Coffáu'r chwarel Gymreig fu'n amddiffyn trysorau adeg y rhyfel

Mae'r llechen yn coffáu cyfraniad Chwarel Manod adeg yr Ail Ryfel Byd
- Cyhoeddwyd
Mae rôl hanfodol ardal wledig yng ngogledd Cymru wrth amddiffyn trysorau cenedlaethol yn yr Ail Ryfel Byd yn cael ei goffáu gyda llechen newydd yn Llundain.
Er mwyn gwarchod celf amhrisiadwy rhag bomiau'r Natsïaid cafodd gwaith gan Botticelli, Vincent van Gogh, Michelangelo a Turner ymysg eraill, ei symud i Chwarel Manod ger Blaenau Ffestiniog.
Roedd y prif weinidog ar y pryd, Winston Churchill, yn gwbl sicr na ddylai unrhyw gelf gwerthfawr adael Prydain yn ystod y rhyfel, gan ddweud yn 1940: "Hide them in caves and cellars, but not one picture shall leave this island."
Mae llechen arbennig bellach wedi ei dadorchuddio yn Oriel Genedlaethol Llundain i gydnabod yr hyn ddigwyddodd.

Rhywfaint o'r gwaith yn cael ei gludo tuag at y chwarel
Wedi dros ganrif o gloddio, roedd gan Chwarel Manod fannau gwag a oedd yn ei gwneud yn addas i fod yn gartref dros dro i'r gwaith celf.
Roedd llywodraeth y cyfnod hefyd o'r farn fod yr ardal yma o Wynedd yn ddigon anghysbell fel y byddai'r celf yn ddiogel rhag unrhyw ddifrod bomio.

Tirwedd Eryri, a ddaeth yn gartref i rai o ddarnau enwocaf y byd celf
Cafodd y tabled sy'n coffáu'r hanes, a gafodd ei gwneud o lechen Chwarel Manod, ei chomisiynu gan Oriel Mostyn Llandudno, ei chynllunio gan yr artist Jeremy Deller, a'i cherfio gan John Neilson.
Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwilio Amgueddfa Cymru: "Mae hwn yn brosiect gwych sy'n coffáu digwyddiad hanesyddol pwysig, ond sydd hefyd yn cynnal crefftau a threftadaeth draddodiadol Cymru."
Bydd 'Tabled Manod' i'w gwled yng Nghyntedd Portico yn yr Oriel Genedlaethol yn Llundain.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd9 Mai 2024

- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2024
