Merched Cymru yn ennill gêm am y tro cyntaf ers blwyddyn

Doedd merched Cymru heb guro'r Swistir erioed o'r blaen
- Cyhoeddwyd
Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi dod â rhediad gwael o gemau i ben brynhawn Mawrth, ar ôl trechu'r Swistir.
Ennill 3-2 oedd yr hanes, gyda Sophie Ingle, Hannah Cain a Lily Woodham yn hawlio'r goliau i'r Dreigiau.
Doedd Cymru ddim wedi ennill ers 12 gêm sef 3 Rhagfyr 2024 - bron i flwyddyn yn ôl.
Doedd Cymru chwaith ddim wedi bod yn fuddugol yn erbyn y Swistir erioed o'r blaen a dyma ail gêm gyfeillgar y Cymry ar eu taith yn Sbaen dros yr wythnos ddiwethaf.

Sgoriodd Sophie Ingle ei hwythfed gôl ryngwladol mewn 146 ymddangosiad i Gymru
Er bod yn rhaid i Gymru fod yn amyneddgar gyda diffyg meddiant o'r bêl, cafon nhw gyfleoedd o'r dechrau ar ôl i Ceri Holland fethu cyfle da o ffin y cwrt cosbi.
Sgoriodd Sophie Ingle gôl gyntaf yr ornest wedi tua 15 munud, yn dilyn croesiad gan Holland o gic rydd ac amddiffynnwr yn ceisio ei chlirio gyda'i phen.
Ond ni wnaeth y fantais bara am hir, wrth i Aurelie Csillag orffen o ongl anodd - i'w gwneud hi'n gyfartal.
Wedi tua hanner awr cafodd y bêl ei phasio i Hannah Cain, oedd wedi rhedeg y tu ôl i amddiffyn y Swistir, cyn ei chicio dros ben y gôl-geidwad i gefn y rhwyd.
Gorffeniad da, 2-1 i Gymru ar yr hanner.
Ychydig i mewn i'r ail hanner, sgoriodd Lily Woodham gyda'i chyffyrddiad cyntaf o'r gêm, wrth i Cain groesi'n isel ac Ingle yn gadael y bêl i Woodham ei gorffen.
3-1 oedd hi am rhyw 20 munud wedi hynny, ond fe wnaeth Cymru gamgymeriad wrth geisio chwarae allan o'r cefn, gyda'r bêl yn disgyn i draed Iman Beney i'w gorffen.
Roedd pwysau ar Gymru wedi hynny a hithau yn 3-2, gyda'r Swistir yn cael cyfleoedd da.
Ond, methu â sgorio a wnaeth y gwrthwynebwyr, wrth i ferched Cymru eu trechu am y tro cyntaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd19 Tachwedd
