Plygain-iadur Rhagfyr 2025

Canu Plygain
  • Cyhoeddwyd

Mae'n ddechrau Rhagfyr, ac felly mae tymor y Plygain wedi cyrraedd.

Dyma'r hen draddodiad ble mae'r gymuned yn dod at ei gilydd i ganu hen ganeuon traddodiadol Cymraeg y Nadolig.

Mae'n draddodiad sydd yn mynd yn ôl ganrifoedd ac wedi dod yn boblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf.

Pryd mae eich gwasanaeth lleol chi, neu oes 'na un 'da chi wedi bod eisiau mynd iddyn nhw? Mae Cymru Fyw yma i helpu, gyda Phlygain-iadur cyfleus ar gyfer y tymor!

Dyma Blygain-iadur mis Rhagfyr 2025 - ac fe fydd un mis Ionawr yn cael ei gyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn newydd.

Nos Wener 05/12/2025

Llansilin, Eglwys Sant Silin 19:30

Dydd Sul 07/12/2025

Llanfyllin, Capel y Tabernacl 18:00

Croesyceiliog, Capel Penygraig 18:30

Nos Iau 11/12/2025

Aberystwyth, Eglwys y Santes Fair 19:00

Nos Wener 12/12/2025

Tŷ Ddewi, Eglwys Gadeiriol 19:00

Llanidloes, Capel Heol China 19:30

Nos Sul 14/12/2025

Pennal, Eglwys Sant Pedr ad Vincula 18:00

Nos Lun 15/12/2025

Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr, Fleet St, Coventry 18:30

Nos Fawrth 16/12/2025

Parc, Y Bala, Capel 19:00

Nos Iau 18/12/2025

Penrhyn-coch, Eglwys St Ioan 19:00

Llanfair Dyffryn Clwyd, Eglwys Sant Cynfarch a’r Santes Fair 19:00

Nos Sul 21/12/2025

Pontrobert (Plygain Peniel a Phontrobert), Neuadd Pontrobert 18:00

Briw, Llangedwyn, Capel 18:30

Nos Fercher 24/12/2025

Llanfairpwll, Capel Rhos y Gad 19:00

Dydd Nadolig 25/12/2025

Pontrobert, Hen Gapel John Hughes 06:00

Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni 07:00

Nercwys, Capel Soar 07:00

Nos Sul 28/12/2025

Cefnblodwel, Capel 19:00

Nos Fawrth 30/12/2025

Eglwys Sant Garmon, Llanarmon Dyffryn Ceiriog 19:00

Cadw trefn

Mae grŵp o bobl yn gweithio'n ddiwyd yn hybu'r traddodiad ac yn ceisio rhoi trefn ar yr holl ddigwyddiadau. Maen nhw hefyd wedi creu adnodd lle allwch chi fynd i ddysgu mwy am y traddodiad arbennig hwn.

Ewch draw i plygain.org, dolen allanol (dolen allanol) am fwy o wybodaeth!

Sain unigryw y Plygain

Mae sain traddodiadol y Plygain yn un trawiadol. Dyma flas o'r hyn allwch chi ei glywed mewn gwasanaeth o'r fath, wedi ei recordio yn Llanfyllin yn 2019.

Disgrifiad,

Dathlu'r Plygain yn Llanfyllin

Os hoffech chi ychwanegu gwasanaeth Plygain i'n digwyddiadur e-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: