Crynodeb

  • Eluned Morgan wedi'i hethol yn Brif Weinidog Cymru - y fenyw gyntaf i fod yn y swydd

  • Huw Irranca-Davies sydd wedi'i gadarnhau fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru

  • Y Senedd wedi’i hadalw o doriad yr haf ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo

  • Aelodau'r Senedd wedi ymgynnull yn y Senedd am 11:00 ar gyfer cyfarfod a barodd ychydig dros hanner awr

  • Cafodd gefnogaeth gan 28 Aelod Seneddol - cafodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies 15 pleidlais a Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru 12

  • Mae ei henw yn awr yn mynd at y Brenin am gymeradwyaeth derfynol

  • Ms Morgan yn debygol o enwi ei chabinet yn y dyddiau nesaf

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Dyna ni o Fae Caerdydd am heddiw wrth i Eluned Morgan gael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru.

    Mae'n creu hanes gan mai hi yw'r fenyw gyntaf i gael y swydd.

    Daw ychydig wythnosau ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo yn sgil misoedd anodd iddo ar lefel bersonol, a hefyd i'r Blaid Lafur yng Nghymru.

    A oes cyfnod o sefydlogrwydd i ddod felly? Amser a ddengys...

    Yn y cyfamser, darllenwch ein stori ni sy'n crynhoi prif ddigwyddiadau'r dydd.

    Tan y tro nesa', diolch am ddilyn a hwyl fawr.

    Plaid unedig? Aelodau o'r Senedd Llafur yn y Senedd gyda'i gilydd ddydd MawrthFfynhonnell y llun, George Thompson/PA Wire
    Disgrifiad o’r llun,

    Plaid unedig? Aelodau o'r Senedd Llafur yn y Senedd gyda'i gilydd ddydd Mawrth

  2. Morgan i arwain 'llywodraeth unedig ac uchelgeisiol'wedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Llywodraeth y DU

    Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media

    Mae Syr Keir Starmer hefyd wedi llongyfarch Eluned Morgan.

    Dywedodd Prif Weinidog y DU fod ganddi "hanes hir o wasanaethu cyhoeddus ac mae ei hymrwymiad i gyflawni dros bobl Cymru yn ddiwyro".

    Fe ddywedodd Mr Starmer ei fod yn credu y bydd Ms Morgan yn arwain llywodraeth "unedig ac uchelgeisiol" bydd yn gweithio "ochr yn ochr" efo llywodraeth San Steffan.

    Ychwanegodd: "Yn y bennod newydd yma, byddant yn cyflawni twf ym mhob rhan o'n gwledydd ac yn cyflawni'r ansawdd uchel o wasanaethau cyhoeddus y mae pobl yn eu haeddu."

  3. Llongyfarch Morgan ar 'greu hanes'wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Jo StevensFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dywedodd Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Cymru, fod "Eluned yn creu hanes hir-ddisgwyliedig heddiw".

    "Gan ddod â 30 mlynedd o brofiad gwleidyddol helaeth i’r rôl, mae Eluned yn arweinydd tosturiol, pragmatig a fydd yn gwrando’n ofalus ac yn cyflawni gydag argyhoeddiad.

    "Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Eluned i wireddu dyfodol disglair, uchelgeisiol i Gymru.

    "Bydd dwy lywodraeth Lafur, gan weithio gyda'i gilydd, yn cyflawni ar flaenoriaethau pobl ledled Cymru."

  4. Eluned Morgan am 'chwalu nenfydau gwydr'wedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Disgrifiad,

    Eluned Morgan: 'Dwi'n cario gyda fi doethineb menywod di-ri - llawer heb y gydnabyddiaeth maen nhw'n ei haeddu'

    Dywedodd Eluned Morgan wrth ASau ei bod yn edrych ymlaen at y diwrnod pan fydd "menyw yn dod yn brif weinidog bellach ddim yn rhywbeth anghyffredin ond yn rhan arferol o'n bywyd gwleidyddol Cymreig".

    Dywedodd wrth ferched oedd yn gwylio digwyddiadau heddiw ym Mae Caerdydd: "Mae angen i chi wybod bod eich potensial yn ddi-ben-draw.

    "Nid posibilrwydd yn unig yw llwybr yr arweinyddiaeth bellach - mae’n realiti."

    Ar ôl cyfnod o ymladd o fewn y grŵp Llafur Cymreig, fe wnaeth Ms Morgan addo gwrando ar bobl Cymru.

