Crynodeb

  • Mark Drakeford yn ateb cwestiynau ASau, ar y terfyn cyflymder 20mya ymhlith pynciau eraill.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 26 Medi 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Bydd y Senedd yn cael ei goleuo unwaith eto yn lliwiau glas a melyn baner Wcráin heno, fel arwydd o undod â hwy.

    Da boch chi.

    Senedd CymruFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Difrodi arwyddion ffyrddwedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 26 Medi 2023

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

    Mae'r Ceidwadwr Tom Giffard yn beirniadu fandaleiddio arwyddion ffyrdd newydd 20 mya, ond yn cwestiynu a oes gan y prif weinidog yr un farn am y difrod a wnaed i arwyddion ffyrdd gan Gymdeithas yr Iaith yn eu hymgyrch am arwyddion dwyieithog yn y 1960au.

    Dywed Mr Giffard, "rydym wedi gweld pobl, yn anffodus, ym mhob rhan o Gymru yn fandaleiddio arwyddion ffyrdd fel mynegiant o'r rhwystredigaeth honno. Nawr, rwy'n condemnio'r fandaliaeth honno, ond tybed a yw'r prif weinidog yn gwneud hynny hefyd? Gofynnaf oherwydd sylwais ar gyfweliad gyda’r BBC pan ddaeth yn brif weinidog am y tro cyntaf. Soniasoch am brotestiadau’r Gymraeg yn y 1960au a dweud bod difrodi arwyddion ffyrdd, ac rwy’n dyfynnu, yn ‘beth gwych i’w wneud'.

    "Felly, a ydych yn cymeradwyo fandaliaeth yr arwyddion ffyrdd heddiw, neu os na, sut ydych chi’n cyfiawnhau eich safbwynt yng ngoleuni eich sylwadau yn y gorffennol?

    "Neu, yn ôl yr arfer, ai un rheol ar gyfer Llywodraeth Cymru ydyw, ac un rheol i bawb arall?

    Atebodd y prif weinidog, "nid wyf yn bwriadu cael fy nhynnu i mewn i fychanu dadl bwysig yn y ffordd y mae'r aelod wedi ceisio gwneud y prynhawn yma".

    Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y gyfraith newydd, a ddaeth i rym ar Fedi 17 ar gost o £32.5m, gan ddweud y bydd yn arwain at lai o farwolaethau a damweiniau.

    Ond mae rhai yn gwrthwynebu'r newid yn chwyrn, gydag achosion o ddifrodi neu dynnu arwyddion wedi eu cofnodi mewn sawl sir, gan gynnwys Conwy, Fflint, Gwynedd, Casnewydd, Torfaen, Wrecsam ac Ynys Môn.

    Y llynedd, pleidleisiodd y Senedd dros gyflwyno 20mya fel y cyfyngiad cyflymder arferol ar ffyrdd cyfyngedig - Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i wneud hynny.

    Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru wrth ddechrau yn ei swydd fel prif weinidog yn 2019, dywedodd Mr Drakeford bod ei ddeffroad gwleidyddol wedi digwydd yn ei ddyddiau ysgol.

    Ysgubodd brwdfrydedd cenedlaetholgar drwy ei dref enedigol, Caerfyrddin, pan etholwyd Gwynfor Evans yn AS cyntaf Plaid Cymru yn 1966. Wrth gofio am ei gyfnod yn yr ysgol ramadeg, cofiodd Mr Drakeford yn y cyfweliad ei fod wedi meddwl ar y pryd fod difrodi neu dynnu arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg yn "beth gwych i'w wneud".

    Ymgyrch arwyddion ffyrdd Cymdeithas yr IaithFfynhonnell y llun, LLYFRGELL GENEDLAETHOL CYMRU
    Disgrifiad o’r llun,

    Ymgyrch arwyddion ffyrdd Cymdeithas yr Iaith

  3. O 60 AS i 96wedi ei gyhoeddi 14:05 Amser Safonol Greenwich+1 26 Medi 2023

    Mae'r Ceidwadwr James Evans yn gofyn sut y bydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) Llywodraeth Cymru yn gwneud Aelodau o'r Senedd yn fwy atebol i'r cyhoedd?"

    Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd yn "cynyddu amlder etholiadau ac yn sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif".

    Dywed Mr Evans y bydd y system "rhestrau caeedig", lle bydd pobl yn cefnogi pleidiau yn hytrach nag ymgeiswyr unigol, yn lleihau atebolrwydd.

    Mae’n esbonio, “rwy’n gynyddol bryderus y gallai’r system hon danseilio ein hetholiadau yng Nghymru, a gwanhau ein democratiaeth. Mae rhai pleidleiswyr yn troi at ymgeiswyr unigol i’w cynrychioli, nid pleidiau gwleidyddol, a dylem wneud yn dda i gofio bod datganoli i fod i gryfhau ein cymunedau lleol, peidiwch â'u hanwybyddu trwy ddileu eu dewisiadau."

    Mae’r prif weinidog yn ateb, “nid wyf yn cytuno â’r aelod, ac nid wyf ychwaith yn dychmygu bod y bobl hynny sy’n eistedd o’i gwmpas ar feinciau’r Ceidwadwyr sy’n cael eu hethol yma ar system rhestr y pleidiau caeedig. Beth mae’n ei ddweud wrth ei gydweithwyr? Gadewch iddynt ddarllen yr hyn a ddywedodd wrthyf y prynhawn yma am eu diffyg cyfreithlondeb democrataidd oherwydd y ffordd y maent wedi cyrraedd yma."

