Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich+1 10 Hydref 2023
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Oherwydd argyfwng Israel-Gaza, bydd y goleuadau yn y Senedd yn cael eu pylu bob nos tan ddiwedd yr wythnos, fel yr oedden nhw neithiwr.
Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod er mwyn “adlewyrchu’r teimlad bod ymosodiadau o’r fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol.
"Mae’n destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni.
"Yn ogystal ag adlewyrchu’r tristwch, bydd y tywyllwch hefyd yn ddatganiad o undod â phawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r ymosodiadau.”