Davies, Cabango a Moore yn tynnu'n ôl o garfan Cymru

Ben Davies, Ben Cabango a Kieffer MooreFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Ni fydd Ben Davies, Kieffer Moore a Ben Cabango ar gael ar gyfer dwy gêm olaf Cymru yng ngrŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 oherwydd anafiadau.

Bydd Cymru'n herio Liechtenstein oddi cartref nos Sadwrn, cyn croesawu Gogledd Macedonia nos Fawrth.

Er i'r tri gael eu henwi yn y garfan gan Craig Bellamy yn wreiddiol, maen nhw bellach wedi tynnu'n ôl.

Dyw Davies, amddiffynnwr Tottenham Hotspur, heb chwarae ers cael anaf i'w goes yn y golled yn erbyn Gwlad Belg fis Hydref.

Fe wnaeth Moore, sydd wedi creu argraff i Wrecsam yn ddiweddar, hefyd ddioddef anaf yn ystod eu buddugoliaeth yn erbyn Charlton ddydd Sadwrn.

Mae ymosodwr Caerdydd, Isaak Davies, ac amddiffynnwr Queens Park Rangers, Rhys Norrington-Davies, wedi cael eu galw i'r garfan i gymryd eu lle.

Mae absenoldeb Davies hefyd yn golygu y bydd yn rhaid i Bellamy benderfynu ar gapten ar gyfer y ddwy gêm, gyda'r capten arferol Aaron Ramsey hefyd yn absennol oherwydd anaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.