Crynodeb

  • Mae'r cwestiynau yn cynnwys y GIG a diciâu buchol, a dywed Mark Drakeford bod y Post Brenhinol wedi "methu".

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:34 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Oherwydd argyfwng Israel-Gaza, mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos.

    Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod er mwyn “adlewyrchu’r teimlad bod ymosodiadau o’r fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol.

    "Mae’n destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni.

    "Yn ogystal ag adlewyrchu’r tristwch, bydd y tywyllwch hefyd yn ddatganiad o undod â phawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r ymosodiadau.”

    mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos
  2. Post Brenhinol wedi 'methu'wedi ei gyhoeddi 14:32 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2023

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

    "Mae'r Post Brenhinol wedi methu â chyflawni ei rwymedigaethau i bobl Cymru dros y blynyddoedd diwethaf ac mae Llywodraeth Cymru yn codi hyn ar bob cyfle," meddai'r prif weinidog.

    Gan gytuno â’i gydweithiwr Llafur Rhianon Passmore, mae’n dweud bod “defnyddwyr y gwasanaeth yn cael gwasanaeth gwaeth nawr o ganlyniad i breifateiddio, a’r bobl sy’n gweithio i’r gwasanaeth hwnnw, yn sicr, sydd wedi ysgwyddo baich y methiannau hynny”.

    Yr wythnos diwethaf, cafodd y Post Brenhinol ddirwy o £5.6m am fethu â chyrraedd ei dargedau dosbarthu dosbarth cyntaf ac ail.

    Dywedodd Ofcom fod y Post Brenhinol wedi torri ei rwymedigaethau drwy fethu targedau "o gryn dipyn ac yn anesboniadwy".

    Post BrenhinolFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. 100% o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035wedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2023

    Mae'r prif weinidog yn ailadrodd y nod i 100% o ddefnydd trydan blynyddol Cymru ddod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, "tra'n cadw cyfoeth a gwerth yng Nghymru hefyd".

    Ychwanegodd "rydym yn symleiddio prosesau cynllunio a chaniatáu, yn gweithio i sicrhau grid ynni effeithiol ac yn cydweithredu ag eraill i wneud y mwyaf o botensial technolegau newydd".

    Ynni gwyntFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Parc Bryn Cegin, Bangorwedi ei gyhoeddi 14:03 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2023

    Sian Gwenllian
    Disgrifiad o’r llun,

    Sian Gwenllian

    Mae Sian Gwenllian o Blaid Cymru yn gofyn am ddiweddariad ar ymdrechion i ddenu swyddi i Barc Bryn Cegin ar gyrion Bangor.

    Mae hi'n dweud nad oes un swydd wedi'i chreu yno.

    Arhosodd y parc busnes yn wag am 20 mlynedd, er bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £11m arno.

    Mae Mr Drakeford yn ateb, "mae'r newyddion yn well. Mae wedi bod yn amser hir yn dod, ond mae yn dod nawr. Mae tri o'r naw plot wedi cael eu gwerthu'n barod, mae tri arall y mae pobl wedi gwneud cais i'w prynu, a gyda'r tri sydd ar ôl, ry' ni'n cydweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru i fuddsoddi mewn plot newydd i gael cyfleusterau newydd sydd, os ry' ni'n llwyddo, yn mynd i greu 70 o swyddi newydd yn y parc".

    Parc Bryn Cegin, Bangor
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd y parc ei greu yn 2000 ond beirniadwyd gweinidogion ar ôl methu â denu'r 1,600 o swyddi y gobeithiwyd amdanynt.

  5. GIG a’r sector preifatwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2023

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

    Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn cyfeirio at sylwadau gan Wes Streeting, ysgrifennydd iechyd cysgodol Llafur, a ddywedodd y byddai’n “dal y drws yn agored” i entrepreneuriaid yn y sector preifat a all wella’r Gwasanaeth Iechyd os caiff llywodraeth Lafur ei hethol yn San Steffan.

    Dywed Rhun ap Iorwerth ei bod hi’n "gymaint o drueni bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein gwelliant i Fil caffael y GIG, a fyddai wedi diogelu’r GIG yng Nghymru rhag preifateiddio cynyddol”.

    Atebodd Mr Drakeford, "mae iechyd wedi bod yn fater datganoledig yng Nghymru ers 1999. Rydym yn gwneud penderfyniadau yma yng Nghymru ar gyfer gwasanaeth iechyd Cymru a byddwn yn parhau i wneud hynny".

    GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Diciâu: Awgrym AS i 'ddod o hyd i fusnes arall' o dan y lachwedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2023

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn beirniadu gwleidydd Llafur am awgrymu y dylai ffermydd llaeth gyda heintiau diciâu buchol cyson "ddod o hyd i fusnes arall".

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn cadarnhau nad dyna bolisi Llywodraeth Cymru.

    Roedd Joyce Watson, Aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn siarad ar ôl datganiad gan y gweinidog materion gwledig ddydd Mawrth diwethaf.

    Ychwanegodd Mr Davies "gan fod rhywun yn cael ei hun mewn sefyllfa ffermio gyda diciâu buchol parhaol heb unrhyw fai arnyn nhw - ac rydyn ni'n gwybod y niwed mae diciâu mewn gwartheg yn ei wneud i les emosiynol a meddyliol teuluoedd fferm - mae hynny'n gynnig annerbyniol".

    Pwysodd Mr Davies ar y prif weinidog a ddylai Joyce Watson ailystyried y sylwadau.

    Fe wnaeth Mr Drakeford gydnabod yr "effaith emosiynol a meddyliol y mae ffermwyr yn ei brofi".

    Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi miliynau mewn "rhwyd diogelwch" i gynorthwyo ffermwyr.

    Ychwanegodd, "rwyf wedi darllen ers hynny bod Joyce Watson wedi egluro pe bai wedi cael cyfle i fynegi ei barn yn llawnach, nid oedd hi wedi bwriadu awgrymu y byddai pobl yn cael eu gorfodi oddi ar y tir."

    Roedd undeb ffermio NFU Cymru wedi dweud fod sylw Ms Watson yn "ysgytwol", "gresynus" ac "ansensitif".

    Cafodd tua 9,500 o wartheg eu difa o ganlyniad i'r diciâu mewn gwartheg yng Nghymru y llyneddFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd tua 9,500 o wartheg eu difa o ganlyniad i'r diciâu mewn gwartheg yng Nghymru y llynedd

  7. Bysiauwedi ei gyhoeddi 13:43 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2023

    Janet Finch-Saunders
    Disgrifiad o’r llun,

    Janet Finch-Saunders

    Mae'r Ceidwadwr Janet Finch-Saunders yn beirniadu'r gwasanaeth bws "ysbeidiol" y mae ei hetholwyr yn wynebu.

    Mae hi'n dweud mai "prif ganolbwynt poblogaeth Conwy wledig yw tref farchnad Llanrwst. Mae 44% o drigolion yn gorfod teithio mwy na 2km i'w gwaith. Yn sicr ni allant ddibynnu ar unrhyw wasanaeth bws".

    Dywed y prif weinidog fod y broses ar gyfer llunio cynlluniau rhwydwaith bysiau diwygiedig - y mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol eu cynnal ar sail ranbarthol - yn parhau.

    Ychwanegodd y bydd y Bil bysiau sydd ar y gweill yn “codi’r gwaharddiad ar greu cwmnïau bysiau trefol newydd yma yng Nghymru fel rhan o’n penderfyniad i roi gwasanaethau bysiau’r dyfodol ar sail lle mai budd y cyhoedd sy’n gyrru’r penderfyniadau."

    Arhosfan bwsFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Cefnogi plant o deuluoedd incwm iselwedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2023

    Sioned Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Sioned Williams

    Mae Sioned Williams o Blaid Cymru yn gofyn sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant o deuluoedd incwm isel dros y gaeaf.

    Mae'n galw ar y llywodraeth i barhau â phrydau ysgol am ddim, yn ystod gwyliau'r gaeaf, i'r plant hynny sy'n gymwys ar eu cyfer yn ystod y tymor.

    Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, "mae'r gaeaf yn mynd i fod yn anodd i deuluoedd gyda phlant, wrth gwrs; mae hwnna'n wir.

    "Ond mae'n anodd i bob un o'r gwasanaethau cyhoeddus hefyd, achos does dim digon o arian gyda ni i wneud popeth ry' ni eisiau gwneud. Ac, ar ddiwedd y dydd, mae dewisiadau i gael eu gwneud, ac mae'r llywodraeth wedi gwneud nifer o'r dewisiadau gyda Phlaid Cymru.

    "Dyna pam ry' ni yn buddsoddi mewn prydau am ddim yn ein hysgolion. A dyna pam ry' ni'n dal i roi arian i helpu gyda'r brecwast am ddim yn yr ysgol hefyd. Dyna pam ry' ni'n rhoi arian bob blwyddyn nawr i deuluoedd i helpu gyda'r costau ysgol".

    pryd bwyd ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Croesowedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich 21 Tachwedd 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.