Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:35 Amser Safonol Greenwich 9 Ionawr
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Blwyddyn newydd dda!
Mark Drakeford yn ateb cwestiynau yn siambr y Senedd am y tro cyntaf yn 2024, a'r tro cyntaf ers iddo gyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau iddi ar ôl pum mlynedd yn y swydd.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Blwyddyn newydd dda!
Dywed y prif weinidog fod Adolygiad Diwylliant Annibynnol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn "adroddiad ysgytwol i'w ddarllen".
"Mae hwn yn adroddiad hynod feirniadol sy'n datgelu methiannau sylfaenol mewn arweinyddiaeth, llywodraethu a gwneud penderfyniadau o fewn y gwasanaeth. Mae'n dangos yr angen am newid diwylliannol a rheoli sylfaenol," ychwanega.
Fe wnaeth y gwasanaeth tân oddef aflonyddu rhywiol a cham-drin domestig y tu allan i’r gwaith, yn ôl yr adolygiad damniol.
Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut mae'r gwasanaeth yn "goddef" diffoddwyr tân sy'n postio delweddau rhywiol yn eu gwisg ar blatfform oedolion OnlyFans.
Mae’r prif swyddog tân Huw Jakeway wedi ymddiheuro a bydd yn rhoi’r gorau i’r swydd.
Daeth yr adolygiad o hyd i "ddiffygion difrifol yn y gwasanaeth" ar ôl cynnal arolwg o fwy na 450 o staff.
Mae'n dilyn adroddiad newyddion ITV yn 2022 yn honni bod diffoddwyr tân wedi cadw eu swyddi er gwaethaf honiadau eu bod wedi aflonyddu’n rhywiol a cham-drin merched yn y gwasanaeth.
Mae Cefin Campbell o Blaid Cymru yn mynegi pryder am effaith cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddiogelwch cymunedol.
Mae'r prif weinidog yn ateb bod "cyllideb refeniw y flwyddyn nesaf gwerth £1.3 biliwn yn llai na’r hyn y dywedodd y Canghellor Sunak oedd ei angen ar Gymru wrth osod y gyllideb honno ym mis Hydref 2021. Mae’r gyllideb ddrafft yn canolbwyntio ar y cyfrifoldebau diogelwch cymunedol datganoledig. Yn syml, mae llai o arian ar gael i lenwi’r bylchau yn y gwasanaethau hynny y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i fod yn gyfrifol amdanyn nhw."
Dywed y Ceidwadwr Laura Anne Jones "yn yr haf fe wnaeth Plaid Lafur y DU o'r diwedd wneud tro pedol a rhoi'r gorau i'w chefnogaeth i hunanddiffinio rhywedd, ar ôl sylweddoli'r effaith ddofn y byddai'n ei chael ar hawliau sylfaenol menywod. Mae'n fyd i ffwrdd o'ch safiad ar y mater yma yng Nghymru, lle'r ydych yn ymddangos yn benderfynol o orfodi hunanddiffinio rhywedd".
Mae'r prif weinidog yn ateb mai polisi ei lywodraeth yw "cydnabod hawliau pobl draws yma yng Nghymru".
Ychwanegodd, "nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am wneud yn siŵr bod ein gweithredoedd fel llywodraeth wedi'u cynllunio i gydnabod hawliau'r bobl hynny, ac i wneud yn siŵr bod yr hawliau hynny'n cael eu parchu".
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dweud "nad oes yna flaenoriaeth pwysicach nawr, mi dybiaf, na chyllid teg i Gymru" gan San Steffan.
Mae'n dweud "ni fydd y Torïaid yn addo mwy o arian i Gymru. Does ganddyn nhw ddim diddordeb. Ac fel rydyn ni wedi gweld gyda symiau canlyniadol HS2, mae Kier Stammer yn gwrthod gwneud yr addewid hwnnw hefyd."
Mae Mr Drakeford yn ateb mai "safbwynt y blaid hon erioed yw bod angen i gyllid teg ddod i Gymru, bod fformiwla Barnett wedi hen fynd heibio ei dyddiad, ac y byddai cyllid yn seiliedig ar angen yn arwain at lif gwahanol o gyllid i mewn i Gymru.
"Dyna yw polisi plaid Lafur Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru, a byddwn yn parhau i gyflwyno’r dadleuon drosto.”
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud bod y terfyn cyflymder newydd o 20mya yn "hynod amhoblogaidd" ac y bydd yn arwain at ddryswch.
Ychwanegodd, "mae wedi achosi llawer iawn o bryderon ar hyd a lled Cymru", ac fe fydd, meddai, yn "peryglu bywoliaethau".
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb "lle mae pobl wirioneddol wedi drysu, yna bydd y system yn ceisio ymgysylltu â nhw a'u haddysgu. Lle mae pobl yn honni eu bod wedi drysu ond nad oes tystiolaeth mai dryswch sydd wrth wraidd eu hymddygiad, yna ni allant ddisgwyl na fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd."
Ddoe dechreuodd y gwaith o orfodi’r polisi mewn ardaloedd adeiledig yng Nghymru.
Mae rhannu gwybodaeth anghywir ar-lein yn “nodwedd hynod niweidiol o bob cymdeithas ddemocrataidd”, meddai’r prif weinidog.
Ychwanegodd, "rydym yn gweithio gyda grwpiau yng Nghymru a ledled y DU i frwydro yn erbyn y wybodaeth anghywir ei hun, i helpu dinasyddion gwybodus i nodi gwybodaeth anghywir ac i ddarparu ffynonellau gwybodaeth dilys y gall unigolion ddibynnu arnynt."
Mae angen "diwygio sylfaenol" ar y model presennol o ofal iechyd sylfaenol, meddai'r AS Llafur Hefin David.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn ateb "rydym wedi symud i oes o economi gymysg o ran gofal iechyd sylfaenol".
Ychwanegodd, “mae llawer mwy o feddygon teulu cyflogedig yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan fyrddau iechyd, ond hefyd yn cael eu cyflogi o fewn practisau eu hunain, a gwyddom, i lawer o’r bobl sydd wedi dechrau, ac sydd bellach yn gadael, hyfforddiant meddygol, fod hwnnw’n fodel sy’n addas ar gyfer eu hanghenion yn y dyfodol yn well na'r hen fodel contractwr. Ond mae bywyd ym model y contractwr hefyd."
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm - y cyntaf ers i Mark Drakeford gyhoeddi ei fod yn rhoi'r gorau iddi ar ôl pum mlynedd yn y swydd.
Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.