'Dwi eisiau i fenywod fy oedran i deimlo'n dda ar gyfryngau cymdeithasol'

Yn y llun yma mae Rhian yn yr ardd, wedi ei hamgylchynu gan flodau melyn. Mae hi'n gwisgo ffrog binc gyda hat gwyn. Ffynhonnell y llun, Rhian Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhian Davies y gallai menywod ddechrau teimlo'n anweledig wrth iddynt fynd yn hŷn

  • Cyhoeddwyd

Pan benderfynodd Rhian Davies rannu ei gwisogedd hi ar-lein, doedd ganddi ddim syniad y byddai miloedd yn ei dilyn hi.

Wrth i'r niferoedd yna dyfu, sylweddolodd y fam i ddwy ei bod hi'n benderfynol o greu cymuned hyderus a chefnogol i fenywod yr un oedran a hi.

"Os ydw i'n helpu rhywun i deimlo'n dda amdanyn nhw eu hunain, mae hwnna'n ddigon i fi," meddai Rhian, sy'n 58 oed.

Mae Rhian, o Gwmbrân, ymhlith miloedd o fenywod sy'n troi yn gynyddol at blafformau fel TikTok ac Instagram i fyngegi eu creadigrwydd a steil.

Mae gan Rhian wallt gwyn/llwyd hir a chyrliog. Mae hi'n gwisgo clustlysau pink hir gyda siaced coch. Ffynhonnell y llun, Rhian Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fam i ddwy yn defnyddio ei phlatfform i draffod ffasiwn a harddwch

Mi oedd un o ffrindiau Rhian wedi ei rhybuddio bod rhai menywod yn teimlo'n anweledig wrth gyrraedd canol oed.

"Roeddwn i'n teimlo hynny," meddai.

Ychwanegodd Rhian ei bod hi'n teimlo iddi "golli ei hun" wrth edrych ar ôl ei phlant yn ei 40au a chanolbwyntio ar bethau eraill.

"Pan wyt ti'n iau, dwi ddim yn meddwl dy fod ti'n sylweddoli sut beth yw bod yn weladwy, oherwydd dydych chi ddim yn sylwi arno mewn gwirionedd, nes i chi ei golli."

Dywedodd Rhian fod TikTok wedi cynnig gofod iddi fod yn fenyw hyderus, yn ei 50au hwyr, gyda steil.

Ei fideos mwyaf llwyddiannus yw pan mae hi'n "dangos realiti" bywyd ac yn recordio ei hun heb golur a gyda gwallt naturiol.

"O'r dechrau, sylweddolais fod y rhan fwyaf o fenywod eisiau gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli, nid y fenyw berffaith hon gyda'r Aga yn y cefndir ac ynys yn y gegin.

"Roedden nhw eisiau gweld rhywun oedd yn edrych fel nhw.

"Pan ydych chi yn eich 50au, dydych chi ddim wastad eisiau gwylio pobl yn eu 20au yn gwneud eu colur, oherwydd nid yw'r hyn sy'n gweithio iddyn nhw yn gweithio i fy ngrŵp oedran i."

Yn y llun yma mae Viv yn gwenu. Mae ganddi siwmper llwyd ymlaen, gyda sgarff lliwgar. Mae ganddi wallt gwyn a sbectol coch.Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Viv Truran mae'r cyfryngau cymdeithasol yn fwy "croesawgar" i bobl fwy aeddfed nawr

Un arall sydd wedi ffeindio cartref a chymuned arlein ydy Viv Truran, sy'n 81 oed, ac yn enedigol o Gaerdydd.

Gyda bron i 300,000 o ddilynwyr ar Instagram, mae hi'n rhannu fideos dyddiol o'i gwisgoedd ac yn awgrymu sut i steilio dillad.

Mae ei dilynwyr hi o bob cwr o'r byd ac yn amrywio hefyd o ran oedran, o bobl yn eu 20au i bobl dros 65 oed.

"Rwy'n caru'r bobl ifanc oherwydd mae'n nhw mo'yn i fi fod yn nain iddyn nhw."

