Crynodeb

  • Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yn dod i Gymru am y tro cyntaf ddydd Mawrth

  • Cafodd yr ymchwiliad ei sefydlu i ystyried parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol

  • Fe ddefnyddiodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething negeseuon a oedd yn diflannu yn ystod y pandemig, mae'r ymchwiliad wedi clywed

  • Fideo pwerus yn agor y gwrandawiad yng Nghaerdydd, gyda phobl ledled Cymru yn sôn am y boen o golli anwyliaid yn ystod y pandemig

  • Arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion i gael eu holi am "benderfyniadau craidd" a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig

  • Bydd yr ymchwiliad yn clywed tystiolaeth yng Nghymru o 27 Chwefror i ddydd Iau 14 Mawrth

  1. Beth yw ymchwiliad Covid Cymru?wedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Bydd Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yn clywed tystiolaeth yng Nghymru o ddydd Mawrth 27 Chwefror i ddydd Iau 14 Mawrth.

    Fe gafodd yr ymchwiliad ei sefydlu i ystyried parodrwydd ac ymateb y DU i bandemig Covid-19, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.

    Tra yng Nghymru fe fydd yr ymchwiliad yn holi arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion am "benderfyniadau craidd" a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

    Darllenwch fwy am strwythur yr ymchwiliad a'r pynciau trafod drwy bwyso ar y ddolen yma.

  2. Croesowedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror

    Helo a chroeso aton ni i lif byw arbennig.

    Heddiw, mewn gwrandawiad yng Nghaerdydd, bydd Ymchwiliad Covid-19 y DU yn dechrau clywed tystiolaeth yng Nghymru.

    Am y tair wythnos nesaf bydd arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion yn cael eu holi am benderfyniadau a gafodd eu gwneud mewn ymateb i'r pandemig, gyda'r gobaith o ddysgu gwersi at y dyfodol.

    Bydd yn gyfle hefyd i deuluoedd a gollodd anwyliaid rannu eu profiadau.

    Diolch am ymuno ac arhoswch efo ni am y diweddaraf drwy gydol y dydd.