Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich+1 19 Medi 2023
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.
Da boch chi.
Mark Drakeford - sy'n 69 heddiw - yn ateb cwestiynau, ar y terfyn cyflymder 20mya ymhlith pynciau eraill.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.
Da boch chi.
Mae Heledd Fychan, AS Plaid Cymru, am wybod "sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau yn y Rhondda sydd wedi eu heffeithio gan leihad sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus leol?"
Mae Mr Drakeford yn ateb bod "£46 miliwn ar gael o gyllidebau bysiau i atal effaith sylweddol ar wasanaethau bysiau. Mae'r awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a'r gweithredwyr yn cydweithio'n rhanbarthol i gynllunio rhwydwaith sy'n gweithio orau i gwrdd ag anghenion teithwyr".
Meddai Heledd Fychan, “tra bod pobl yn deall yr angen i gau’r rheilffordd er mwyn i waith metro de Cymru gael ei gwblhau, mae’r gwaith, ynghyd â gostyngiad mewn gwasanaethau bysiau lleol a chau pont Maendy yn Nhon Pentre, yn golygu bod amharu difrifol ar deithio."
Mae pwyllgor polisi ariannol Banc Lloegr yn cyfarfod eto ddydd Iau yr wythnos hon.
Mae'r prif weinidog yn dweud iddo ddefnyddio ei gyfarfod chwarterol yr wythnos diwethaf gyda Banc Lloegr "i nodi fy mhryderon bod Banc Lloegr eisoes wedi gor-gywiro o ran codiadau mewn cyfraddau llog, bod y codiadau y maen nhw eisoes wedi'u rhoi ar waith yn tagu adferiad economaidd".
Cynyddodd dyledion morgais yn y DU bron i draean rhwng Ebrill a Mehefin o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd, meddai Banc Lloegr.
Mae Banc Lloegr wedi codi costau benthyca yn y gobaith y bydd gweithgarwch economaidd yn arafu, gan ddod â chwyddiant i lawr, sef y gyfradd y mae prisiau’n codi.
Y ddamcaniaeth yw bod codi cyfraddau llog yn ei gwneud yn ddrutach i fenthyca arian, gan olygu bod gan bobl lai i'w wario, gan leihau galw ac arafu chwyddiant.
Fodd bynnag, er bod chwyddiant yn dangos arwyddion o arafu, mae'r gyfradd gyfredol o 6.8% yn llawer uwch na tharged y llywodraeth o 2%.
Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn dweud bod y DU yn undeb "anghyfartal", ac yn cyfeirio at gyllid HS2 fel un enghraifft - "yr efallai £6 biliwn sy'n cael ei wrthod i ni ar hyn o bryd gan lywodraeth Geidwadol y DU. Mae'r ffigwr go iawn, dybiwn i, yn destun dadl oherwydd bod y Torïaid yn gwneud cymaint o lanast o gyflwyno HS2".
Ateba Mr Drakeford, "rwyf o blaid ailgynllunio'r Deyrnas Unedig, mae ef o blaid ei thorri i fyny. Dyna'r gwahaniaeth rhyngom ni."
O ran HS2, mae'r prif weinidog yn dweud "os oes unrhyw wirionedd yn y sibrydion a ddarllenwn amdano nawr na fydd yn mynd ymlaen i ogledd Lloegr, yna mae'r ffuglen sydd wedi cael ei defnyddio gan y Trysorlys i wadu cyllid yma i Gymru yn cael ei datgelu hyd yn oed ymhellach."
Atebodd Rhun ap Iorwerth, "nid oes gennyf ddiddordeb mewn chwalu Prydain ond mewn adeiladu Cymru. Nid wyf yn ystyried fy hun yn ymwahanwr, rwy'n meddwl y gallwn fod yn agosach at ein gilydd fel cenhedloedd annibynnol o fewn yr ynysoedd hyn."
