Siarad a syrffio i fyw gydag iselder

Dafydd Huw Rees-MillnsFfynhonnell y llun, Dafydd Huw Rees-Millns
  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r darn isod yn trafod teimladau hunanladdol.

Pan oedd Dafydd Huw Rees-Millns o Dycroes, Sir Gaerfyrddin yn ei arddegau roedd yn dioddef o iselder mor ddwys nes iddo deimlo nad oedd ei fywyd yn werth ei fyw.

Ond erbyn hyn mae Dafydd, sy'n 23 mlwydd oed, wedi ffeindio ffyrdd o ymdopi â'r iselder sy'n medru ei lethu ac mae'n llawn gobaith am ei ddyfodol.

Dywed Dafydd mai'r hyn wnaeth newid ei fywyd oedd mynychu cwrs syrffio ar ben therapi siarad traddodiadol a meddyginiaeth.

"Erbyn hyn mae syrffio yn ffordd o fyw i fi, syrffio yw'r tŵl gorau sydd gen i er mwyn edrych ar ôl fy hunan, gan gynnwys fy iechyd corfforol a meddyliol," eglurai Dafydd.

'Therapi siarad a thabledi ddim yn ddigon'

Cafodd Dafydd ei gyfeirio at gwrs syrffio gan ysgol syrffio Therapi Syrffio Tonic a oedd yn cael ei ariannu'n rhannol gan elusen Plant Mewn Angen ar ôl i'w therapydd sylweddoli nad oedd therapi siarad dull CBT yn unig yn ei weddu.

Ac yntau'n tynnu at ei 15 oed ar y pryd ac wedi dioddef o iselder ers ei fod yn ddisgybl blwyddyn saith yn Ysgol Dyffryn Aman, mae'n cofio'r anobaith a deimlodd wrth geisio ei orau i wella o iselder, a'i driniaethau yn ei fethu.

"O'n i'n gwario misoedd ar fisoedd yn fy ngwely yn sâl ac o'n i wedi gorfod gadael byd addysg.

"Ges i fy nghyfeirio at CAHMS, gwasanaeth iechyd meddwl yr NHS i bobl ifanc a thrwy hynny ges i therapi am dros flwyddyn.

"O'n i yn mynd yn ôl a 'mlaen i Gaerfyrddin tua tair neu bedair gwaith yr wythnos ond doedd dim byd defnyddiol yn dod o'r sesiynau hyn, do'n i ddim rili yn deall beth oedd yn digwydd i fi.

"O'n i dal yn byw gartref, ac yn dechrau teimlo yn isel iawn, dim ffrindiau 'da fi, dim bywyd, jest nôl a mlaen i CAHMS a finnau tua 14-15 mlwydd oed."

Dafydd Ffynhonnell y llun, Dafydd Huw Rees-Millns
Disgrifiad o’r llun,

O dan y wên roedd Dafydd yn isel iawn

Mae gan Dafydd feddwl y byd o'i therapydd oedd yn sylweddoli nad oedd siarad yn unig yn gweithio iddo. Ei therapydd wnaeth ei gyfeirio at gwrs syrffio 10 wythnos.

Yn araf deg, fe wnaeth dechrau syrffio ar ben y therapi siarad a meddyginiaeth drawsnewid ei iechyd meddwl.

"Nath y 10 wythnos hyn a syrffio yn y dŵr a bod gyda phobl roi rhyw fath o reswm i fi fyw.

"Ar ôl blwyddyn a hanner o'n i ffili gweithio, o'n i moyn lladd fy hun, o'n i'n meddwl bod dim pwrpas a lle i fi yn y byd, doedd dim gyda fi unrhyw reswm i ddihuno. O'n i mewn lle isel iawn.

"Wnaeth syrffio ddangos i fi beth galle bywyd fod a rhoi'r profiad o fod yn hapus i fi.

"Trwy hwnna o'n i wedi ffeindio rôl natur yn fy mywyd a 'mod ei angen i edrych ar ôl fy hun.

"Oedd hwnna wedyn wedi troi yn dŵl pŵerus iawn i ddechrau engagio yn fwy pwrpasol gyda'r therapi fwy traddodiadol o siarad."

