'Dwi eisiau helpu plant eraill sy'n wynebu canser fel nes i'

Aeth Kathryn i'r ysbyty yn teimlo'n sâl a gyda phoen yn ei abdomen cyn darganfod bod ganddi ganser
- Cyhoeddwyd
Yn wyth oed cafodd Kathryn o Lanfair-ym-Muallt ddiagnosis o fath prin o ganser y gwaed o'r enw Bukitt Lymffoma.
"Teimlais yn ofnus i ddechrau, oherwydd dwi wedi clywed am ganser o'r blaen a dwi yn gwybod tamaid bach am beth sy'n mynd i ddigwydd, ond o'n i'n cwestiynu, 'ydy e'n mynd i fod yr un peth i fi?'," meddai.
Ar ôl derbyn triniaeth ysbyty dros gyfnod o rai misoedd, cafodd Kathryn wybod ym mis Mai ei bod yn glir o ganser.
Ei dymuniad nawr yw ceisio gwneud mwy i helpu plant eraill sy'n mynd drwy brofiadau tebyg yn y dyfodol.

Treuliodd Kathryn dros bum mis yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth
Mae Bukitt Lymffoma yn fath o lymffoma nad yw'n lymffoma Hodgkin neu'n non-Hodgkin lymffoma (NHL).
Mae'n effeithio ar gelloedd gwaed gwyn y corff ac mae'r symptomau sy'n gysylltiedig â'r math yma o ganser yn cynnwys:
poen difrifol yn yr abdomen
gwaed yn eich carthion
teimlo'n sâl neu'n chwydu
tymheredd uchel
Mae tua 85 plentyn (rhwng 0 a 14 oed) yn derbyn diagnosis o lymffoma nad yw'n lymffoma Hodgkin (NHL) yn y DU bob blwyddyn.

Roedd Kathryn am gael ei thrin yng Nghaerdydd yn hytrach na Bryste er mwyn bod yn agosach i'w theulu
O fewn dyddiau o gael ei diagnosis, fe deithiodd Kathryn i Gaerdydd er mwyn dechrau ar ei thriniaeth chemotherapi.
"Roedd yn flinedig iawn yn gorfforol ac yn emosiynol," esboniodd.
"Ar yr adeg hynny un o'r pethau helpodd fi fwyaf oedd fy nheulu achos roedden nhw yna pob dydd i fi ac roedd fy mam-gu a thad-cu yn dod lan a lawr pob dydd Mercher jyst i checio arnaf i, golchi dillad a gwneud llawer o bethau.
"Yr ail beth oedd wedi helpu oedd, wrth gwrs, y doctoriaid a nyrsys, ond hefyd elusen o'r enw LATCH."
Nyrsys a doctoriaid yn 'ffrindiau'
Mae LATCH Cymru yn elusen sy'n cefnogi teuluoedd sydd yn gweld un o'u plant yn derbyn diagnosis am ganser, gan ddarparu cefnogaeth emosiynol, ymarferol ac ariannol wedi'i theilwra'n bwrpasol.
"Doeddwn i ddim yn gwybod faint o amser oeddwn i'n mynd i fod yn yr ysbyty ar y dechrau a doeddwn i ddim wedi pacio unrhyw beth," meddai Kathryn.
"Roedden nhw (LATCH) wedi helpu fi gan roi pethau fel sawl tedi i fi, sanau a phast dannedd."

Dathlodd Kathryn ei phen-blwydd yn naw oed tra'n derbyn triniaeth yn yr ysbyty
Roedd Kathryn hefyd wedi derbyn cymorth gan dîm Plant Mewn Angen wrth iddi frwydro yn erbyn yr afiechyd.
"Mae plant mewn angen wedi helpu llawer hefyd. Roedd y nyrsys wedi helpu fi, ie gyda'r canser, ond hefyd gyda fy nheimladau oherwydd os oeddwn i'n ofnus am rywbeth roedden nhw'n jyst yna i helpu.
"Erbyn y diwedd doedden nhw ddim jyst yn nyrsys a doctoriaid ond hefyd yn ffrindiau ac yn teimlo fel oedden nhw'n rhan o fy nheulu hefyd."

Daeth cadarnhad bod Kathryn yn glir o ganser ym Mis Mai 2025 gan alluogi hi i adael yr ysbyty
Dros ei chyfnod yn yr ysbyty fe ddathlodd Kathryn sawl cam pwysig, gan gynnwys dathlu Dydd Gŵyl Dewi a'i phen-blwydd yn naw oed.
Ond y foment fwyaf oedd clywed ei bod hi'n glir o ganser ym mis Mai.
Ers hynny mae Kathryn wedi cadw'n brysur. Mae hi 'nôl yn yr ysgol ac ym mwynhau chwarae sboncen a gwneud jiwdo fel yr oedd hi cyn ei diagnosis.
Mae hi hefyd yn llysgennad ar gyfer yr elusen LATCH Cymru, gan godi arian ar eu rhan a chefnogi plant eraill sy'n wynebu sefyllfa debyg iddi hi.
"Os ti'n mynd trwy hyn jyst meddylia, dwi'n well nawr a dwi'n gwybod byddi di hefyd, felly dal yn dynn a ti'n mynd i fod yn well jyst parhau ymlaen gyda dy fywyd," meddai Kathryn.

Dyma Kathryn nawr yn dal yr unig wallt oedd gyda hi ar ôl wrth orffen ei thriniaeth, mae hi wedi penderfynu cadw'r gwallt mewn ffrâm i'w hatgoffa o'i siwrnai
Mae'n gobeithio gwneud mwy i helpu plant sy'n dioddef canser yn y dyfodol.
"Dwi eisiau aros yn llysgennad am mor hir a dwi'n gallu," meddai.
"Ond, dwi hefyd isie bod yn ddoctor neu nyrs pan dwi'n hŷn er mwyn helpu plant sy'n mynd trwy'r un peth a fi, sy'n wynebu canser, achos dwi'n meddwl dwi'n gallu helpu nhw mwy.
"Dwi wedi profi union yr un peth a maen nhw'n ei brofi.
"Dwi'n gallu gweud, 'ydy, mae fe yn brifo weithiau, ond ti'n mynd i fod yn well ac yn iach cyn hir'."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.