Teyrnged i ddyn, 64, fu farw mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon

Geraint JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Geraint Jones, 64, yn dilyn gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys fan, ger Y Bontnewydd, Caernarfon tua 20:30 nos Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle, ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Rydym wedi ein llorio o golli gŵr, tad a thaid annwyl.

"Fel teulu, fe hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys a phawb fu ynghlwm wrth geisio helpu Geraint ar nos Sul, 9 Tachwedd.

"Fe hoffwn hefyd ddiolch i bawb am yr holl negeseuon o gariad a chefnogaeth yn ystod y cyfnod trist hwn.

"Mae Geraint yn gadael ei wraig, Mary, ei feibion, Richard a Patrick, ei wyres Ella a'i wyrion Leo ac Isaac."

Ddydd Llun fe wnaeth yr heddlu apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Maen nhw'n enwedig eisiau siarad ag unrhyw un a welodd ddyn yn cerdded ar ochr y ffordd osgoi cyn y digwyddiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol