Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich 5 Mawrth
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Yn ei fis olaf yn y swydd, Mark Drakeford yn ateb cwestiynau arweinwyr y gwrthbleidiau ac ASau eraill.
Alun Jones
Dyna ddiwedd y Cwestiynau i'r Prif Weinidog.
Ymunwch â ni eto yr wythnos nesaf.
Mae Delyth Jewell o Blaid Cymru yn cyfeirio at waddol amgylcheddol cloddio am lo.
Mae'r prif weinidog yn nodi bod 2,566 o domenni glo segur yng Nghymru, sef tua 40 y cant o holl domenni glo Prydain.
Ychwanegodd, "mae diogelwch cymunedol yn greiddiol i'n rhaglen diogelwch tomenni glo, gan gynnwys trefn archwilio a chynnal a chadw a Mesur [seneddol] newydd ar domenni glo segur".
Dywed Delyth Jewell bod "y tomenni glo, y sbwriel sy'n dal i dywyllu ein gorwelion - mae'r tomenni hynny yn atgof parhaol o ddirmyg San Steffan tuag at Gymru, oherwydd er eu bod cyn datganoli, mae llywodraeth y DU yn gwrthod talu tuag at eu clirio, tuag at eu gwneud yn ddiogel, gan atal Aberfan arall rhag digwydd".
Atebodd y prif weinidog, "mewn oes o newid hinsawdd, nid yw'r tomennydd sydd ar ôl bellach yn ddiogel ar gyfer y dyfodol. Dyna pam yr ydym yn buddsoddi £44 miliwn ein hunain mewn gwytnwch tomennydd glo ledled Cymru. Rydym wedi gofyn i lywodraeth y DU am gyfraniad at hynny; nid ydym wedi gofyn iddynt ariannu’r cyfan. Mewn gwirionedd, rydym wedi gofyn iddynt am £20 miliwn i gyfateb i'r £44 miliwn y bydd y Senedd hon yn ei ddarparu; a daw'r ateb yn ôl na fyddant yn gwneud hynny."
Mae'r Ceidwadwr Paul Davies yn codi pryderon am amseroedd ymateb ambiwlansys, gan gyfeirio at achos trasig etholwr.
"Cysylltodd etholwr â mi a ddywedodd wrthyf fod ei merch-yng-nghyfraith wedi aros dros awr a hanner am ambiwlans ar ôl cael trawiad ar y galon ar Noswyl Nadolig. Yn anffodus, bu farw yn 40 oed, gan adael dwy o blant bach, ac mae’r teulu’n gwbl bendant, pe bai’r ambiwlans wedi cyrraedd yn amserol, yna byddai hi wedi goroesi. Rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno â mi felly fod hynny’n gwbl warthus, ac mae fy nghalon yn mynd allan i'r teulu".
Mae’r prif weinidog yn ateb, “yn gyntaf oll i gytuno â’r hyn a ddywedodd Paul Davies am y trallod y bydd y teulu’n ei brofi, ac, wrth gwrs, mae angen ymchwilio i’r amgylchiadau y mae’n adrodd amdanynt ac mae angen darparu atebion i’r teulu”.
Yn fwy cyffredinol, dywed y prif weinidog fod "Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud y pethau yr ydym wedi'u gwneud yn ddiweddar: buddsoddi yn y gwasanaethau ambiwlans. Mae mwy o bobl yn gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans nag erioed o'r blaen. Rydym yn buddsoddi yn yr offer sydd gan y gwasanaeth, ac rydym yn buddsoddi yn y gwasanaethau ychwanegol hynny sy'n ceisio gwneud yn siŵr mai dim ond yn yr amgylchiadau hynny pan mai ambiwlans yw'r ateb cywir y caiff ambiwlansys eu defnyddio."
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn gofyn a yw'r prif weinidog yn derbyn ei fod "nid yn unig yn anghywir, ond hefyd yn torri rheolau ei lywodraeth ei hun" i unrhyw weinidog neu was sifil yn Llywodraeth Cymru ddileu negeseuon WhatsApp yn ystod y pandemig.
Dywed Mr Drakeford y bydd yn ateb cwestiynau o'r fath pan fydd yn ymddangos gerbron yr ymchwiliad Covid yr wythnos nesaf. "Mae'r ymchwiliad yma i ofyn y cwestiynau hynny. Dyna pam ei fod yng Nghymru. Dydw i ddim yn mynd i gynnig rhagflas o'r cwestiynau a fydd yn cael eu gofyn i mi fel tyst i'r ymchwiliad".
Mae Rhun ap Iorwerth hefyd yn dweud bod peidio â chynnal ymchwiliad Covid benodol i Gymru yn gamgymeriad difrifol gan y prif weinidog.
“Mae pob darn o dystiolaeth a gyhoeddwyd, pob tystiolaeth a gyflwynwyd yn ystod y tair wythnos hon - neu hyd yn hyn yn yr ymchwiliad Covid hwn - yn cryfhau’r achos, rwy’n credu, ar gyfer yr ymchwiliad Covid benodol hwnnw i Gymru. Ac mae'r hyn rydym yn ei glywed, wrth gwrs, dim ond yn crafu'r wyneb," meddai Rhun ap Iorwerth.
Atebodd y prif weinidog, “nid wyf yn meddwl y byddai ymchwiliad Cymreig penodol yn rhoi’r atebion i deuluoedd yng Nghymru i’r cwestiynau y maent yn eu gofyn yn gwbl briodol, ac yr wyf yn benderfynol o helpu i ddod o hyd i’r atebion hynny. Ac yr wyf yn anghytuno’n llwyr ag ef.
"Rwy'n meddwl bod pob tyst o flaen yr ymchwiliad yn dangos na allech ddeall y camau a gymerwyd yng Nghymru ar wahân i'r penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud mewn mannau eraill. Ac yn syml, ni fyddai ymchwiliad sy'n benodol i Gymru yn gallu ymchwilio i'r cysylltiadau hynny."
Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gofyn am eglurhad o ddefnydd y prif weinidog o WhatsApp yn dilyn gwybodaeth a ddatgelwyd yn yr ymchwiliad Covid.
Mae'r prif weinidog yn dweud y bydd yn ateb unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â'r ymchwiliad pan fydd yn ymddangos ger ei fron yr wythnos nesaf.
Ond mae’n cyfeirio at y datganiad a wnaeth ym mis Tachwedd, lle eglurodd fod WhatsApp wedi’i osod ar ei ffôn a roddwyd iddo gan y Senedd - ar ôl iddo ddweud wrth Senedd Cymru i ddechrau nad oedd yn ei ddefnyddio - ond nad yw'n defnyddio'r ap i anfon negeseuon yn rheolaidd.
"Rwy'n dyst yn ymchwiliad Covid. Byddaf yn ateb eu cwestiynau, pa bynnag bwyntiau y maent yn eu rhoi i mi. Nid wyf yn mynd i gynnig rhagolwg o'r hyn a ddywedaf i'r ymchwiliad. Byddaf yn talu'r ymchwiliad y parch yr wyf yn meddwl ei fod yn haeddu, a rhoddaf fy atebion iddynt fel tyst," medd y prif weinidog.
Gofynnodd Mr Davies gwestiwn arall a oedd Mr Drakeford yn ymwybodol bod cynghorwyr arbennig yn dileu negeseuon, ond gwrthododd Mr Drakeford ateb
Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gofyn “pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed i bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn y datganiad y cytunwyd arno yn yr uwchgynhadledd diwygio radical ym mis Rhagfyr 2022, dolen allanol?”
Atebodd Mr Drakeford ei fod yr wythnos diwethaf wedi mynychu "y drydedd uwchgynhadledd gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i adrodd iddynt ar ein hagenda diwygio radical. Buont yn dathlu'r cynnydd a wnaed eisoes drwy'r datganiad ac wedi gwneud cyfres o gynigion ar gyfer gweithredu pellach".
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau nifer y plant a phobl ifanc sy’n mynd i mewn i ofal ond ar gyfer y plant hynny sydd mewn gofal, mae “am iddynt aros yn agos at y cartref fel y gallant barhau i fod yn rhan o’u cymuned. Rhaid canolbwyntio ar gadw teuluoedd gyda’i gilydd, drwy roi cymorth cynnar a gwasanaethau cefnogi ar yr adeg iawn ar gyfer rhieni a phlant.”
Mae’r Ceidwadwr Peter Fox yn gofyn pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau sy'n wynebu ffermwyr Cymru.
Mae'r prif weinidog yn ateb bod "ffermwyr Cymru'n wynebu amrywiaeth o bwysau, gan gynnwys costau cynyddol, rhwystrau wedi Brexit, bargeinion masnach gelyniaethus ac effeithiau'r argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym eisiau dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru ac yn parhau i weithio gydag eraill i'w gyflawni".
Mae Mr Fox yn rhybuddio y "bydd llawer yn dewis gadael y diwydiant, yn enwedig ein cymuned o ffermwyr hŷn”.
Mae’r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy dadleuol yn cau ar 7 Mawrth.
Byddai'r cynigion yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr ymrwymo 10% o dir amaethyddol i'w ddefnyddio ar gyfer coed a 10% ar gyfer cynefinoedd bywyd gwyllt.
Yr wythnos diwethaf, bu miloedd o ffermwyr yn protestio y tu allan i'r Senedd yn erbyn cynlluniau Llywodraeth Cymru.
Prynhawn da, croeso i'n darllediad byw o'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog, sy'n dechrau am 1.00pm.
Oherwydd prysurdeb yr amserlen, a chynnal Pwyllgor o’r Senedd Gyfan i drafod Cam 2 y Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) y prynhawn yma, mae’r pwyllgor busnes wedi cytuno i ddechrau’r cyfarfod llawn am 13:00 o’r gloch heddiw yn hytrach na’r 13.30 arferol.
Cynhelir y cyfarfod llawn ar ffurf hybrid, gyda rhai aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.