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gofyn pa lefel o amddiffyniad fydd yn cael ei roi i'r gwasanaeth iechyd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb bod "degawd o lymder Torïaidd" wedi arwain at y problemau ariannol.
Ond ychwanegodd Mr Drakeford y "bydd y llywodraeth hon bob amser yn blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Dyna fu natur y sgyrsiau yr ydym wedi'u cael ar draws yr haf i wneud yn siŵr er gwaethaf y pwysau sydd yno a'r anawsterau y mae'r byrddau iechyd yn eu hadrodd, rydym yn cynnull pa bynnag gymorth y gallwn ddod o hyd iddo ar draws Llywodraeth Cymru i'w hamddiffyn rhag effeithiau gwaethaf ymosodiad ei blaid ar wasanaethau cyhoeddus."
Mae'n bosib y bydd y GIG yng Nghymru wedi gorwario o fwy na £800m erbyn gwanwyn 2024, yn ôl dadansoddiad BBC Cymru.
Mae chwyddiant wedi taro ysbytai, gan arwain at gostau cynyddol tanwydd, staff a chyffuriau, tra bod y galw am driniaeth wedi codi oherwydd Covid.
Mae Mr Davies yn gofyn "a ydych wedi cael eich blaenoriaethau'n gywir, brif weinidog? Mae deiseb, fel yr ydym wedi clywed, ar wefan y Pwyllgor Deisebau yn erbyn y gwaharddiad cyffredinol ar 20 mya sef hyd at 162,000 o lofnodion. Rydych yn cynnig rhoi 36 o wleidyddion ychwanegol i’r sefydliad hwn, ar gost o £120 miliwn, ac eto, pan fyddaf yn cynnig cyfle syml i chi gynnig rhywfaint o gysur i’r rheini yn y gwasanaeth iechyd a’r rhai sy’n dibynnu ar y gwasanaeth iechyd y byddai’n cael rhyw fath o amddiffyniad yn y gyllideb, rydych yn dewis peidio â manteisio ar y cyfle hwnnw i gynnig yr amddiffyniad hwnnw."
Mae Alun Davies, AS Llafur Blaenau Gwent, yn dymuno pen-blwydd hapus i’r prif weinidog, gan arwain at fynegiant o ‘clywch, clywch’ yn y Siambr.
Mae'r prif weinidog yn cellwair, "mae rhai pobl yn cymryd diwrnod i ffwrdd ar eu pen-blwydd".
Mae'r Ceidwadwr Tom Giffard yn gofyn "pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fonitro effaith terfynau cyflymder 20mya diofyn ar amseroedd teithio?"
Mae'n cyfeirio at ddeiseb yn gwrthwynebu'r terfyn cyflymder 20mya newydd sydd wedi denu'r nifer uchaf erioed o lofnodion.
Mae dros 160,000 eisoes wedi llofnodi'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i "gael gwared ar y gyfraith 20mya trychinebus".
"A fyddwch yn gwneud hynny?" gofynna Mr Giffard.
"Na fyddwn' yw ateb y prif weinidog.
Mae Mr Drakeford yn dweud y bydd "fframwaith monitro ar gyfer parthau 20 mya yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Medi. Bydd hwn yn nodi'r dangosyddion perfformiad allweddol. Un o'r rhain fydd amseroedd teithiau cerbydau ac amrywiadau mewn amseroedd teithio."
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo "i barhau i adolygu effaith y terfynau newydd".
Cymru yw gwlad gyntaf y DU i osod y terfyn cyflymdra ar ffyrdd cyfyngedig, er mae gan gynghorau sir hawl i eithrio rhai ble mae 30mya yn fwy priodol.
Y llynedd, pleidleisiodd y Senedd dros gyflwyno 20mya fel y cyfyngiad cyflymder arferol ar ffyrdd cyfyngedig - Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hyn.
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.
Cynhelir y cyfarfod llawn - yr ail yn y tymor Seneddol newydd - ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.