Rhybuddio Plaid Cymru i 'atal y llif' o fyfyrwyr rhag gadael Cymru

myfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-Aelod Seneddol a Chynulliad Plaid Cymru wedi rhybuddio'r blaid i beidio â "chloffi" wrth "atal y llif" o fyfyrwyr sy'n dymuno gadael Cymru ar gyfer addysg uwch pe bai'n ffurfio llywodraeth wedi etholiad y Senedd ym Mai 2026.

Mae Cynog Dafis, cyn-AS Ceredigion a chyn-AC canolbarth a gorllewin Cymru, yn cydnabod bod Plaid Cymru yn "wynebu gwrthwynebiad" i'w bwriad i newid cynllun Seren oherwydd "dadleuon ystrydebol" a "hunan-fudd ariannol".

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth y BBC eu bod yn "edrych ar lu o opsiynau beiddgar".

Mae'r rhain yn cynnwys "addasu'r rhaglen Seren i wneud yn siŵr ei fod yn annog mwy o'n pobl ifanc – ac yn cefnogi pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn benodol – i ystyried a phenderfynu astudio yng Nghymru, neu'n rhoi cymhelliant clir i ddychwelyd i Gymru pan ddaw eu hastudiaethau i ben".

Cafodd Seren ei sefydlu yn wreiddiol yn 2015 i hybu nifer y disgyblion Cymreig sydd yn mynd i brifysgolion gorau Prydain gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae Huw Irranca-Davies, y dirprwy brif weinidog yn llywodraeth Lafur Cymru, yn dweud eu bod "wedi ymrwymo i amddiffyn hawl myfyrwyr i ddewis astudio ym mha le bynnag y maen nhw'n dymuno".

Mae'r Ceidwadwyr yn cyhuddo Plaid Cymru o "ddiffyg uchelgais ofnadwy... ar gyfer pobl ifanc".

Mae hanner y disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg a ddechreuodd yn y brifysgol eleni wedi gadael Cymru.

'Allforio talent ar raddfa aruthrol'

Dywedodd Mr Dafis, Llywydd Dyfodol I'r Iaith, mewn llythyr at gylchgrawn Golwg bod Cymru ers degawdau wedi "allforio talent ar raddfa aruthrol a hynny er dirfawr golled i'w heconomi, ei bywyd cymdeithasol a diwylliannol, ei hyfywedd demograffaidd, ac yn arbennig ei hiaith".

Y tu ôl i'r "allfudiad", meddai, "mae yna ragdybiaeth ddofn... mai gwlad fach israddol, ddi-fenter, ddi-uchelgais yw Cymru."

Rhybuddiodd, "pe na bai Plaid Cymru, a hithau'n arwain y llywodraeth, yn ddigon eofn i afael yn y ddraenen a gweithredu'n effeithiol i wella'r nychdod hanesyddol hwn, byddai wedi methu â chyflawni un hanfodion ei chenhadaeth."

Cynog Dafis
Disgrifiad o’r llun,

"Oes perygl i'r blaid gloffi yn ei bwriad? Rhag ofn bod felly, dyma rybudd," meddai Cynog Dafis

Yn gynharach y mis hwn yn y Senedd, dywedodd Huw Irranca-Davies bod y llywodraeth Lafur yn "dymuno i'n myfyrwyr ni fod yn falch iawn o fod yn ddinasyddion Cymru wrth edrych tuag allan i'r byd mawr hefyd".

"Rwy'n dweud hyn fel un a fu'n fyfyriwr y tu allan i Gymru yn gyntaf, yna fe ddois i yn f'ôl i Gymru i gyflawni fy astudiaeth ôl-raddedig. Yna fe es i i weithio'r tu allan i Gymru ac yna hefyd, wedi gweld y goleuni, fe ddois i yn f'ôl i Gymru i weithio yma...

"Mae'n rhaid i ni dderbyn y bydd rhai pobl ifanc yn awyddus i symud o Gymru, fel y gwnes innau, i weld pethau gwahanol ac ehangu eu gorwelion.

"Ond fe fydd llawer ohonyn nhw'n dymuno dod yn eu holau, ac fe fyddan nhw'n awyddus i ddod yn eu holau a gwneud cyfraniad yma, naill ai mewn addysg neu yn yr economi yn fwy eang."

Ychwanegodd, "mae creu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol bwysig hefyd.

"Felly, mae cynllun gweithredol Medr [y corff hyd braich sy'n gyfrifol am gyllido a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil] yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi ei gynllun ar gyfer y Gymraeg erbyn mis Awst 2026."

'Diffyg uchelgais ofnadwy'

Hefyd yn y Senedd dywedodd y Ceidwadwr Tom Giffard bod gan Blaid Cymru "ddiffyg uchelgais ofnadwy... ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru".

Meddai: "Mae hi'n ymddangos eu bod nhw o'r farn mai peth drwg yw bod Cymry yn dymuno ymadael i fynd i astudio yn Rhydychen, Caergrawnt neu brifysgolion eraill ledled y Deyrnas Unedig.

"Nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn ystyried hynny'n beth drwg.

"Rydym ni'n credu mai peth da ydyw hynny. Rydym ni'n dymuno bod yn uchelgeisiol ar ran ein pobl ifanc, i'n darpar fyfyrwyr yn y dyfodol."

Ond ychwanegodd bod "angen i ni wneud mwy na gobeithio y bydd y myfyrwyr hynny'n dychwelyd wedyn".

"Mae angen i ni greu'r amodau fel y byddan nhw'n dychwelyd. Yr unig ffordd i wneud hynny yw meithrin yr economi yng Nghymru.

"Dyna pam y cyflwynodd y Ceidwadwyr Cymreig y cynllun uchelgeisiol hwnnw i feithrin ein heconomi drwy dorri trethi, torri ardrethi busnes yn gyfan gwbl, a chael gwared ar y dreth stamp."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth y BBC bod "adeiladu cenedl ffyniannus a datgloi'n potensial fel gwlad yn ganolog i weledigaeth Plaid Cymru... mae ein pobl ifanc yn haeddu'r cyfleoedd gorau posib sydd ar gael iddynt – ac i gael mynediad i hynny yma yng Nghymru os mai hynny yw eu dymuniad."

Rhydychen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Seren ei sefydlu yn wreiddiol yn 2015 i hybu nifer y disgyblion Cymreig sydd yn mynd i brifysgolion fel Rhydychen

Yn ôl yr ystadegau swyddogol diweddaraf ar y Gymraeg mewn darparwyr addysg uwch yng Nghymru, dolen allanol, a gyhoeddwyd ddydd Iau:

  • Yn 2023/24, roedd yn hysbys bod 13% o'r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru'n rhai gan siaradwyr Cymraeg rhugl. Roedd 15% pellach yn siaradwyr Cymraeg nad oeddent yn rhugl neu'n siaradwyr Cymraeg â gallu anhysbys;

  • Yn 2023/24, fe wnaeth 30% o'r cofrestriadau gan fyfyrwyr o Gymru yr oedd yn hysbys eu bod yn siaradwyr Cymraeg rhugl astudio o leiaf un credyd yn Gymraeg [mae un credyd yn 10 awr o waith, sy'n cynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a'r gwaith o baratoi asesiadau neu baratoi at arholiadau], ac fe wnaeth 21% astudio o leiaf 40 o gredydau yn Gymraeg;

  • Addysg a hyfforddiant oedd y pwnc modiwl â'r nifer a'r gyfran uchaf o gofrestriadau ag o leiaf un credyd wedi cael ei astudio yn Gymraeg;

  • Roedd 565 o staff addysgu academaidd wedi'u contractio i addysgu yn Gymraeg yn 2023/24, yr un nifer ag yn 2022/23.

Ar gyfer etholiad Senedd Cymru ym Mai 2026, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn galw ar y llywodraeth nesaf i osod targedau i gynyddu'r nifer o fyfyrwyr Seren sy'n mynd ymlaen i astudio cyrsiau o'r radd flaenaf ym mhrifysgolion Cymru a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

"Byddai hyn yn cefnogi nodau ac amcanion Cymraeg 2050 y llywodraeth i gynyddu defnydd o'r Gymraeg a chefnogi ymdrechion i sicrhau gweithlu dwyieithog mewn meysydd allweddol megis y gweithlu addysg a'r gweithlu iechyd," meddai'r Coleg.

Datgelodd adolygiad o Seren, dolen allanol yn 2018 "densiwn cynhenid" rhwng amcanion y cynllun ac "amcanion ehangach" y llywodraeth i gefnogi'r sector addysg uwch yng Nghymru.

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, gyhoeddi "pecyn cymorth cynhwysfawr i ysgolion i ddarparu'r amser a'r lle i athrawon gefnogi eu dysgwyr Seren... i'w galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n iawn iddynt, gan gynnwys y ddarpariaeth wych yn ein prifysgolion yng Nghymru".