Costau byw: 'Biliau a bwyd yn mynd yn ddrytach a drytach'

Katie Hopkin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Katie Hopkin o Frynaman yn dweud bod y pantri bwyd lleol yn help mawr

  • Cyhoeddwyd

Mae bron i chwarter oedolion Cymru yn cwtogi neu'n mynd heb brydau bwyd, yn ôl adroddiad elusen ar gostau byw.

Dywedodd prif weithredwr Sefydliad Bevan fod gormod o bobl yn ei chael hi'n anodd fforddio hanfodion fel bwyd ac ynni.

Mewn un canolfan yn Nyffryn Aman, dywedodd pobl fod cynlluniau fel pantri bwyd yn "help mawr" wrth i gostau gynyddu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod ei bod hi'n gyfnod heriol", a'u bod wedi buddsoddi dros £7bn rhwng 2022 a 2026 i gefnogi aelwydydd i leddfu pwysau ariannol.

Mae pantri bwyd Canolfan Maerdy ym mhentref Tai'r-gwaith yn le prysur, gyda phobl yn talu £6 yn unig i lenwi bag siopa bob wythnos.

Dywedodd Katie Hopkin, 23, o Frynaman fod y lle yn help mawr gan fod rhent a biliau'n ddrud.

"Dwi'n gweithio fel personal assistant i bobl anabl, ond does dim lot o arian yn dod mewn," meddai.

"Ma' pethe'n mynd yn ddrytach a drytach.

"Dwi ddim yn becso am y bwyd yn mynd out of date. Unrhyw le alla i gael bwyd yn rhatach, mae'n well i fi."

Ann Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ann Jones fod "prisiau'n mynd lan bob wythnos"

Dywedodd Ann Jones, 77, o Gwm-gors fod ei bil wythnosol yn yr archfarchnad wedi cynyddu'n sylweddol.

"Ma' [prisiau] yn mynd lan yn y supermarkets bob wythnos," dywedodd.

"Mae'n help mawr. Fi'n cael pethe' fan hyn a fi'n dodi nhw'n y freezer, a tynnu nhw mas wedyn noswaith cyn 'ny."

Mae'n brofiad cyffredin i nifer yn ardal Dyffryn Aman yn ôl Julia Davies, sy'n gweithio yn y ganolfan.

"Ma' lot o bobl yn dod lan a defnyddio'r pantri," dywedodd.

"Er mai £6 yw e, mae lot yn dod lan. Mae'n gyfnod tough."

Julia Davies, aelod o staff
Disgrifiad o’r llun,

Mae pantri bwyd Canolfan Maerdy yn Nyffryn Aman yn brysur, yn ôl Julia Davies

Mae adroddiad Sefydliad Bevan yn cynnwys ymchwil YouGov sy'n seiliedig ar sampl o fwy na 2,000 o bobl yng Nghymru.

Er i'r canfyddiadau awgrymu bod cyfran y bobl sy'n ei chael hi'n anodd fforddio nwyddau allweddol wedi gostwng rhywfaint yn y tri mis hyd at Hydref eleni, dywedodd yr elusen fod:

  • 24% o oedolion wedi colli prydau bwyd neu gwtogi ar faint eu prydau;

  • 13% o rieni wedi gorfod cwtogi maint prydau eu plant neu fynd heb bryd;

  • 24% o bobl heb ddefnyddio gwres yn eu cartrefi;

  • 40% o bobl wedi dweud fod eu sefyllfa ariannol bresennol wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.

'Bywyd yn galed i bobl'

Dywedodd prif weithredwr yr elusen fod gormod o bobl yn wynebu sefyllfa anodd.

"Mae'r adroddiad yma'n dangos unwaith 'to pa mor galed ma' bywyd i bobl yng Nghymru," dywedodd Dr Steffan Evans.

"Ma' tua un ym mhob 20 o bobl yn adrodd i ni eu bod nhw'n defnyddio banciau bwyd. Mae'n rhywbeth ma' pobl yn 'neud yn fwy a mwy aml.

"Mae'n dangos y caledi 'na sy'n dod yn rhan annatod o fywyd bob dydd pobl - bod pobl yn gorfod neud dewisiadau anodd.

"Ma' gyda ni'r gyllideb yn dod i fyny nawr ddiwedd y mis a ma' hwnna'n rhywbeth sy'n mynd i fod yn cael rôl bwysig.

"Hefyd, gydag etholiad y Senedd ar y gorwel hefyd, mae'n amlwg bod yn rhaid i hwn fod yn flaenoriaeth i bob plaid."

Dr Steffan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae defnyddio banciau bwyd yn "rhywbeth ma' pobl yn 'neud yn fwy a mwy aml", yn ôl Dr Steffan Evans

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod ei bod hi'n gyfnod heriol i lawer o blant, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru".

"Rydyn ni'n benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag mynd i dlodi a helpu'r rhai sydd angen cymorth fwyaf," meddai llefarydd.

"Rydyn ni wedi buddsoddi dros £7bn rhwng 2022 a 2026 i gefnogi aelwydydd ledled Cymru drwy raglenni i leddfu pwysau ariannol, helpu i wneud y mwyaf o incwm ac i helpu i gadw mwy o arian ym mhocedi pobl.

"Ers 2019 rydyn ni wedi buddsoddi dros £29m mewn sefydliadau bwyd cymunedol i helpu i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd a chefnogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm."

Ychwanegodd Llywodraeth y DU eu bod yn "benderfynol i leihau lefelau tlodi ym mhob rhan o'r DU".

"Rydyn ni eisoes wedi uwchraddio budd-daliadau a chynyddu'r isafswm cyflog, a chefnogi 700,000 o'r teuluoedd tlotaf trwy gyflwyno Cyfradd Ad-dalu Teg ar ostyngiadau Credyd Cynhwysol," meddai llefarydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig