Crynodeb

  • Vaughan Gething i olynu Mark Drakeford fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru

  • Yr arweinydd newydd fydd y pumed i arwain llywodraeth ddatganoledig Cymru

  • Canlyniad y bleidlais yn agos - 51.7% i 48.3%

  • Vaughan Gething yn cael ei enwebu yn y Senedd i fod yn brif weinidog newydd Cymru ganol wythnos

  • Yr arweinydd newydd yn dweud yn ei araith mai fe "fydd yr arweinydd du cyntaf i arwain gwlad yn Ewrop"

  1. Enillydd heddiw yn bumed arweinydd llywodraeth ddatganoledig Cymruwedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Bydd enillydd heddiw yn bumed arweinydd llywodraeth ddatganoledig Cymru ers i bwerau dros faterion fel addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol gael eu trosglwyddo yn 1999.

    Bydd Jeremy Miles neu Vaughan Gething yn dilyn yn ôl traed Alun Michael, Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Mark Drakeford.

    Alun Michael oedd arweinydd cyntaf llywodraeth ddatganoledig CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Alun Michael oedd arweinydd cyntaf llywodraeth ddatganoledig Cymru

  2. Y ddau ymgeisydd wedi diolch am bob cefnogaethwedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    X (Twitter gynt)

    Fe ddaeth y cyfnod pleidleisio i ben ddydd Iau, 14 Mawrth ac yn dilyn hynny fe wnaeth y ddau ymgeisydd ddiolch am bob cefnogaeth ar eu cyfrif X.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
  3. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng maniffestos Gething a Miles?wedi ei gyhoeddi 09:31 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Ras agos yw hi rhwng Jeremy Miles a Vaughan Gething i olynu Mark Drakeford fel arweinydd y blaid a phrif weinidog.

    Mae'r ddau wedi cyhoeddi eu maniffestos ar gyfer yr arweinyddiaeth.

    Dau wleidydd o dir canol y blaid ydyn nhw, a gyda'r ddau yn weinidogion yn yr un llywodraeth, mae 'na lot yn gyffredin rhwng y ddwy ddogfen.

    Ond maen nhw'n cynnig polisïau gwahanol mewn rhai meysydd.

    Darllenwch yma.

  4. Pwy sy'n cael pleidleisio?wedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Roedd unrhyw aelod o'r blaid yng Nghymru neu sefydliadau sy'n gysylltiedig â Llafur, megis undebau llafur, yn gallu pleidleisio.

    Nid yw'r blaid yn datgelu faint o bobl sy'n aelodau o Lafur Cymru, ond yn ôl ffynonellau mae tua 16,000.

    Credir bod tua 100,000 yn gallu pleidleisio ond mae disgwyl mai cyfran fach o'r nifer yna sydd wedi pleidleisio.

    Roedd yr aelodau yn medru pleidleisio drwy'r post neu ar-lein rhwng 16 Chwefror a 14 Mawrth.

    Geting a MilesFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Y diweddaraf: Pwy fydd arweinydd nesaf Llafur Cymru?wedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich 16 Mawrth

    Mae enillydd etholiad arweinyddiaeth Llafur Cymru - a'r dyn sydd ar fin dod yn brif weinidog newydd Cymru - yn cael ei gyhoeddi bore 'ma.

    Mae Vaughan Gething a Jeremy Miles wedi bod yn cystadlu i olynu Mark Drakeford, sy'n rhoi'r gorau iddi yn swyddogol yr wythnos nesaf.

    Bydd swyddogion y Blaid Lafur yn datgan canlyniad yr etholiad yng Nghaerdydd.

    Y diweddaraf ar ein llif byw. Croeso aton ni.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe fydd yr enillydd yn olynu Mark Drakeford a welir yma yn siarad wedi iddo fe ennill y ras i fod yn arweinydd yn 2018