Crynodeb

  • Ymhlith y cwestiynau i Mark Drakeford yn y Senedd mae gofal mamolaeth, amaethyddiaeth a chostau byw.

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:32 GMT 28 Tachwedd 2023

    Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.

    Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.

    Oherwydd argyfwng Israel-Gaza, mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos.

    Dywedodd y Llywydd Elin Jones ei fod er mwyn “adlewyrchu’r teimlad bod ymosodiadau o’r fath yn cynrychioli cyfnod tywyll arall i ddynoliaeth yn y Dwyrain Canol.

    "Mae’n destun tristwch mawr i sefydliad democrataidd fel ein un ni.

    "Yn ogystal ag adlewyrchu’r tristwch, bydd y tywyllwch hefyd yn ddatganiad o undod â phawb sy’n dioddef o ganlyniad i’r ymosodiadau.”

    mae'r goleuadau yn y Senedd yn parhau i gael eu pylu bob nos
  2. 'Meddygon teulu fel penaethiaid tîm clinigol ehangach'wedi ei gyhoeddi 14:21 GMT 28 Tachwedd 2023

    Gan gydnabod pwysau ar bractisau meddygon teulu, mae'r prif weinidog yn dweud mai meddygon teulu fel penaethiaid tîm clinigol ehangach yw dyfodol gofal sylfaenol.

    Meddai, "yn y ffordd honno, rwy’n meddwl bod dyfodol cryf a llwyddiannus iawn i ofal sylfaenol yng Nghymru—ac yng Nghymru, rydym wedi arwain y datblygiad hwnnw, sydd bellach yn cael ei ailadrodd mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig.”

    Mae'r tîm ehangach, meddai, yn cynnwys ffisiotherapyddion, fferyllwyr, uwch ymarferwyr fel parafeddygon, a nyrsys practis.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  3. 'Polisïau gwrth-dwristiaeth'wedi ei gyhoeddi 14:14 GMT 28 Tachwedd 2023

    Mae'r Ceidwadwr Tom Giffard yn beirniadu "treth dwristiaeth wenwynig" Llywodraeth Cymru a "pholisïau gwrth-dwristiaeth niweidiol" eraill.

    Mae'r prif weinidog yn ateb drwy ganolbwyntio ar fuddsoddiadau yn Y Mwmbwls, Bae Abertawe, fel enghraifft o gefnogaeth y llywodraeth i'r diwydiant.

    Mae’n tynnu sylw at “y £2 filiwn sydd wedi’i ddarparu i greu llety a bwyty o ansawdd uchel yn Y Mwmbwls ei hun, gan greu rhyw 29 o swyddi; buddsoddiad pellach o £70,000 yn yr hen gronfa busnesau micro a bach ar gyfer datblygu gwesty pum seren gerllaw; £2.7 miliwn ar gyfer creu canolfan ymwelwyr a distyllu wisgi Cymreig ym Morfa Hafod yn Abertawe.

    "Pethau ymarferol yw’r rhain; mae’r rhain yn fuddsoddiadau gwirioneddol; dyma sut yr ydych yn dangos eich cefnogaeth i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru."

    Y MwmbwlsFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Mwmbwls

  4. Effaith andwyol ar amaethyddiaeth?wedi ei gyhoeddi 14:00 GMT 28 Tachwedd 2023

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dweud, "allwn ni ddim gwneud heb ein sector amaeth ni, o ran bwyd, yr amgylchedd, ein cymunedau gwledig, ein hiaith ac yn y blaen. Mae Cymru wledig ac amaeth angen llywodraeth ar eu hochr nhw.

    "Mae'r cyhoedd yn cytuno â mi: 82 y cant o bobl yn dweud wrth arolwg YouGov eu bod nhw'n cefnogi rhoi cymorth ariannol i ffermwyr gynhyrchu bwyd; 72 y cant yn dweud bod cefnogi ffermwyr Cymru yn ddefnydd da o arian cyhoeddus."

    Mae'n galw am "sicrwydd na fydd y gyllideb ddrafft yn effeithio'n andwyol ar amaethyddiaeth".