Mae Viv i'w gweld yma yn sefyll o flaen y camera. Mae ei breichiau wedi'u croesi. Mae hi'n gwisgo siwmper ddu gyda chris gwyrdd/melyn. Mae ganddi wallt gwyn byr ac mae'n gwisgo sbectol du.Ffynhonnell y llun, Viv Truran
Disgrifiad o’r llun,

Mae Viv yn "mwynhau'n fawr" rhannu ei bywyd gyda'i channoedd o filoedd o ddilynwyr

Dywedodd Viv mai dim ond pan gafodd hi sylwadau ar Instagram yn gofyn o ble roedd ei dillad y sylweddolodd bod ganddi ddylanwad arlein.

Ar ôl gyrfa yn y gwasanaeth sifil a wedyn gyda British Telecom, daeth Viv yn "Del Boy ar goesau" yn gwerthu henbethau yn ei 40au hwyr.

Ond beth mae hi'n ei feddwl sydd wrth wraidd ei llwyddiant yn ei "thrydydd gyrfa"?

"Rwy'n credu bod pobl eisiau gweld y gwir ac rwy'n credu, gobeithio, fy mod i'n dangos y gwir."

Ychwanegodd bod ei chynnwys hi arlein yn naturiol oherwydd dyw hi ddim yn canolbwyntio ar berffeithrwydd.

Hyder a hwyl yw ei blaenoriaeth hi, meddai.

'Demograffig cyfryngau cymdeithasol yn newid'

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod nifer y bobl dros 65 oed wedi cynyddu ledled y Deyrnas Unedig gyfan, yn y flwyddyn hyd at ganol 2024.

Dywedodd yr Athro Eleri Rosier o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd nad oedd yn syndod felly gweld adlewyrchiad o hynny ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ychwanegu bod "newid amlwg iawn" wedi bod yn oedran y bobl sy'n llunio cynnwys ffasiwn a harddwch arlein.

"Ers amser maith, mae cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn lle i bobl iau ond nawr, yn llawer fwy aml, rydym yn gweld dylanwadwyr hŷn," meddai.

Ychwanegodd eu bod nhw fel criw yn boblogaidd oherwydd eu bod yn creu cynnwys y maent yn gwybod bod eu dilynwyr yn ei fwynhau.

Yn y llun yma mae'r Athro Eleri Rosier yn gwenu. Mae'n gwisgo siwmper glas. Mae ganddi wallt byr brown. Mae hi'n eistedd ar gadair yn yr ardd. Ffynhonnell y llun, Eleri Rosier
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Athro Eleri Rosier mae pobl yn ymateb yn bositif i'r ffaith bod gan bobl hŷn brofiad a doethineb arlein

Mae'r Athro Rosier yn cofio addysgu ei myfyrwyr tua 10 mlynedd yn ôl a rhagweld bryd hynny y byddai'r cyfryngau cymdeithasol yn tyfu'n le poblogaidd i bobl hŷn.

"Ond nawr, yn llawer mwy, rydym yn gweld dylanwadwyr hŷn, yn enwedig rhai yn y categori 50+, mewn gwirionedd yn cael effaith enfawr.

"Mae llwyfannau fel TikTok ac Instagram wedi dod yn fannau lle nid yn unig y mae amrywiaeth oedran yn cael ei dderbyn, ond mae'n cael ei ddathlu llawer mwy."

Mae gan Sali wallt melyn hir. Mae'n gwisgo cris du. Dyma lun proffesiynol. Ffynhonnell y llun, Dora Paphides
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y newyddiadurwraig harddwch o Gymru, Sali Hughes, mae fod mwy o frandiau'n sylweddoli gwerth cwsmeriaid hŷn

Nid yw Sali Hughes o Gaerdydd, colofnydd harddwch y Guardian, yn synnu bod cynnydd yn nifer y dylanwadwyr hŷn.

Mae'r cyfryngau cymdeithasol, esboniai, yn ran enfawr o sut mae cwmnioedd yn gwerthu ac yn hyrwyddo eu nwyddau.

Mae hi'n dweud bod brandiau wedi treulio blynyddoedd yn "marchnata'n ymosodol at bobl ifanc sydd ddim gyda'r arian" i brynu eu cynhyrchion.

Ond nawr maen nhw'n fwy ymwybodol o'r ffaith bod amrywiaeth oedran yn hanfodol ar gyfer llwyddiant gan fod gan bobl hŷn, yn gyffredinol, fwy o arian na defnyddwyr ifanc.

"Os ydych chi'n ffocysu cymaint ar ieuenctid, bydd hynny'n eich brathu ar y pen-ôl, yn anffodus."

Pynciau cysylltiedig