yn ffurfiol am y pwerau hynny. Rydym wedi bod mewn trafodaethau poenus gyda Llywodraeth y DU dros adroddiad comisiwn Thomas byth ers iddo gael ei gyhoeddi."

    Dim ond argymell datganoli cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf i weinidogion yng Nghaerdydd a wnaeth comisiwn plaid Lafur y DU ar ddyfodol y DU dan arweiniad y cyn-Brif Weinidog Gordon Brown.

    Mae Mr Drakeford yn nodi bod adroddiad Mr Brown wedi dweud nad oedd "rheswm cyfansoddiadol pam na allai materion sydd wedi eu datganoli yn yr Alban... gael eu datganoli i Gymru hefyd".

    Ar y pwnc o ASau yn San Steffan yn cymeradwyo yr adroddiad a ganfu bod Boris Johnson wedi camarwain y Senedd yn fwriadol dros Partygate, dywed Mr Drakeford ei fod yn “weithred syfrdanol o lwfrdra gwleidyddol” na phleidleisiodd y Prif Weinidog Rishi Sunak.

    Roedd yn ymateb i sylw Rhun ap Iorwerth fod Ceidwadwyr Cymreig na phleidleisiodd "i bob pwrpas yn ochri gyda Boris Johnson".

    "Byddech chi wedi meddwl mai dyna'r lleiaf y gallen nhw fod wedi'i wneud," meddai Rhun ap Iorwerth.

    HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Diweithdrawedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn cyfeirio at ffigurau sy’n dangos bod Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn diweithdra yn y DU ers y llynedd.

    Yn ôl amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol, roedd diweithdra yng Nghymru yn 4.8% rhwng Chwefror ac Ebrill, yr uchaf ar y cyd ar draws y DU.

    Roedd y ffigur hwn 1.3 pwynt canran yn uwch na’r un adeg yn 2022.

    Dywed Mr Drakeford yn dweud bod "y cefndir iddyn nhw yn un difrifol i'r Deyrnas Unedig gyfan. Mae'r Blaid Geidwadol wedi chwalu'r economi, ac rydyn ni nawr yn gweld hynny yn y pwysau rydyn ni'n ei weld yn y gweithle hefyd".

    Dywed Mr Davies, "economi'r DU oedd yr economi a dyfodd gyflymaf yn y ddwy flynedd ddiwethaf yn y G7. Mae'r Almaen mewn dirwasgiad; er bod eich holl feincwyr cefn a'ch llywodraeth yn dymuno i'r wlad hon fod mewn dirwasgiad, nid yw'r wlad hon mewn dirwasgiad. Roedd ffigurau’r wythnos diwethaf yn dangos yn glir bod diweithdra’n cynyddu yn y rhan hon o’r Deyrnas Unedig, ond yn gostwng mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.”

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  7. Annog merched i gael addysg a gyrfaoedd STEMwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2023

    Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Mae'r AS Llafur ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, Joyce Watson yn gofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog merched i gael addysg a gyrfaoedd STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).

    Mae’r prif weinidog yn ateb bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gynyddu nifer y menywod sy’n gweithio ym maes STEM oherwydd ei fod yn dda i’n cymdeithas ac i’n heconomi.

    Mae’n cyfeirio at Gynllun Addysg Peirianneg Cymru fel enghraifft o raglen gyda’r nod o gynyddu nifer y merched o ysgolion uwchradd sy’n ymgysylltu â diwydiannau STEM.

    Dywed Joyce Watson, “mae yna fentrau da ar gael, fel y dywedwch, fel rhaglen Cynllun Addysg Peirianneg Cymru, ond yn y gweithle, mae’n dal yn wir bod 73 y cant o’r gweithlu STEM yn ddynion, dim ond 14.5 y cant o beirianwyr sy'n fenywod, a dim ond 20 y cant o raddedigion gwyddoniaeth benywaidd sy’n mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd STEM, o gymharu â 44 y cant o ddynion.”

    TechnolegFfynhonnell y llun, GEORGIJEVIC / GETTY IMAGES
  8. Croesowedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 20 Mehefin 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.