Adroddiad Hillsborough yn 'halen ar friwiau hallt iawn y teuluoedd'

Lluniau'r dioddefwyr
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 97 o bobl yn sgil trychineb Hillsborough yn 1989

  • Cyhoeddwyd

"Proses lafurus" sydd wedi "rhoi halen ar friwiau" y teuluoedd.

Dyna ddisgrifiad cyn-farnwr wrth drafod adroddiad i sut ddeliodd yr heddlu â thrychineb Hillsborough yn Sheffield yn 1989, gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi bod yn ymchwilio i'r digwyddiad a chanlyniadau penderfyniadau'r heddlu.

Bu farw 97 o gefnogwyr Lerpwl yn y drychineb, gyda llawer yn gweld mai cyfle olaf eu teuluoedd yn eu hymgyrch i sicrhau bod yr heddlu a'r awdurdodau yn derbyn cyfrifoldeb llawn am yr hyn ddigwyddodd.

Dywedodd y cyn-farnwr Nic Parry ei fod yn "syfrdanol" bod yr adroddiad wedi cymryd 12 mlynedd a "does dim dannedd" ganddo gan fod dim modd gweithredu.

Llun pen ac ysgwyddau o Nic Parry yn edrych yn syth i'r cameraFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Mae'r adroddiad yn dweud y byddai gan Brif Gwnstabl Sir De Efrog ar y pryd gwestiynau i'w hateb am gamddymddwyn difrifol.

Mae hefyd yn nodi y byddai 12 swyddog wedi wynebu camau disgyblu - petaen nhw'n dal i fod yn eu swyddi - oherwydd methiannau sylfaenol ar y diwrnod, ac ymdrechion i feio cefnogwyr am yr hyn ddigwyddodd.

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru dywedodd Nic Parry bod yr adroddiad yn "yn mynd mor bell ag enwi'r swyddogion rheiny".

"Ond gan fod yr adroddiad yn gorfod gweithredu ar be' oedd y rheole' a'r gyfraith adeg yr ymddygiad does 'na ddim grym i gosbi, does 'na ddim grym i ddod ag achos disgyblu achos mi oedd rhaid i chi fod yn eich swydd i hynny ddigwydd bryd hynny.

"Ma' rhein i gyd wedi ymddeol felly does dim modd dod ag unrhyw achos."

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn annhebygol iawn bydd y teuluoedd "byth yn fodlon ac fe allwch chi ddeall hynny".

"Ma' o bosib £150m wedi eu gwario a ma' hyd yn oed rhai o'r teuluoedd yn dweud heddiw y byddai wedi bod yn well gwario'r arian yna ar y Gwasanaeth Iechyd."

Maes pêl-droed HillsboroughFfynhonnell y llun, Cwestau Hillsborough
Disgrifiad o’r llun,

Fe geisiodd asiantaethau feio cefnogwyr am drychineb Hillsborough yn 1989

Mae'r BBC yn deall bod yr adroddiad llawn yn filoedd o dudalennau o hyd - ond mae'r fersiwn gafodd ei rhyddhau ddydd Mawrth yn llai na 400 o dudalennau ac yn crynhoi'r cyfan.

Ychwanegodd Mr Parry ei fod yn "ystyried bod pob cam wedi ei gymryd i geisio cyfiawnder - a be' ydy cyfiawnder mewn achos fel hyn ydy canfod y gwir a thanlinellu'r celwyddau a dyna sydd wedi digwydd".

"Beth sy'n syfrdanol yw bod hwn wedi cymryd 12 mlynedd a chost o filiynau o bunnau i'w baratoi.

"Dydy'r adroddiad yma ddim am newid y byd yn sicr yn gyfreithiol. Does gan yr adroddiad yma ddim dannedd.

"Be' ma'r adroddiad yn 'neud ydy dim mwy nac atgyfnerthu pedwar peth sydd wedi cael eu canfod o'r blaen."

Roger EdwardsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Roger Edwards ei fod yn teimlo "braidd yn euog" bod ei fab 12 oed wedi bod yno

Roedd Roger Edwards o Ruthun yn Hillsborough ar ddiwrnod y drychineb gyda'i fab 12 oed, Gareth, a dywedodd ei fod yn "teimlo braidd yn euog" bod ei fab wedi bod yno.

"'Da ni yn poeni braidd bod Gareth y mab wedi gweld pobl yn y body bags pan o'n i'n cerdded allan o'r cae tua awr ar ôl i'r drychineb ddigwydd" meddai.

"Dwi'n teimlo braidd yn euog deud y gwir bo' ni 'di rhoi o trwy hwnna."

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru dywedodd nad oedd yn deall pam nad oedd yr heddlu wedi sylweddoli beth oedd yn digwydd.

"Ar y diwrnod, be' o'n i'm yn dallt oedd o'dd gynno' ni seti ar y llinell hanner ac o'n i'n gallu gweld yn amlwg be' o'dd yn digwydd ond o'dd yr heddlu o'dd yn sefyll reit o flaen Leppings Lane – ac o'dd o'n amlwg o' nhw'n disgwyl am helynt a ddim yn gweld be' o'dd yn digwydd.

"Os o'n i'n gweld o llai na 100 llath i ffwrdd pam o nhw ddim yn gallu gweld o.

"Dyna'r rheswm ddaru gymaint o bobl farw o nhw mor ara' deg yn deall be' odd yn digwydd", meddai.

Ychwanegodd na fydd yr adroddiad yn gysur "achos o'n i'n flin hefo be' sy' 'di dod allan yn barod" ond mae'n "gobeithio bydd y gwir yn dod allan o'r diwedd".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig