Crynodeb

  • Disgyblion ledled Cymru wedi bod yn derbyn eu canlyniadau TGAU

  • Llai wedi derbyn y graddau uchaf, wrth i'r patrwm arholi ddychwelyd i fel oedd hi cyn y pandemig

  • Ond yn wahanol i ganlyniadau Lefel A, mae canlyniadau A*-C TGAU ychydig yn is na’r flwyddyn cyn y pandemig

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Dyna'r cyfan gan ein criw ar y llif byw am heddiw - diwrnod mawr iawn i filoedd o bobl ifanc a fu'n derbyn eu canlyniadau TGAU.

    O ran y darlun cenedlaethol, mae llai wedi derbyn y graddau uchaf, wrth i'r patrwm arholi ddychwelyd i fel oedd hi cyn y pandemig.

    Ond yn wahanol i ganlyniadau Lefel A, mae canlyniadau A*-C TGAU ychydig yn is na’r flwyddyn cyn y pandemig.

    Gallwch ddarllen am y darlun llawn yn y stori ar ein hafan.

    Hwyl am y tro, ac i bawb sydd wedi derbyn eu canlyniadau, llongyfarchiadau!

  2. Cyngor gan Gyrfa Cymru am beth i wneud nesafwedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Prif neges Gyrfa Cymru heddiw yw dangos i bobl ifanc fod cymorth ar gael os ydyn nhw’n ansicr am beth i'w wneud nesaf.

    Gall pobl ifanc siarad â chynghorydd Cymru’n Gweithio a all eu helpu i ddarganfod eu camau nesaf, fel prentisiaeth, mynd i mewn i waith, hyfforddiant neu aros mewn addysg.

    Mae'r corff yn dweud fod llawer o opsiynau gwahanol ar gael i bobl ifanc ar ôl derbyn eu canlyniadau, diolch i Warant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru - o gymorth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.

    Os dydych chi ddim yn siŵr beth i’w wneud ac eisiau rhagor o gyngor, cysylltwch â Cymru’n Gweithio naill ai ar-lein neu drwy ffonio 0800 028 4844.

  3. Nid A* i bawb, ond digon o obaith i'r dyfodolwedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Rhaid cofio nad yw pawb yn cael canlyniadau A* heddiw. Yma, mae Rowan o Ysgol Gyfun Pencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr.

    Dywed Rowan bod ei ganlyniadau yn “waeth na’r disgwyl”.

    Roedd Rowan yn ddisgybl Blwyddyn 7 pan darodd y pandemig, a dywedodd ei fod wedi treulio’r rhan fwyaf o’r ddwy flynedd a ddilynodd yn “chwarae Fortnite yn fy ystafell”.

    Er y siom gyda'r canlyniadau fe lwyddodd Rowan gael yr hyn yr oedd ei angen i astudio gwaith coed, ac mae'n gobeithio cael prentisiaeth wedi hynny.

    rowan
  4. Perchennog cwmni coffi llwyddiannus wedi cael gradd D mewn Busneswedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Mae perchennog cwmni coffi, sy'n gwerthu ei gynnyrch yn Nhŷ'r Cyffredin a Selfridges, wedi dweud wrth BBC Cymru mai "dim ond rhan o’r stori" ydy canlyniadau arholiadau.

    Fe wnaeth Scott James o Rydaman, Sir Gâr, adael coleg chweched dosbarth ar ôl dim ond tri mis, a hynny wedi iddo "grafu" ei ffordd trwy TGAU.

    Dywedodd ei fod wedi derbyn cymysgedd o raddau B-D - ac un o'r graddau D hynny oedd ym mhwnc Busnes.

    Er hynny, mae Scott, 31, bellach yn rhedeg cwmni llwyddiannus Coaltown Coffee ers 11 mlynedd, ac yn dweud ei fod yn teimlo bod "gormod o bwyslais" o hyd ar addysg ffurfiol.

    Yn rhannu ei stori gyda BBC Cymru, dywedodd fod ei brofiadau ef yn dangos nad yw popeth yn dibynnu ar ganlyniadau arholiadau.

    Scott JamesFfynhonnell y llun, Coaltown Coffee
  5. Evie ac Ellie wrth eu boddauwedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Mae Evie ac Ellie o Ysgol Llangynwyd yn dweud eu bod yn hapus iawn gyda'u canlyniadau.

    Meddai Evie: "‘Da ni wedi bod yn nerfus drwy’r haf – ddim wir wedi gallu ymlacio… na chysgu!

    "Roedden ni'n eitha' ffodus gyda Covid, er iddo gael effaith. Roedden ni ym mlwyddyn 7-8 pan ddechreuodd ac erbyn i bethau fynd nôl i normal roedden ni ym mlwyddyn 10.

    "Felly doedd yr effaith ar ein TGAU ddim mor ddrwg â hynny, diolch byth."

    llangynwyd
    Disgrifiad o’r llun,

    Evie ar y chwith, ac Ellie ar y dde

    Mae Ellie'n talu teyrnged i athrawon Ysgol Llangynwyd: "Mae’r athrawon wedi bod yn gefnogol iawn.

    "Mae cael yr athrawon o gwmpas heddiw wedi bod yn ddefnyddiol oherwydd er bod gennym ni syniad beth rydyn ni eisiau ei wneud nesaf, ac yn amlwg wedi meddwl amdano trwy’r haf, mae’n wych eu cael nhw yma a siarad am yr holl opsiynau gyda ni rhag ofn y byddwn ni eisiau newid ein meddwl."

  6. Dathlu yn y glaw yn Glantafwedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Er gwaetha'r tywydd yn y brifddinas, mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn dathlu gyda aelodau o flwyddyn 11.

    YSGOL GLANTAFFfynhonnell y llun, x
    YSGOL GLANTAFFfynhonnell y llun, X
  7. Y pandemig 'wedi bod yn anodd iawn' i ddisgyblion TGAU eleniwedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Ychwanegodd Meurig Jones (post isod) bod y cyfnod clo hefyd wedi bod yn adeg heriol i’r disgyblion, a bod eu gwaith caled erbyn hyn yn cael ei "wobrwyo" ar ôl astudio "mewn cyfnod o anfantais".

    “Mae wedi bod yn anodd iawn iddyn nhw.

    "O fynd mewn i gyfnod clo a chael ei dysgu o bell, ac wedyn yn meithrin y sgiliau yna o ddod nôl mewn i’r ysgol - ailafael yn y Gymraeg i nifer fawr ohonyn nhw - ac felly beth 'da ni wedi gwneud yw bod yn barod i gynorthwyo nhw.

    "Does neb yn mynd i dynnu ffwrdd bod hwn wedi bod yn anodd i unigolion yn ystod y cyfnod yna.

    "Ond hefyd yn y ddwy, tair blynedd ddiwethaf mae pethau wedi bod cymaint mwy normal, a beth ni wedi gweld wedyn yw bod nhw eu hunain wedi dod nôl i’r ysgol ac wedi bod yn barod i ddysgu mewn ffordd wahanol, ond hefyd nawr yn cael eu gwobrwyo nawr mewn cyfnod o anfantais.

    “Be’ mae’r canlyniadau fel hyn nawr yn neud yw ma' fe’n agor drws arall - y drws nesa' 'na iddyn nhw i lwyddo ac i fynd 'mlaen at y dyfodol.”

  8. 'Diwedd cyfnod, ond edrych ymlaen i'r cam nesaf'wedi ei gyhoeddi 10:03 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Yn siarad gyda BBC Cymru y bore 'ma dywedodd pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Meurig Jones, fod diwrnod canlyniadau yn teimlo fel diwedd cyfnod i nifer.

    "Bob blwyddyn 'da ni'n edrych ymlaen i'r canlyniadau. Mae'n ddiweddglo ar gyfnod ysgol a edrych ymlaen i'r cam nesaf, wastad yn ddiwrnod cyffrous.

    "Be' 'da ni isio 'neud ydy sicrhau bod y dysgwyr yn cael y cymorth cywir ar gyfer y cam nesa', a dyna pam 'da ni'n cyfarfod nhw fesul un gydag aelod o staff i drafod eu canlyniadau a sicrhau bo' nhw'n dathlu eu canlyniadau a'u gwaith caled dros y ddwy flynedd 'ddwetha, a hefyd eu gyrfa ysgol hyd at nawr.

    "Fel ysgol 'da ni'n hapus iawn efo'n canlyniadau - maen nhw'n uwch nag oedden nhw nôl yn 2019, a be' ni hefyd yn gweld nawr ydy, yn raddol, mae'r canlyniadau yn gwella blwyddyn ar ôl blwyddyn."

    Meurig Jones
  9. Disgyblion hapus yn Ysgol Llangynwydwedi ei gyhoeddi 09:54 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Mae Poppy yn dweud ei bod hi'n hapus iawn gyda'i chanlyniadau - fe wnaeth hi basio ei arholiadau i gyd, gan gynnwys dwy A.

    "O'n i'n poeni'n fawr am Saesneg iaith a Chymraeg - ond dwi'n hapus iawn gyda'r canlyniadau," meddai.

