Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich 27 Chwefror
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Mark Drakeford yn ateb cwestiynau arweinwyr y gwrthbleidiau ac aelodau eraill o’r Senedd.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Mae Siân Gwenllïan yn dweud bod "gwrthwynebiad mawr" i gynlluniau i greu gorsaf nwy yn Arfon.
Meddai, "y bwriad ydy adeiladu gorsaf nwy ar safle hen chwarel yn y dref - safle sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio fel gwaith brics yn y gorffennol, ac, yn fwy diweddar, gan y contractwyr fu'n adeiladu'r ffordd newydd yn Arfon.
"Does dim angen imi sôn am yr angen i symud i ffwrdd o'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil ar gyfer ynni - mae'r ddadl honno'n hollol hysbys. Mae pryder penodol am orsaf nwy mewn hen chwarel, mewn crochan caeedig sydd efo ysbyty, cyfleusterau hamdden a channoedd o gartrefi ar eu hymylon, yn yr union le y byddai nwyon gwenwynig yn cael eu gollwng".
Atebodd y prif weinidog nad oes modd iddo drafod manylion unrhyw gais cynllunio oherwydd rôl bosibl gweinidogion yn y broses honno, ond y mae'n esbonio'r cyd-destun polisi, sef bod gan weinidogion Cymru "ragdybiaeth gref yn erbyn gwaith pŵer tanwydd ffosil newydd",
Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod tlodi plant wedi parhau'n "ystyfnig o uchel ar tua 28 y cant" yng Nghymru.
Meddai, "mae cyfradd marwolaethau plant yng Nghymru 70 y cant yn uwch ar gyfer plant yn y grwpiau mwyaf difreintiedig na'r plant lleiaf difreintiedig. Ac mae plant sy'n byw mewn tlodi bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu problem iechyd meddwl erbyn 11 oed".
Mae hi'n galw am "darged sy'n edrych ar anghydraddoldeb iechyd a thlodi, a sut y gallwn gysylltu'r ddau gyda'i gilydd a gwneud yn siŵr bod gennym ni dargedau clir i fynd i'r afael â hynny".
Atebodd y prif weinidog, "mae anghydraddoldeb iechyd plant wedi'i wreiddio mewn anghydraddoldeb ehangach y mae plant yn ei wynebu o ddechrau eu bywydau, ac i'w weld mewn llawer, llawer o agweddau ar eu bywydau. Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo, wrth gwrs, i fynd i'r afael ag effaith y ffactorau hynny ym mywydau’r plant hynny sy’n byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig”.
Gwnaeth un pwynt pellach. "Rydych chi'n gwybod pa mor ddadleuol mae polisi 20 milltir yr awr Llywodraeth Cymru wedi bod mewn rhai mannau, ond eto rydyn ni'n gwybod bod plant o gymunedau difreintiedig yn fwy tebygol o ddioddef mewn damweiniau na phlant mewn unrhyw ran arall o'r boblogaeth. Mae'r gair 'damwain' yn gamarweiniol oherwydd mae’n awgrymu, rywsut, bod y pethau hyn yn digwydd ar hap. Nid ydynt yn gwneud hynny. Mae plant yn ein cymunedau lleiaf cefnog yn fwy tebygol o ddioddef mewn damwain, gan gynnwys damweiniau ar eu strydoedd yn ymwneud â cherbydau modur, a bydd ein polisi, a fydd yn achub bywydau pobl, yn cael mwy o effaith ar fywydau plant tlawd nag unrhyw ran arall o’r boblogaeth.”
Mae'r prif weinidog yn dweud bod yn rhaid i'r GIG "fod yn wasanaeth iechyd ac nid yn wasanaeth salwch".
Mae'n ymhelaethu, "mae'n rhaid iddo fod yn wasanaeth sy'n helpu pobl i wneud y pethau yn eu bywydau eu hunain a fydd yn gwneud gwahaniaeth i'w rhagolygon iechyd hirdymor eu hunain".
Fel enghraifft, dywed yn 2010, roedd 23 y cant o boblogaeth Cymru wedi cofnodi eu bod yn ysmygu. Heddiw, mae hynny'n 13 y cant - gostyngiad o 10 y cant dros y degawd hwnnw.
Mae arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn dweud bod ffermio yng Nghymru ar "groesffordd".
Meddai, "mae'r fferm deuluol Gymreig angen i Lywodraeth Cymru fod yn bencampwyr drostyn nhw, i fod yn gefn iddyn nhw, ac ar hyn o bryd, nid fel yna mae hi'n teimlo i bobl. Rŵan, ydy'r prif weinidog yn cytuno efo fi ein bod ni ar groesffordd mewn difrif o ran y sector amaeth a chefn gwlad ac mae rŵan ydy'r foment, rŵan ydy'r amser am newid cyfeiriad, achos mae gwrando yn un peth - mae'r llywodraeth yn dweud yn gyson eu bod nhw'n gwrando - ond mae angen gweithredu rŵan?"
Mae Mr Drakeford yn ateb bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfarfodydd "adeiladol" gydag undebau ffermio ac y bydd yn parhau â'r ddeialog "i ddod o hyd i ffordd ymlaen gyda'n gilydd".
Mae'n dweud y bydd y llywodraeth yn ystyried "cynigion newydd i ddelio â lladd gwartheg sydd wedi dal diciâu ar y fferm" a bydd hefyd yn cynnal adolygiad o reoliadau llygredd amaethyddol.
Ychwanegodd, “cyn belled ag y mae’r cynllun ffermio cynaliadwy ei hun yn y cwestiwn, buom yn trafod ddoe gyda’r ffermwyr hynny a ddaeth i mewn i Barc Cathays syniadau ynghylch sut y gallwn symleiddio rhywfaint o’r data y gofynnir iddynt ei ddarparu, sut y gallwn wneud y data hwnnw yn fwy gwerthfawr iddynt, fel y gallant wneud elw o'r data a ddarperir ganddynt. Buom yn siarad am sut y gallwn ddod o hyd i ffyrdd eraill o atafaelu carbon ar ffermydd."
Mae'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dod i ben ar 7 Mawrth.
Bydd y cynllun yn disodli cymorthdaliadau o gyfnod yr UE a oedd yn talu ffermwyr yn bennaf ar sail faint o dir sydd ganddynt.
Mae'r cynllun ar hyn o bryd yn cynnig y bydd yn rhaid i ffermydd ymrwymo i arferion ffermio cynaliadwy, gan gynnwys - yn fwyaf dadleuol - cael coed ar 10% o'u tir.
Ar bwnc arall, pan ofynnwyd iddo gan Rhun ap Iorwerth a ddylai Vaughan Gething ddychwelyd y £200,000 mewn rhoddion gan Dauson Environmental - y cwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol - soniodd Mr Drakeford am y bleidlais ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru yn lle hynny.
"Mae yna filoedd ar filoedd o bobl yn gallu cymryd rhan yn y ddadl honno, fe fyddan nhw'n gwneud eu meddyliau i fyny. Dyna'r ffordd orau o ddatrys y mater yma," meddai Mr Drakeford.
Mae'r prif weinidog yn dweud wrth Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, iddo ddilyn y "gweithdrefnau arferol" wrth ddod i'r casgliad na wnaeth ymgeisydd arweinyddiaeth Llafur Cymru, Vaughan Gething, dorri'r cod gweinidogol.
Roedd Mr Davies wedi ysgrifennu at y prif weinidog ar ôl i weinidog yr economi dderbyn £200,000 mewn rhoddion gan Dauson Environmental.
Mae'r cwmni'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.
Ond meddai Mr Drakeford, "gofynnais am ymchwiliad ac fe wnaeth yr ymchwiliad fy nghynghori nad oedd unrhyw dorri cod y gweinidogion. Felly, mae ymchwiliad wedi bod ac fe roddwyd yr ateb i mi mewn termau diamwys".
Ychwanegodd, "os oes unrhyw un eisiau i unrhyw faterion pellach gael eu hymchwilio fe ddylen nhw ysgrifennu ataf, fe ddylen nhw nodi beth maen nhw'n meddwl sydd angen ei ymchwilio a bydd hynny'n cael ei wneud."
Wedi'i holi gan y Ceidwadwr Gareth Davies am amseroedd aros yn Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl, atebodd y prif weinidog "nid yw amseroedd aros rhai cleifion yn Ysbyty Glan Clwyd le mae angen iddynt fod, yn enwedig yn yr adran achosion brys. Bydd buddsoddiad ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, a ffocws newydd gan y bwrdd newydd, yn helpu staff rheng flaen i sicrhau gwelliant."
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, Glan Clwyd oedd yn perfformio waethaf yn erbyn y targed pedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru, gyda dim ond 45.1% o gleifion yn cael eu rhyddhau, eu trosglwyddo neu eu derbyn o fewn pedair awr - o gymharu â 68.4% o gleifion a welwyd o fewn pedair awr ledled Cymru.
Ychwanega Mr Davies, "yn syml, ni ddylai trigolion gogledd Cymru orfod dioddef hyn. Y mis hwn, cyrhaeddodd claf, Mr Taylor, Ysbyty Glan Clwyd gyda phoenau yn ei frest, ac, yn dilyn brysbennu, cafodd ei adael mewn coridor am chwe awr mewn cadair olwyn. Tra'n nodi bod y staff yn ardderchog, roedden nhw wedi eu gorlethu a chafodd ei adael mewn dagrau, yn anffodus."
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.30pm.
Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.