    "Gwrando ar bawb," meddai, "nid dim ond y rhai sy'n gweiddi uchaf neu sydd â'r pŵer mwyaf."

  5. Jane Dodds: 'Angen ail-adeiladu ymddiriedaeth'wedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar y prif weinidog newydd i ail-adeiladu ymddiriedaeth yng ngwleidyddiaeth Cymru.

    Fe wnaeth yr arweinydd Jane Dodds AS longyfarch Eluned Morgan gan ddweud ei bod hi "wrth fy modd yn gweld menyw arall yn arwain y ffordd yng ngwleidyddiaeth Cymru".

    Ond mae’r aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi galw ar Ms Morgan i ail-adeiladu'r ymddiriedaeth sydd, meddai, wedi cael ei golli yn y misoedd diwethaf.

    Dywedodd Ms Dodds y byddai ei phlaid yn gwthio’r llywodraeth newydd i sicrhau fod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth iechyd pan maen nhw ei angen.

    Fe wnaeth Ms Dodds ymatal rhag pleidleisio.

    Jane DoddsFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. 'Undod i Lafur, nid i Gymru'wedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Plaid Cymru

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth nad oedd hyn wedi bod yn “drosglwyddiad trefnus” o un prif weinidog i’r llall ond yn ganlyniad ffraeo a sgandalau mewnol y blaid Lafur.

    Dywedodd Mr ap Iorwerth nad oedd Llafur wedi gallu canolbwyntio ar wasanaethu pobl Cymru o ganlyniad.

    Heriodd Mr ap Iorwerth y Prif Weinidog newydd ar record ei phlaid ei hun ar y GIG, addysg a’r economi ac addawodd ddwyn y llywodraeth Lafur i gyfrif cyn etholiadau’r Senedd yn 2026.

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images

    "Gwnaeth y Prif Weinidog newydd yn glir ei bod yn cynnig ei hun fel ymgeisydd undod ond yn amlwg undod i Lafur oedd hynny, nid i Gymru.

    "Nid oes gennym unrhyw syniad o hyd o flaenoriaethau’r Prif Weinidog newydd na’r hyn y mae am ei wneud yn y Llywodraeth.

    "A wnaiff hi ailosod y berthynas rhwng Llywodraethau Cymru a’r DU mewn modd ystyriol? O ran ariannu teg, Ystad y Goron, HS2, datganoli trosedd a chyfiawnder, sut mae hi'n bwriadu sefyll i fyny dros Gymru?"

    Ychwanegodd: "Nid yw mwy o'r un peth yn opsiwn bellach."

  7. Cadarnhau mai Huw-Irranca fydd ei dirprwywedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae Eluned Morgan wedi cydnabod yr anhawster yr oedd Llafur Cymru wedi'i wynebu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.

    Dywedodd wrth y Senedd: "Mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn anodd ac rydyn ni wedi bod trwy dipyn o helbul.

    "Ond rydyn ni'n gwybod ein bod ni ar ein gorau pan rydyn ni'n gweithio mewn undod fel plaid ac fel cenedl."

    Dywedodd y Prif Weinidog newydd y bydd "ffocws ei llywodraeth yn gadarn ar Gymru a'i phobl, gan wrando ar yr hyn y mae pobl ei eisiau a chyflawni ym mhob cornel o'r genedl fawr hon".

    Cadarnhaodd hefyd mai Huw Irranca-Davies fyddai ei dirprwy brif weinidog, gan ei ddisgrifio fel dyn "impressive", gan ychwanegu: "Allwn i ddim gofyn am bartner gwleidyddol mwy galluog."

    Huw Irranca-Davies fyddai ei dirprwy brif weinidogFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Huw Irranca-Davies sydd wedi'i gadarnhau fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru

  8. 'Anrhydedd fwyaf fy mywyd'wedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Dywedodd Eluned Morgan mai "anrhydedd fwyaf fy mywyd oedd sefyll o'ch blaen chi heddiw fel y fenyw gyntaf i ddod yn Brif Weinidog Cymru".

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Senedd
  9. 'Llafur wedi bod mor brysur yn brwydro'wedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Andrew RT Davies
    Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

    Mewn ymateb i ethol Eluned Morgan, dywedodd Andrew RT Davies AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn llongyfarch Eluned Morgan ar ei hethol yn Brif Weinidog Cymru.

    "Am y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod mor brysur yn brwydro fel ei bod wedi esgeuluso ein gwasanaethau cyhoeddus ymhellach, ac mae ar Gymru angen rhywun yn y swydd orau nawr a all leihau ein rhestrau aros, gwella cyrhaeddiad addysgol a gwella ein heconomi.

    "Yn anffodus, ar sail ei record, does fawr o reswm i gredu mai Eluned Morgan fydd y person hwnnw."

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Ethol Eluned Morgan yn brif weinidogwedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst
    Newydd dorri

    Mae Eluned Morgan wedi'i hethol yn Brif Weinidog Cymru.

    Cafodd bleidlais gan 28 Aelod Seneddol - cafodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies 15 pleidlais a Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru 12.

    Mae ei henw yn awr yn mynd at y Brenin am gymeradwyaeth derfynol.

  11. Beth fydd blaenoriaethau Eluned Morgan?wedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Teleri Glyn Jones
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Yn gyntaf bydd yn rhaid i Eluned Morgan apwyntio ei chabinet - mae disgwyl i hynny ddigwydd yn y dyddiau nesaf. Ac wedyn, wrth gwrs, mae'r gwaith yn dechrau...

    Mae 'na heriau sylweddol o flaen y llywodraeth newydd - dim llai na'r problemau o fewn y gwasanaeth iechyd. Yr adran mae Eluned Morgan wedi bod yn gyfrifol amdani ers tair blynedd bellach, wrth gwrs.

    A gyda diswyddiadau sylweddol ar y gorwel yn y diwydiant dur, mewn cyd-destyn o greisis costau byw, mae 'na heriau economaidd o'u blaenau hefyd.

    Mae gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau ac mae angen datrys yr anghydfod ynglŷn â pholisi amaeth y llywodraeth - a hyn oll heb sôn am y gwleidyddiaeth.

    Yr her wleidyddol fawr o'i blaen ydy trwsio'r rhwygiadau dyfn o fewn ei phlaid wnaeth arwain Llafur i'r pwynt yma.

    Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn anodd i'r blaid, ac mi fydd angen uno'r grŵp unwaith eto, er mwyn dod â'r ddisgyblaeth mae'r grŵp ym Mae Caerdydd mor enwog amdano yn ôl.

  12. Pwy yw Eluned Morgan?wedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Reuters
    Disgrifiad o’r llun,

    Eluned Morgan, yn 27 oed, yn Senedd Ewrop yn Strasbwrg ym mis Gorffennaf 1994

    Pan ymunodd â Senedd Ewrop yn 1994, Eluned Morgan oedd y bumed fenyw yn unig o Gymru erioed i gael ei hethol i unrhyw senedd.

    Yn 27 mlwydd oed, Ms Morgan oedd aelod ieuengaf y senedd ar y pryd hefyd, a hi oedd y gwleidydd Cymreig gyntaf i roi genedigaeth tra yn y swydd.

    Am 15 mlynedd ar ôl hynny, coridorau Brwsel a Strasbwrg oedd ei chartref gwleidyddol.

    Darllenwch broffil llawn ohoni yma.

  13. Morgan i 'ddeall anghenion merched'wedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Beth yw barn Eisteddfodwyr am benodiad anochel Eluned Morgan?

    Aeth Cymru Fyw draw i babell Merched y Wawr.

    (Cofiwch ein bod ni hefyd yn rhedeg llif byw arbennig o Faes yr Eisteddfod heddiw, fel bob diwrnod arall yr wythnos hon.)

    Disgrifiad,

    Penodi Eluned Morgan yn "dda i hybu mwy o fenywod i'r Senedd"

  14. Beth sy'n digwydd heddiw?wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Does dim disgwyl i gyfarfod y Senedd heddiw bara mwy na rhyw hanner awr.

    Yn gyntaf, bydd y Llywydd Elin Jones yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Prif Weinidog nesaf Cymru.

    Bydd grŵp Llafur yn cyflwyno enw Eluned Morgan, tra bod disgwyl i’r grŵp Ceidwadol a grŵp Plaid Cymru enwebu eu harweinwyr nhw.

    Yna, fesul un ac yn nhrefn yr wyddor, bydd pob aelod o’r Senedd yn datgan pwy maen nhw’n ei gefnogi.

    Bydd rhai aelodau’n cymryd rhan o bell, gydag ambell un dramor.

    Enw’r unigolyn gyda’r nifer fwyaf o bleidleisiau fydd yn cael ei anfon at y Brenin i’w gymeradwyo.

    Oherwydd mathemateg y Senedd, ble Llafur ydy’r grŵp mwyaf, mae hi bron yn sicr taw enw Eluned Morgan fydd y person hwnnw.

  15. 'Morgan yn weinidog iechyd dan amgylchiadau anodd'wedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Fe gafodd Eluned Morgan ei phenodi'n Weinidog Iechyd Cymru ym mis Mai 2021 - ar ddiwedd ail don Covid.

    Erbyn hynny roedd tua dwy ran o dair o unigolion wedi derbyn eu brechiadau Covid cyntaf, felly roedd bygythiad uniongyrchol y feirws i fywyd yn gostwng.

    Ond roedd ôl-effeithiau anferth tonnau cynta'r pandemig ar y gwasanaeth iechyd yn dod yn fwyfwy amlwg.

    Roedd staff wedi blino'n lân wrth i restrau aros dyfu'n sylweddol oherwydd bod cymaint o driniaethau wedi cael eu gohirio.

    Yn ogystal roedd y straen ar fin cynyddu ymhellach gyda chleifion, oedd efallai wedi dewis cadw draw oherwydd Covid, yn dychwelyd i'r system.

    Gweinidog Iechyd Cymru Eluned Morgan yn siarad yn ystod cynhadledd i'r wasg coronafeirws yn Adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays ar Ionawr 11, 2022 yng Nghaerdydd, CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Eluned Morgan yn siarad fel Gweinidog Iechyd Cymru yn ystod cynhadledd i'r wasg coronafeirws yn Ionawr 2022

    Dyma i chi amgylchiadau gyda'r anoddaf y gallai unrhyw weinidog iechyd newydd eu hwynebu.

    Yn fuan ar ôl cymryd yr awenau fe wnaeth Ms Morgan gydnabod maint digynsail yr her - ond nododd y byddai gostwng rhestrau aros yn flaenoriaeth iddi.

    Ychydig ar ôl hynny cyhoeddodd gynllun yn cynnwys cyfres o dargedau - sydd wedi'u methu eisoes neu yn debygol o gael eu methu.

  16. Beth sydd wedi digwydd hyd yma?wedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Fe gafodd Eluned Morgan ei phenodi yn ddi-wrthwynebiad fel arweinydd Llafur Cymru fis diwethaf.

    Ond cyn bod modd ei chadarnhau fel prif weinidog mae'n rhaid cynnal pleidlais ymhlith aelodau'r o'r Senedd.

    Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds wedi dweud na fydd hi'n pleidleisio, sy'n golygu y bydd modd i'r grŵp Llafur ethol Ms Morgan yn brif weinidog heb unrhyw broblem.

    Roedd Ms Morgan wedi sicrhau cefnogaeth 26 o'r 30 aelod Llafur yn y Senedd.

  17. Beth ddigwyddodd i Vaughan Gething?wedi ei gyhoeddi 10:07 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Fe ddywedodd Vaughan Gething ei fod yn bwriadu ildio'r swydd wedi i bedwar aelod blaenllaw o'i lywodraeth ymddiswyddo dros nos.

    Roedd Mr Gething dan gwmwl gydol ei gyfnod fel prif weinidog oherwydd rhoddion dadleuol o £200,000 i'w ymgyrch arweinyddol gan gwmni troseddwr amgylcheddol.

    Fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder ynddo wedi i ddau AS Llafur fethu â'i gefnogi.

    Cododd ffrae hefyd wedi i Mr Gething ddiswyddo un o'i weinidogion, Hannah Blythyn, am rannu negeseuon testun gyda'r wasg - honiad y mae hi'n ei wadu.

    Ymddiswyddodd Mr Gething, AS De Caerdydd a Phenarth, wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd.

    Roedd Mr Gething wedi bwriadu aros ymlaen tan fis Medi, ond ni fydd hynny'n digwydd bellach gan mai Ms Morgan oedd yr unig ymgeisydd i'w olynu.

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Daeth y cyhoeddiad bod Vaughan Gething yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru, cwta bedwar mis ers iddo gael ei benodi

  18. Croesowedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Bore da a chroeso i lif byw arbennig ar ddiwrnod hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru.

    Mae disgwyl i Eluned Morgan gael ei hethol yn brif weinidog yn swyddogol yn ddiweddarach bore 'ma.

    Yr ysgrifennydd iechyd, a ddaeth yn arweinydd Llafur Cymru fis diwethaf, fydd y fenyw gyntaf i fod yn y swydd.

    Mae’r Senedd wedi’i hadalw o doriad yr haf ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo.

    Gall Aelodau o’r Senedd ymuno yn y cyfarfod drwy gyswllt fideo, ac mae trefniadau wedi’u gwneud i ganiatáu iddynt gymryd rhan o dramor.