Crynodeb
Lauren Price yw'r ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth bocsio byd. Fe drechodd Jessica McCaskill o Chicago ym mis Mai eleni i hawlio pencampwriaeth pwysau welter y WBA.
Heno mae'r focswraig 30 oed o Ystrad Mynach yn wynebu Bexcy Mateus yng Nghanolfan Exhibition, Lerpwl.
Pe bai Price yn fuddugol, fe allai arwain at gyfle i herio enillydd prif ornest y noson wrth i'r bencampwraig Natasha Jonas wynebu Ivana Habazin ar gyfer teitlau pwysau welter IBF a WBC.
Tîm sylwebu: Dylan Griffiths a Ioan Croft. Cloch gyntaf: Ar ôl 20:00