    "Rydw i eisiau bod yn swyddog cyswllt teulu felly dwi isie mynd i'r chweched dosbarth i astudio seicoleg, troseddeg ac iechyd a chymdeithaseg.

    "Mi o'n i am fod yn weithiwr cymdeithasol ond dwi'n meddwl y bydd bod yn swyddog cyswllt yn fy siwtio'n well. Dwi methu aros!"

    TGAU
    Disgrifiad o’r llun,

    Poppy

    Cafodd Madoc 1A, 5B a 6C.

    "Dwi mor hapus gyda fy nghanlyniadau - o'n i'n disgwyl i grafu pasio ond dwi 'di gwneud yn well na be' o'n i'n feddwl! Mae mor annisgwyl!

    "Dwi ddim yn siŵr iawn beth i'w wneud nawr, ond dwi'n gwybod mod i am fynd 'mlaen i'r chweched dosbarth. Dwi mewn sioc!"

    TGAU
    Disgrifiad o’r llun,

    Madoc

  10. Beth yw'r patrwm graddau ers 2019 bellach?wedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Graff
  11. Graddau A*-C wedi gostwng o'i gymharu â 2019wedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Fel y disgwyl, mae lefel y graddau TGAU uchaf ar i lawr yng Nghymru ar ôl i’r gefnogaeth ychwanegol yn dilyn y pandemig ddod i ben eleni.

    Ond yn wahanol i’r hyn ddigwyddodd gyda Lefel A yr wythnos diwethaf - lle’r oedd y graddau’n uwch na rhai 2019 - mae nifer y graddau A* i C TGAU wedi gostwng ychydig o gymharu â’r flwyddyn cyn y pandemig.

    Mae rhai o’r graddau hyn yn cynnwys asesiadau ym mlwyddyn 10, gafodd eu cynnal dan y drefn fwy hael y llynedd.

  12. Canlyniadau wedi gostwng nôl i lefelau 2019wedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst
    Newydd dorri

    Mae canlyniadau TGAU yng Nghymru wedi gostwng nôl i lefelau 2019 ar ôl i’r cymorth ychwanegol i fyfyrwyr yn dilyn y pandemig ddod i ben.

    Ond yn wahanol i ganlyniadau Lefel A yr wythnos ddiwethaf - oedd yn uwch na rhai 2019 - mae canlyniadau A*-C TGAU ychydig yn is na’r flwyddyn cyn y pandemig.

    Derbyniodd 62.2% o ymgeiswyr raddau A* i C, o gymharu â 62.8% yn 2019.

    Y llynedd roedd y ffigwr yn 64.9%.

    Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle bod y canlyniadau “lle yr ydym ni’n disgwyl iddyn nhw fod gyda chanlyniadau yn debyg i rai 2019".

  13. 'Bendant yn nerfus ond wnes i fy ngorau'wedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Sut deimlad yw hi i fod yn ddisgybl yn disgwyl am ganlyniadau felly?

    Ceisio aros yn bositif mae Millie, 16 o'r Porth yn Rhondda Cynon Taf, sydd "bendant yn nerfus".

    Mae'n disgwyl cymysgedd o raddau ddydd Iau ar ôl amryw o dreialon yn ystod y cyfnod arholi - gan gynnwys gadael y neuadd ynghanol arholiad Saesneg gan nad oedd yn teimlo'n dda.

    Roedd sefyll arholiadau gyda ADHD (Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd) yn anodd oherwydd y newid i'r drefn arferol, felly i Millie "nid y gwaith rwy'n poeni amdano fe, ond sut ddes i i ben â'r arholiadau".

    Ei bwriad yw mynd nôl i'r chweched dosbarth i ddilyn cyrsiau Lefel A, ac o bosib ail-eistedd rhai pynciau TGAU.

    Ond beth bynnag y canlyniadau, mae hi'n falch "achos gwnes i fy ngorau".

    MillieFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  14. 'Pwysig mynd yn ôl i'r drefn arferol'wedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Mae Chris Parry (o'r post isod) hefyd yn llywydd undeb y prifathrawon NAHT Cymru.

    Dywedodd bod canlyniadau yn "fesur allweddol" o sefyllfa'r gyfundrefn addysg, ond bod heriau o'r pandemig yn dal i effeithio ar ysgolion.

    Mae'n anodd cymharu o flwyddyn i flwyddyn ar hyn o bryd, meddai, ond mae hi'n bwysig i'r drefn fynd nôl i'r arfer.

    "Dwi'n credu ar ryw bwynt roedden ni wastad yn mynd i orfod mynd nôl i ble'r oedden ni yn 2019 ac mae'n iawn ein bod ni'n gwneud hynny eleni," meddai.

    "Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig pwysleisio bod y myfyrwyr yma wedi colli llawer o amser ac mae heriau'n dal i fodoli o fewn y system."

  15. Athrawon 'yr un mor nerfus â'n myfyrwyr'wedi ei gyhoeddi 09:10 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Dyw pennaeth Ysgol Lewis Pengam yng Nghaerffili ddim yn cysgu rhyw lawer yr adeg hon o’r flwyddyn, yn pryderu am ganlyniadau ei fyfyrwyr.

    "Ry’n ni’r un mor nerfus â'n myfyrwyr a'u rhieni achos ry’n ni eisiau iddyn nhw wneud yn dda," meddai Chris Parry.

    Gallai fod yn ddiwrnod arbennig o arwyddocaol i’r ysgol hon, a gafodd ei sefydlu yn 1729.

    Dyma’r ysgol wladol i fechgyn olaf yng Nghymru, ond mae cynlluniau i’w huno â’r ysgol ferched.

    Felly gallai hon fod y diwrnod canlyniadau olaf un i’r ysgol un rhyw.

    “Efallai ei bod hi’n ddiwedd cyfnod,” meddai Mr Parry.

    Chris Parry
  16. Beth yw patrwm canlyniadau TGAU ers 2019?wedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Yn ôl Cymwysterau Cymru, sy'n goruchwylio'r arholiadau, mae canlyniadau eleni yn dychwelyd i'r drefn arferol o asesu.

    Doedd dim cefnogaeth ychwanegol i fyfyrwyr fu'n sefyll arholiadau yn 2024 ac mae'r marcio hael yn dilyn y pandemig wedi dod i ben.

    Y disgwyl felly ydy y bydd y canlyniadau yn dychwelyd i lefelau tebyg i'r hyn a welwyd yn 2019, cyn y pandemig.

    Canlyniadau
  17. 323,000 o geisiadau TGAUwedi ei gyhoeddi 08:54 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Cafodd bron i 323,000 o geisiadau TGAU eu gwneud yr haf yma.

    Yng Nghymru, mae ymgeiswyr yn derbyn graddau o A* i G - y drefn yn Lloegr yw marcio wrth rif o 9 i 1.

    Fe fydd newidiadau sylweddol i'r cwrs TGAU yng Nghymru o fis Medi 2025 pan fydd cymwysterau newydd yn cael eu cyflwyno i gydfyd â'r Cwricwlwm i Gymru, ddechreuodd gael ei ddysgu yn 2023.

    Mae cael gwared ar radd ar wahân mewn Cemeg, Ffiseg a Bioleg er mwyn creu un cymhwyster TGAU gwyddoniaeth dwbl wedi profi'n ddadleuol.

    Cyhoeddodd Cymwysterau Cymru'n gynharach eleni y bydd y TGAU gwyddoniaeth yn cael ei ddysgu o fis Medi 2026 yn hytrach na Medi 2025 - y cynllun gwreiddiol.

    ArholiadFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Beth yw'r disgwyl eleni?wedi ei gyhoeddi 08:47 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Fe ddechreuodd y plant sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU eleni yr ysgol uwchradd yn 2019, dim ond i gael eu hanfon adref am gyfnod amhenodol chwe mis yn ddiweddarach oherwydd y pandemig.

    Y disgwyliad eleni yw y bydd llai o'r disgyblion hynny yn derbyn y graddau uchaf yng Nghymru pan fydd canlyniadau TGAU yn cael eu cyhoeddi, a hynny am fod patrwm arholi wedi dychwelyd i fel oedd hi yn 2019.

    Yr wythnos ddiwethaf, syrthiodd canlyniadau Lefel A i lefelau tebyg i cyn y pandemig, ond roedden nhw dal yn uwch na chanlyniadau 2019.

    DisgyblionFfynhonnell y llun, PA Media
  19. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 22 Awst

    Bore da a chroeso i'n llif byw wrth i ddisgyblion TGAU ledled Cymru dderbyn eu canlyniadau.

    Mae disgyblion eisoes wedi bod yn derbyn eu canlyniadau y bore 'ma, ac mae disgwyl i'r darlun cenedlaethol ddod i'r amlwg tua 09:30.

    Bydd myfyrwyr hefyd yn derbyn canlyniadau'r Bac Cymreig, BTec a chymwysterau eraill heddiw.

    Arhoswch gyda ni am y cyfan!