    Senedd fwy
  4. Tlodi plantwedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich+1 26 Medi 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn beirniadu record Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru.

    Meddai, "mae lefelau tlodi plant yng Nghymru yn sgandal cenedlaethol. Maen nhw'n gywilydd cenedlaethol. Mae ymchwil gan y Sefydliad Bevan, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mehefin, yn amcangyfrif bod un o bob pum plentyn yn byw mewn tlodi yng Nghymru. Mewn rhai ardaloedd—Ceredigion, Blaenau Gwent—mae o gymaint ag un o bob tri."

    Mae'n nodi bod y comisiynydd plant Rocio Cifuentes wedi dweud ddoe bod diffyg "uchelgais, eglurder a manylder" yn y strategaeth ddrafft.

    Dywed Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth ac y bydd pob barn yn cael ei hystyried "fel rhan o'r ymgynghoriad rydyn ni'n ei gynnal ar hyn o bryd ar ein strategaeth arfaethedig".

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

  5. 20 milltir yr awrwedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich+1 26 Medi 2023

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

    Ar gyfraith 20mya Cymru, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud bod y ddeiseb sy'n gwrthwynebu'r terfyn newydd wedi cyrraedd 440,000 o lofnodion, y mae'n ei ddisgrifio fel "dull gwirioneddol i bobl fynegi eu hunain a mynegi'r pryderon sydd ganddynt".

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb bod ei lywodraeth "yn cymryd pob deiseb o ddifrif" ond "mae'r deisebau i'r Senedd, nid i Lywodraeth Cymru, a mater i'r Senedd, drwy'r Pwyllgor Deisebau, yw ymateb iddynt".

    Bydd y gyfraith newydd "yn achub bywydau", meddai.

    Mae'r prif weinidog hefyd yn dweud ei fod wedi derbyn bygythiadau i'w ddiogelwch corfforol dros y ddeddf 20mya newydd ac mae'n galw ar i gefnogwyr y gyfraith gael eu trin â pharch.

    Meddai, "rwy’n ddigon hapus i anfon at yr aelod rai o’r negeseuon cas a gefais gan bobl sy’n gwrthwynebu’r polisi hwn."

    Atebodd Mr Davies, "Rwy'n fwy na pharod, brif weinidog, i ymuno â chi yn y sylwadau hynny. Nid oes lle yn ein cymdeithas i hynny o gwbl. Gallaf fi, fy hun, anfon llawer, llawer o enghreifftiau... o'r sylwadau sy'n cael eu taflu ataf i."

    20Ffynhonnell y llun, Getty Images
  6. Rheilffyrdd yng nghanolbarth a gorllewin Cymruwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 26 Medi 2023

    Mae Cefin Campbell o Blaid Cymru yn galw am welliannau i reilffordd Calon Cymru ac yn dweud eto bod Cymru yn parhau i fod ar ei cholled o ran cyllid HS2 oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn brosiect "Cymru a Lloegr".

    Meddai am y "rheilffordd iconig yna—llinell Calon Cymru—sy'n rhedeg o Abertawe drwy Sir Gaerfyrddin, Powys ac ymlaen i'r Amwythig... mae perfformiad y gwasanaeth mewn gorsafoedd megis Llanymddyfri, Llandeilo a Llanwrtyd mor wael, o'r 2,700 o orsafoedd ar draws Prydain, mae nhw, y dair yna, ymhlith y 100 gwaethaf dros y chwe' mis diwethaf, gyda 40 y cant o'r trenau naill ai wedi'u canslo, neu'n rhedeg dros 10 munud yn hwyr.

    "Felly, brif weinidog, a allwch chi esbonio i fi sut rŷch chi'n bwriadu mynd ati i fynd i'r afael â'r problemau difrifol ar linell Calon Cymru, a phwyso ar eich arweinydd chi i sicrhau bod arian HS2 yn dod i Gymru?"

    O ran HS2, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dyfynnu cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) Paul Johnson: 'mae'n gwneud i mi fod eisiau wylo. Mae'n gwneud i mi deimlo anobaith."

    Mae'r prif weinidog yn ymhelaethu bod HS2 yn "draed moch, fel y dywedodd Cefin Campbell, lle mae Cymru'n arbennig wedi colli allan. Os yw HS2 yn cael ei ganslo o Birmingham i Fanceinion, yna bydd y ffuglen sydd gan lywodraeth y DU y byddai y llinell honno o fantais i Gymru, yn cael ei ffrwydro’n llwyr. Ar y pwynt hwnnw, mae angen inni gael swm canlyniadol Barnett o’r arian sydd wedi’i wario hyd yma, a byddai hynny’n caniatáu inni fuddsoddi yn Rheilffordd Calon Cymru a llawer o rannau eraill o'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru hefyd."

    Mae costau cynyddol wedi arwain at ddyfalu ynghylch dyfodol HS2 ac nid yw llywodraeth y DU wedi gwarantu y bydd y lein yn rhedeg i ogledd orllewin Lloegr.

    HS2Ffynhonnell y llun, HS2
  7. Croesowedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 26 Medi 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

    Dim ond un o’r 12 cwestiwn a gyflwynwyd sydd gan Aelod o'r Senedd benywaidd – mae gan Natasha Asghar o'r blaid Geidwadol gwestiwn 9 ar flaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, ond efallai na fyddant yn cyrraedd mor bell â hynny o fewn yr amser a neilltuwyd.