Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth
Diolch i chi am ymuno gyda ni ar gyfer diwrnod ethol Vaughan Gething yn Brif Weinidog Cymru.
Hwyl fawr.
ASau yn pleidleisio i ethol Vaughan Gething yn brif weinidog Cymru.
Diolch i chi am ymuno gyda ni ar gyfer diwrnod ethol Vaughan Gething yn Brif Weinidog Cymru.
Hwyl fawr.
Dywedodd Mr Gething mai ef oedd "arweinydd cyntaf fy mhlaid - ac yn wir fy ngwlad - gydag ap yn ei enw".
Ei enw llawn yw Humphrey Vaughan ap David Gething, er ei fod yn defnyddio Gething fel cyfenw.
Elliw Gwawr
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Er gwaetha'r anniddigrwydd ymysg rhai aelodau Llafur ynglŷn â'r rhoddion ariannol i ymgyrch Vaughan Gething, roedd ganddo gefnogaeth y grŵp Llafur cyfan.
Roedd rhaid i bob un ddweud ei enw ar lafar, ac roedd yna foment o oedi cyn i Lee Waters (un o gefnogwyr Jeremy Miles) ddatgan ei fod yn cefnogi Mr Gething.
Ond yn y pendraw fe bleidleisiodd pob un ohonyn nhw dros Vaughan Gething, heblaw am Jenny Rathbone oedd yn absennol.
Pan wnaed y cyhoeddiad roedd cymeradwyaeth yn y siambr a bloedd o gefnogaeth o'r galeri cyhoeddus.
Wrth ymateb i ethol Vaughan Gething yn Brif Weinidog Cymru, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: “Rwy’n llongyfarch Vaughan Gething ar dderbyn cymeradwyaeth y Senedd i fod yn brif weinidog nesaf Cymru.
“Mae gan Vaughan gyfle nawr am ddechrau newydd, i gael gwared ar brosiectau gwagedd Llafur a chyflawni ar gyfer ein GIG, ein hysgolion a theuluoedd ar hyd a lled Cymru.
“Mae ein neges i Vaughan yn glir: Os ydych yn barod i gael gwared ar gynlluniau ar gyfer mwy o wleidyddion, i gael gwared ar y terfyn cyflymder 20mya, a chael gwared ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel y mae yn ei ffurf bresennol, byddwn yn gweithio gyda chi i gyflawni blaenoriaethau’r bobl.”
Wrth ymateb i Vaughan Gething yn dod yn Brif Weinidog Cymru, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, “Rwy’n llongyfarch Vaughan Gething ar ddod yn Brif Weinidog Cymru ac yn dymuno’n dda iddo.
“Mae’n etifeddu heriau sylweddol o ganlyniad i record Llafur mewn llywodraeth yng Nghymru, ynghyd â llymder y Torïaid.
“Mae economi sy’n pallu, rhestrau aros hirach y GIG a safonau addysgol sy’n gostwng yn etifeddiaeth o lywodraeth gyfunol y mae’r prif weinidog newydd wedi chwarae rhan ganolog ynddi ers dros ddegawd."
Dywedodd Vaughan Gething wrth ASau, gan ddefnyddio'r Gymraeg yn ei frawddeg gyntaf, "Diolch Dirprwy Lywydd, a diolch i aelodau sydd wedi cefnogi fy enwebiad heddiw".
Aeth yn ei flaen: "Bydd Cymru heddiw a’r dyfodol yn eiddo i bob un o’r bobl weddus hynny sy’n cydnabod y dylai ein senedd a’n llywodraeth edrych fel ein gwlad.
"Pobl sy’n cydnabod bod ein gobaith a’n huchelgais ar gyfer y dyfodol yn dibynnu ar ryddhau talent pob un ohonom.
"Cymru sy’n cydnabod y gallwn ddathlu ein gwahaniaethau ac ymfalchïo ym mhob un o’r pethau hynny sy’n ein tynnu at ein gilydd ac yn ein gwneud yr hyn ydym.
"Dyna’r Gymru yr wyf am ei harwain. Cymru llawn gobaith, uchelgais ac undod."
Bydd enw Vaughan Gething nawr yn mynd i'r Brenin i'w gymeradwyo.
Ar ôl i'r Brenin ymateb gall Mr Gething dyngu llw a dechrau penodi cabinet.
Mae'r Dirprwy Lywydd David Rees yn cyhoeddi bod Vaughan Gething wedi cael ei ethol yn brif weinidog Cymru.
Cafwyd 51 pleidlais:
27 i Vaughan Gething
13 i Andrew RT Davies
11 Rhun ap Iorwerth
Mae Plaid Cymru yn enwebu eu harweinydd Rhun ap Iorwerth i fod yn brif weinidog.
Mae'r Ceidwadwyr yn enwebu eu harweinydd, Andrew RT Davies i fod yn brif weinidog.
Mae Llafur yn enwebu Vaughan Gething i fod yn brif weinidog.
Mae aelodau fel arfer yn pleidleisio drwy'r dechnoleg ar eu desgiau yn y siambr.
Ond pan ddaw at dasg bwysicaf y Senedd, o bosibl, – penodi prif weinidog – maen nhw’n defnyddio dull hen ffasiwn: dweud enw ar lafar.
Gan fod gornest am y swydd, mae galwad gofrestr gydag aelodau yn cymryd eu tro i alw eu dewis ymgeisydd.
Y tro diwethaf i hyn ddigwydd, yn 2016, fe wnaeth ASau fethu dewis prif weinidog newydd.
Fe gafodd Carwyn Jones ei gefnogi gan ei blaid ei hun a Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac fe gafodd Leanne Wood gefnogaeth Plaid Cymru, Y Ceidwadwyr Cymreig ac UKIP.
Fe gafodd Mr Jones a Ms Wood 29 pleidlais yr un.
Prynhawn da, croeso i'n llif byw ar ddiwrnod ethol prif weinidog Cymru.
Fe fydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Mark Drakeford a ffarweliodd yn emosiynol ddoe ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.
Enillodd Vaughan Gething etholiad arweinyddiaeth Llafur Cymru o drwch blewyn i olynu Mr Drakeford, ond mae cwestiynau wedi bod am roddion ariannol i'w ymgyrch.
Mae ymddiswyddiad Mark Drakeford fel prif weinidog wedi ei gadarnhau'n ffurfiol.
Mae llywydd y Senedd, Elin Jones, wedi dweud bod y Brenin wedi derbyn ei ymddiswyddiad.
Bydd y broses o enwebu ei olynydd yn dechrau yn y siambr am 1.30pm - gallwch wylio ein darllediad trwy glicio ar y botwm chwarae uchod.