Merch, 17, wedi marw ar ôl cael ei thrywanu sawl gwaith - cwest

Lainie WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Lainie Williams bod ei marwolaeth yn "dorcalonnus"

  • Cyhoeddwyd

Bu farw merch 17 oed o Gefn Fforest, Sir Caerffili, ar ôl cael ei thrywanu sawl gwaith, mae cwest wedi clywed.

Bu farw Lainie Williams yn Wheatley Place, Cefn Fforest, ger y Coed-duon tua 07:15 ar 13 Tachwedd.

Mae Cameron Cheng, 18, o Drecelyn, Sir Caerffili, wedi'i gyhuddo o'i llofruddio, ceisio llofruddio ei mam Rhian Stephens ac o fod â llafn miniog yn ei feddiant.

Bydd yn wynebu achos yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mai 2026.

Dywedodd Crwner Gwent, Rose Farmer, ei bod yn agor y cwest gan fod marwolaeth Ms Williams yn "dreisgar".

Clywodd y cwest fod patholegydd o'r Swyddfa Gartref wedi cofnodi achos ei marwolaeth fel "sawl anaf gan lafn miniog".

Dywedodd Ms Farmer y byddai'r cwest yn cael ei ohirio tra bydd yr ymchwiliad yn parhau ac y byddai'n ailddechrau ar 24 Awst 2026.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.