    Atebodd Mr Drakeford, "allai ddim dweud hynny am unrhyw agwedd ar y gwaith y mae'r llywodraeth yn ei wneud".

    Eglura, “rydym £1.3 biliwn yn brin o’r hyn sydd ei angen arnom y flwyddyn nesaf; hynny yw effaith chwyddiant a methiant llywodraeth y DU i gynnal gwir werth y gyllideb y dywedasant yr oedd ei hangen arnom pan osododd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant ein cyllidebau am dair blynedd."

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

  5. Gwasanaethau mamolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawewedi ei gyhoeddi 13:57 GMT 28 Tachwedd 2023

    Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn codi pryderon am wasanaethau mamolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

    Mae’n cyfeirio at honiadau gan deulu Gethin Channon, sy’n dair oed, fod pryderon difrifol am ei ofal mamolaeth, a nodwyd gan un o brif ymchwilwyr meddygol y DU, wedi cael eu “cuddio” gan y bwrdd iechyd.

    Ganed Gethin Channon â niwed sylweddol i’r ymennydd ar ôl cymhlethdodau yn ystod ei eni yn Ysbyty Singleton yn 2019.

    Mae Mr Davies yn gofyn, "a yw'r bwrdd iechyd wedi cyrraedd lefelau staffio gofynnol y GIG yn y gwasanaethau mamolaeth, ac os nad ydyn nhw, a yw gwasanaethau mamolaeth yn Abertawe'n ddiogel?"

    Atebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, "Rwy'n credu bod gwasanaethau mamolaeth ym Mae Abertawe yn cael eu goruchwylio'n rheolaidd iawn gan y rhai sydd â'r cyfrifoldeb hwnnw.

    "Nid oes amheuaeth—nid wyf yn awgrymu fel arall—y bu rhai digwyddiadau anodd yn y gwasanaethau a ddarperir.

    "Ond mae'r trefniadau a roddwyd ar waith o ganlyniad i'r gwaith a wnaed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gwersi hynny wedi'u trosglwyddo i'r gwasanaeth ym Mae Abertawe."

    Andrew RT Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Andrew RT Davies

  6. Yr argyfwng costau bywwedi ei gyhoeddi 13:32 GMT 28 Tachwedd 2023

    Mae Heledd Fychan o Blaid Cymru yn gofyn pa gynnydd sydd wedi'i wneud i weithredu'r 29 argymhelliad a wnaed gan grŵp arbenigol Llywodraeth Cymru ar yr argyfwng costau byw, dolen allanol.

    Lluniodd Llywodraeth Cymru y grŵp o 18 o arbenigwyr i gynghori ar effaith yr argyfwng costau byw ar bobl yng Nghymru a'r camau y dylid eu cymryd i leihau yr effaith.

    Ymatebodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, "dyma rai o’r meysydd lle mae cynnydd wedi cael ei wneud—tai a digartrefedd, sicrhau’r incwm gorau i bobl, a lleihau cost y diwrnod ysgol.

    "Ond, gadewch i ni fod yn glir: does dim cyllid gan Lywodraeth Cymru i gyflawni pob un o’r 29 o argymhellion. Mae dewisiadau anodd yn cael eu gwneud, gyda chymorth adroddiad y grŵp arbenigol."

    Dywed Heledd Fychan fod rhai o'r argymhellion â "dim cost yn gysylltiedig â nhw, megis argymhellion 4, 24 a 25 ynglŷn â chasglu a chyhoeddi data, argymhelliad 10 o ran blaenoriaethu teuluoedd incwm isel ar gyfer y rhaglen Bwyd a Hwyl, a rhan gyntaf argymhelliad 23, o ran cymryd rhan mewn marchnata mwy gweithredol ar gyfer MyTravelPass i bobl ifanc 16 i 24 mlwydd oed."

    Heledd Fychan
    Disgrifiad o’r llun,

    Heledd Fychan

  7. Croesowedi ei gyhoeddi 13:02 GMT 28 Tachwedd 2023

    Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.

    Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.