Roedd gweld y newid yn ei mab yn rhyddhad enfawr i'w fam a oedd wedi treulio blynyddoedd cynnar ei arddegau'n ei anfon o un apwyntiad meddygol i'r llall.

Eglurai Dafydd fod ei symptomau corfforol yn sgil ei iselder wedi ei wneud yn anodd iddo dderbyn y diagnosis cywir sef iselder.

Meddai: "Tua diwedd blwyddyn wyth es i'n sâl iawn, ro'n i'n peswch drwy'r amser ac yn teimlo poen dros bob man ac yn gaeth i 'ngwely.

"Wnes i orffen lan yn Ysbyty Glangwili ac yno wnaeth un o'r doctoriaid ofyn i fi os o'n i wedi meddwl erioed fod iechyd meddwl yn underlyio popeth.

"Ar y pryd roedd mwy o stigma rownd iechyd meddwl a dim gymaint o ymwybyddiaeth."

dafydd yn dal y donFfynhonnell y llun, Dafydd Huw Rees-Millns
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd yn dal y don

Dychwelyd i fyd addysg

Ar ôl y cwrs syrffio 10 wythnos ar draethau Sir Benfro roedd gan Dafydd yr hyder i ddychwelyd i fyd addysg.

Aeth i astudio yng Nghanolfan y Gors sy'n rhoi cefnogaeth emosiynol i ddisgyblion ac fe wnaeth sefyll ei arholiadau TGAU yno.

"Wnes i ddechrau yng Nghanolfan y Gors drwy fynd yno am hanner diwrnod yn unig, yna diwrnod, ac erbyn cwpwl o fisoedd ro'n i'n mynd yno'n llawn amser.

"Ro'n i'n dal i syrffio. Dyna oedd yn rhoi'r egni i fi barhau drwy fyd addysg. Ro'n i'n teimlo fel rhywun yn y byd hwn unwaith eto."

Mae Dafydd yn pwysleisio nad bod yn syrffiwr gwych oedd ei nod wrth ddefnyddio syrffio fel dull arall o therapi.

Meddai: "Oedd syrffio yn rhoi cyfle i fi deimlo fel mod i'n cyflawni rhywbeth. Roedd rhoi wetsuit arno yn un targed, cerdded mewn i'r dŵr yn darged arall, a chario'r bwrdd yn darged pellach.

"Erbyn y diwedd ry'ch chi'n teimlo bod gyda chi'r sgiliau i neud hyn yn annibynnol."

DafyddFfynhonnell y llun, Dafydd Huw Rees-Millns
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd yn yr awyr agored

Byw gydag iselder a byw yn y presennol

Gam wrth gam, a thon wrth don, mae Dafydd yn gallu byw bywyd llawn erbyn hyn, er ei fod yn dal i fyw gydag iselder.

Ac mae ei brofiadau wedi ei ysbrydoli wrth feddwl am ei yrfa ei hun. Erbyn hyn mae Dafydd wedi graddio o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant mewn astudiaethau awyr agored ac mae ar hyn o bryd yn cwblhau cwrs meistr mewn seicoleg ym Mhrifysgol Exeter.

Ei obaith wedyn yw hyfforddi fel therapydd a'i gyfuno gyda therapi awyr agored fel therapi syrffio.

"Rwyf moyn gallu creu lle saff i bobl ifanc sy'n wynebu pethau fel oeddwn i. Dwi ddim yr un person ag oeddwn i ac mae hynny oherwydd fy mod wedi ffeindio'r tŵls sy'n gweithio i mi.

"Ydw, rwyf dal i gael cyfnodau isel ond rwyf wedi derbyn erbyn hyn nad yw bywyd yn fêl i gyd. Rwy'n gwneud fy ngorau i fyw yn y presennol.

"Fy nghyngor i unrhyw berson ifanc sy'n teimlo yr un fath ag oeddwn i yw i ofyn am gymorth ac i ffeindio ffordd o fod tu fas. Dwi'n credu yn gryf yn effaith meddyliol a chorfforol natur. "

DafyddFfynhonnell y llun, Dafydd Huw Rees-Millns
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd yn dringo

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: